# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
c cystadleuaeth3.jpg mil_2.jpg  
      Sioe Fawr ar Dachwedd 4ydd!

Noddir cystadleuaeth y rhifyn hwn gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae’r Ganolfan wedi ymrwymo’n gryf i gefnogi’r gymuned leol a darllenwch am y digwyddiadau sydd ar y gweill yn y ganolfan honno yn yr erthygl Canolfan Mileniwn Cymru.

Mae’r sioe Llyfr Mawr y Plant yn mynd i fod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn sicr ym myd y theatr yng Nghaerdydd. Bydd y sioe’n rhoi cyfle i chi ymweld â hen ffrindiau wrth i chi fynd am dro rhwng cloriau cyfeillgar Llyfr Mawr y Plant. Dyma sioe gerdd fywiog, yn llawn o hwyl a hen ffefrynnau ac yn llawn o chwerthin a chanu ar gyfer plant ac oedolion o bob oed. Gellir manteisio ar y cyfle hefyd i ddangos ychydig o gyfoeth ein storïau cynnar i ddysgwyr o bob lefel.

Er mwyn cael cyfle i ennill gwobr o ddau docyn i weld y sioe gyffrous hon, atebwch y cwestiwn canlynol:

      Beth yw enw’r stori am deulu o lwynogod yn Llyfr Mawr y Plant?

Anfonwch eich ateb atom gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau yn yr adran ‘Cysylltu.’ Cofiwch nodi eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn hefyd.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn atebion i’r gystadleuaeth hon yw
Dydd Llun, 20 Hydref 2008. Caiff enw’r enillydd ei dynnu o het ar y diwrnod hwnnw ac fe gyhoeddir enw’r enillydd yn rhifyn nesaf y Tiwtor ar ddechrau mis Rhagfyr

Cofiwch — mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb, boed yn diwtor, dysgwr, siaradwr Cymraeg neu bwy bynnag arall!
 
Pob lwc!

iidigwydd3.jpg