
Gyda’r tymor newydd wedi dechrau erbyn hyn gyda phob tiwtor, mae’n siŵr, yn ystyried y dulliau sydd wrth law, mae’n fwy perthnasol nag erioed felly mai ‘Dulliau Dysgu’ yw thema’r rhifyn hwn. Emyr Davies sydd yn rhoi sylw manwl i Ddrilio wrth i Ioan Talfryn sôn am Ddad-Awgrymeg. Byddwn yn parhau â’r thema hon yn y rhifyn nesaf hefyd a’r gobaith yw adeiladu ar y rhagflas cychwynnol hwn drwy gynnwys yn rhifyn mis Tachwedd ail ran yr erthygl ar Ddad-Awgrymeg, yn ogystal â chynnwys erthygl am weledigaeth un o fawrion y Gymraeg am y maes Cymraeg i Oedolion, sef Bobi Jones.
Un arall o drysorau’r rhifyn hwn yw darn gan Steve Morris ar Ddatblygu Geirfa Graidd. Cafodd gyfle i rannu ei wybodaeth am yr eirfa graidd yng Nghynhadledd ALTE yn Krakow eleni.
Cawn straeon am rai o’n dysgwyr tramor wrth i Chris Reynolds deithio i America gyda Chymdeithas Madog, ac wrth i Clare Whitehouse rannu ei phrofiadau yn y Wladfa. Rhaid sôn am y ‘Steddfod wrth gwrs, a llongyfarchwn Kay Holder ar ei llwyddiant, yn ogystal ag enillydd Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas. Bu CBAC yn brysur yn Eisteddfod 2011 hefyd yn cyflwyno Tystysgrifau i rai dysgwyr, a thybed a wyddoch chi pa diwtor a Urddwyd eleni ynghyd â nifer o’r dysgwyr?
Rydym hefyd yn sôn am Adnoddau yn y rhifyn hwn gan roi sylw i un o’r datblygiadau diweddar mwyaf cyffrous, sef y cwrs Cymraeg i’r Teulu, ac mae Philippa Gibson yn esbonio pam ei bod hi’n Taclo’r Treigladau.
![]()
Ewch i’r adran Gystadleuaeth os hoffech ennill copi o’r llyfr cwrs newydd, sef Cymraeg i’r Teulu, yn ogystal â phecyn o gardiau fflach.
Yn ogystall, cawn Newyddion o’r canolfannau a chawn wybod hefyd o’r Proffil Tiwtor ai dyma’r tiwtor CiO cyntaf erioed i ymddangos ar Pobol y Cwm!

![]()
Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau’n ymwneud â’r Treiglad Meddal ac mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu adnoddau ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os oes gennych chithau hefyd adnoddau i’w rhannu.
Bydd rhifyn nesaf Y Tiwtor ym mis Tachwedd yn rhifyn arbennig iawn gan mai dyna fydd y rhifyn olaf cyn dyfodiad y Moodle cenedlaethol. Mwy o fanylion i ddod!
![]()
![]()

