Ym mis Gorffennaf teithiodd pedwar tiwtor o Gymru i dalaith Virginia i ddysgu ar Gwrs Dyffryn Shenandoah i Gymdeithas Madog. Cynhaliwyd y cwrs ar gampws Prifysgol Shenandoah yn ninas Winchester, lleoliad sawl brwydr yn Rhyfel Cartref America, man geni’r gantores enwog Patsy Cline (honno a ganodd Crazy) a chartref Daniel Morgan, un o arwyr Rhyfel Annibyniaeth America.
Dechrau’r daith oedd mynd ar y bws i Heathrow, gyda Chris Reynolds a Mark Stonelake yn cychwyn o Abertawe, Angharad Devonald yn ymuno yng Nghaerdydd a phrif diwtor y cwrs, Geraint Wilson Price, yn cwblhau’r tîm o Gymru yng Nghasnewydd. Ymlaen i’r maes awyr a siwrne wyth awr mewn awyren cyn glanio yn Dulles, Washington, a thacsi i ganol prifddinas yr Unol Daleithiau. Cafwyd cwpl o ddyddiau yn ‘DC’ yn ymgyfarwyddo â chloc yr UDA a’r gwres crasboeth cyn mynd draw i Virginia a champws y coleg a chwrdd â myfyrwyr y cwrs. Roedd cymysgedd o wynebau cyfarwydd a rhai newydd, rhai o dras Gymreig, rhai sydd wedi symud o Gymru a rhai heb unrhyw gyswllt o gwbl â’r wlad ond sydd yn dysgu oherwydd diddordeb.
Cafwyd wythnos lawn o ddysgu, gwersi ar saith lefel, bron i hanner cant o ddysgwyr a llawer iawn o hwyl! Yn ogystal â gwersi cynhaliwyd cyfres o weithdai a gweithgareddau cymdeithasol. Dim ond un ymweliad â’r ysbyty oedd angen yn dilyn y twmpath, ac anafwyd neb yn ystod y cwis. Trefnwyd gwibdaith i dref hanesyddol ‘Harper’s Ferry’ lle’r oedd John Brown wedi ceisio dechrau gwrthryfel yn erbyn caethwasiaeth. Ofer fu ei ymdrechion i arfogi’r caethweision drwy ymosod ar yr arfdy yno, a chafodd ei ddal a’i grogi. Serch hynny, cyfrannodd y cyrch yn fawr at danio Rhyfel Cartref America a daeth ‘John Brown’s Body’ yn enwog fel ymdeithgan.
‘Patagonia’ oedd ffilm yr wythnos ac roedd pawb wrth eu bodd gyda’r stori a’r perfformiadau. Mae gan y gymdeithas gyswllt agos â’r ffilm oherwydd daeth Grenville Thomas, un o gyfarwyddwyr y ffilm, i Gaerdydd fel aelod o gwrs Madog yn 2010. Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn gyda theilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair, a chyda’r Noson Lawen ar nos Sadwrn a’r gwasanaeth ar fore dydd Sul, daeth y cwrs i ben a daeth yr amser i ffarwelio eto â ffrindiau da.
Gyda’r gwaith caled drosodd cafodd y tiwtoriaid o Gymru gyfle i ymlacio a mwynhau ychydig cyn troi nôl at Gymru. Treuliwyd pedwar diwrnod prysur iawn yn ymweld â bron pob peth sydd i’w weld o gwmpas Washington DC: Y Newseum, Y Tŷ Gwyn, Bryn y Capitol, Archifau Cenedlaethol, Mynwent Arlington, Amgueddfa’r Awyr a’r Gofod, Amgueddfa Americanwyr Brodorol ac Amgueddfa Hanes yr Unol Daleithiau. Gyda’r nos cafwyd amser i geisio llefydd bwyta enwog ardal Dupont Circle. Ar ôl ffarwelio ag Angharad fe deithiodd y tri arall i ddinas Boston am bum diwrnod. Roedd y daith trên yn wych wrth fynd trwy ddinasoedd Baltimore (profiad arbennig i ffans y ‘Wire’!), Philadelphia, Efrog Newydd ac ymlaen trwy Connecticut a Rhode Island cyn cyrraedd Massachussets. Ar ôl gadael popty Virginia & Washington (105 gradd ar y diwrnod gadawon ni), roedd yn braf iawn cyrraedd ardal gyda thymheredd ‘dim ond’ yn yr 80au…
Lle â chysylltiadau hanesyddol iawn yw Boston. Yma roedd y Tea Party, a’r lladdfa arweiniodd yn y pendraw at Ryfel Annibyniaeth America. Yma hefyd oedd brwydr Bunker Hill, un o brif frwydrau'r rhyfel a throbwynt yn yr ymgyrch yn erbyn byddin Prydain. Mae’r ddinas hefyd yn gartref i ‘Whitey’ Bulger, troseddwr a ddaeth i amlygrwydd yn y 1970au/1980au ac sydd yn sail i gymeriad Jack Nicholson yn y ffilm The Departed. Mae Bulger ar fin sefyll o flaen ei well a disgwylir i lawer o straeon diddorol iawn am ei gydweithrediad â’r FBI ddod i’r golwg.
Yn rhan o’r daith i Boston treuliwyd diwrnod mewn tref gyfagos o’r enw Salem, sef lleoliad yr achosion erchyll yn erbyn ‘gwrachod’ yn yr ail ganrif ar bymtheg. Lladdwyd ugain o bobl fel canlyniad i’r achosion a seilir drama Arthur Miller The Crucible ar ddigwyddiadau trist y cyfnod. Wrth gyrraedd nôl o Salem daethon ni ar draws cyngerdd Caliente oedd ar fin dechrau yng nghanol y ddinas ac felly penderfynwyd treulio cwpl o oriau pleserus yng nghwmni cerddoriaeth y band Ritmo Masacote a Milly Quezada, enillydd ‘grammy’ ac un o sêr mwya’r byd canu ‘merengue’.
Yn fuan iawn daeth yr amser i ffarwelio â Boston a theithio draw i faes Awyr Logan, a dechrau’r daith hir yn ôl i Gymru fach oer a gwlyb.