Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl urddo

O'r chwith 
Felicity Roberts – Tiwtor Cymraeg i Oedolion, Gwyneth Tyson Roberts, Madison Tazu - Dysgwr y Flwyddyn 2008,Jaci Taylor - Swyddog Datblygu Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, Tamsin Cathan Davies - Swyddog Cydlynu Darpariaeth Gymraeg Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

llinell

Urddwyd Felicity Roberts a phedair o'i myfyrwyr sydd wedi mynychu ei dosbarthiadau yn Aberystwyth, yn aelodau o Orsedd y Beirdd fore Llun, 1 Awst 2011 gan yr Archdderwydd, Jim Parc Nest.

Bu Jaci’n fyfyrwraig Cymraeg i Oedolion yn nifer o ddosbarthiadau Felicity yn yr 80au cynnar, ac arweiniodd hynny maes o law at iddi gael swydd fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, yna fel Swyddog Datblygu GWELED, Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr CYD. Yn 2007 wedi i Fwrdd yr Iaith Gymraeg atal grant CYD penodwyd Jaci i weithio fel Swyddog Datblygu yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru.

Bu Tamsin yn dilyn cyrsiau Cymraeg i Oedolion dros nifer o flynyddoedd dan ofal Felicity gan gynnwys cyrsiau ar lefel Uwch a Hyfedredd. Bu’n llwyddiannus yn nifer o arholiadau CBAC gan gynnwys tri modiwl ar lefel Hyfedredd. Yn ogystal â hynny mae hi wedi ennill Tystysgrif Prifysgol Aberystwyth mewn Cymraeg i Oedolion. Mae hithau, fel Jaci, wedi cael swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, a bellach yn gweithio fel Swyddog Cydlynu Darpariaeth Gymraeg Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd Jaci a Tamsin yn mynychu un o ddosbarthiadau Felicity i baratoi at sefyll arholiadau Gorsedd y Beirdd – Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd). Bu’r ddwy yn llwyddiannus mewn dau arholiad.

Ar yr un pryd â dilyn cyrsiau gyda Felicity gwnaeth Gwyneth Tyson Roberts radd allanol yn y Gymraeg gyda Phrifysgol Aberystwyth. Urddwyd hi a Felicty ar gyfrif eu graddau (Urdd Llenor - Gwisg Las). Mae Felicity yn rhugl yn y Wyddeleg hefyd, ac fel rhan o’i gradd MA cyfieithodd lyfr Gwyddeleg i’r Gymraeg. Mae Gwyneth yn awdur ar lyfr safonol ar Frad y Llyfrau Gleision (Gwyneth Tyson Roberts, The Language of the Blue Books: the perfect instrument of empire (Cardiff, 1998)).

Urddwyd Madison wedi iddi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 (Urdd Ofydd Er Anrhydedd). Eleni bu Madison yn dilyn dau gwrs gyda Felicity, y naill yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, a’r llall yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Erbyn hyn mae Madison wedi dechrau ail flwyddyn ei chwrs gradd yn y Gymraeg.

Bu Jackie Willmington hefyd yn fyfyrwraig gyda Felicity am flynyddoedd lawer gan weithio drwy system arholiadau CBAC a phasio arholiadau Canolradd ac Uwch. Mae Jackie hefyd wedi ennill Tystysgrif Prifysgol Aberystwyth mewn Cymraeg i Oedolion. Penderfynodd sefyll arholiad cyntaf Gorsedd y Beirdd yn unig eleni, sef Arholiad Cyfansawdd (Bardd Ofydd 1, Iaith Ofydd 1, Llên Ofydd 1).  Wedi pasio yr arholiad cyntaf hwn bwriad Jackie yw sefyll yr ail arholiad y flwyddyn nesaf, yn ogystal â mynd ymlaen i gwblhau modiwlau Hyfedredd CBAC. Mae’r Gymraeg yn ddefnyddiol iawn i Jackie yn ei swydd fel milfeddyg

Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt.

 

llinell