Ym mis Gorffennaf eleni, bu Emyr Davies [Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC] a Steve Morris [Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru, Prifysgol Abertawe] ym 4edd Gynhadledd Ryngwladol ALTE ym Mhrifysgol Jagiellonaidd Kraków yng Ngwlad Pwyl. Dyma grynodeb o sesiwn Steve ar ei waith yn paratoi geirfa graidd ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen yn y Gymraeg.
O’i chymharu ag iaith fel Saesneg gyda’i chorpora enfawr a helaeth, does dim adnoddau tebyg (yn enwedig ar gyfer yr iaith lafar) gan iaith ‘lai ei defnydd’ fel y Gymraeg. Dyfynnwyd cyfarwyddwr un o’n Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn adroddiad SCYA ar y ddarpariaeth ddwys yn 2008 (tud.48):
“Rydyn ni wedi llunio ein cyrsiau ar sail ein profiad proffesiynol, neu
beth ydyn ni’n meddwl y mae pobl yn ei ddweud. Does yna ddim tystiolaeth ein bod ni’n dysgu’r cystrawennau a’r geiriau sy’n angenrheidiol.”
Datblygwyd y gwaith ar greu geirfa graidd Mynediad a Sylfaen i’r Gymraeg er mwyn mynd i’r afael â heriau fel y dyfyniad uchod a’r angen i sicrhau bod y Gymraeg (fel ieithoedd modern eraill) yn nodi pa eirfa y mae angen i’n dysgwyr ei gwybod er mwyn cyrraedd lefel benodol yn y fframwaith asesu cenedlaethol.
Mae diffyg corpws addas yn y Gymraeg wedi’i seilio ar yr iaith lafar (yn hytrach na’r iaith ysgrifenedig) yn rhwystr amlwg rhag cynhyrchu rhestri geirfa dibynadwy a chywir i faes Cymraeg i Oedolion. Felly, er mwyn ceisio creu’r geirfâu sydd eu hangen, byddai angen methodoleg wahanol. Yn ffodus iawn, roedd modd cydweithio ag un o gewri byd-eang maes ymchwil i eirfa, sef yr Athro Paul Meara, ym Mhrifysgol Abertawe ac o dan ei arweiniad a’i gyfarwyddyd hael e, penderfynwyd addasu methodoleg a ddefnyddiwyd i lunio français fondamental ar gyfer yr iaith Ffrangeg.
Bydd nifer o diwtoriaid sy’n darllen yr erthygl yma yn Y Tiwtor yn gyfarwydd â’r fethodoleg sy’n cael ei disgrifio yma achos roedden nhw’n ddigon caredig i gyfrannu rhywfaint o’u hamser at y prosiect yn wythnosol dros gyfnod o tua hanner blwyddyn. Hoffwn gofnodi yma fy niolch enfawr i bob un ohonoch am wneud hyn a dioddef sawl e-bost gen i yn eich atgoffa bod angen anfon cyfraniad erbyn rhyw ddyddiad arbennig a thorri ar draws eich gwaith pob dydd. Oni bai amdanoch chi, ni fyddai’r geirfâu hyn gyda ni heddiw.
Penderfynwyd casglu’r data trwy ofyn i ddeg tiwtor profiadol o bob un o’r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion (gyda chyfanswm felly o chwe deg o gyfranwyr) gyfrannu at y prosiect. Trwy weithio fel hyn, byddai modd sicrhau digon o amrywiaeth o ran cefndir a phrofiad o fewn y maes yn ogystal â chymysgedd o dafodieithoedd. Gan ddefnyddio gwaith français fondamental fel man cyfeirio, pennwyd pump ar hugain o gategorïau ar gyfer yr ymchwil (gyda’r pump olaf yn cael eu cytuno trwy drafod ac ymgynghori â’r cyfranwyr).
Dyma’r categorïau:
- Rhannau o’r corff
- Afiechydon
- Dillad
- Cartref: Ystafelloedd, celfi
- Cartref: Gweithgareddau, peiriannau
- Y gegin – coginio
- Bwyta ac yfed
- Trafnidiaeth, teithio
- Swyddi
- Byd gwaith
- Mynd allan
- Chwaraeon a hobïau
- Anifeiliaid
- Teulu
- Canol y dre / siopa
- Yn y wlad
- Gwyliau
- Cyfathrebu
- Y tywydd
- Disgrifio pobl
- Yr ysgol
- Byd plant
- Dysgu iaith
- Adeiladau
- 20 berf ddefnyddiol
Dywedwyd wrth y cyfranwyr y bydden nhw’n derbyn un categori bob wythnos (o’r rhestr uchod) ac y byddai disgwyl iddyn nhw nodi’r ugain gair oedd, yn eu barn a’u profiad nhw, fwyaf hanfodol i oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg ar lefel A1. Câi’r cyfranwyr nodi enwau, ansoddeiriau neu ferfau ond yr ystyriaeth bwysicaf bob tro oedd rhestru’r ugain gair a fyddai’n gwbl angenrheidiol er mwyn i ddysgwyr allu cyfathrebu’n effeithiol ar lefel A1 [Mynediad] yn y Gymraeg felly, er enghraifft, fe fyddai disgwyl i’r enw ciymddangos yn uchel yn y rhestr o anifeiliaid ond byddai’r tebygolrwydd o enw fel udfil yn ymddangos yn y rhestr yn isel iawn! Dylid ychwanegu bod y cyfranwyr wedi cael eu hannog i nodi ffurfiau tafodieithol pan fyddai’n briodol. Prif ystyriaeth yr ymchwil oedd natur hanfodol geiriau yn hytrach nag amrywiadau o ran eu cynhyrchiad. Er enghraifft, nodir y cysyniad o ‘hylif gwyn y mae buwch yn ei gynhyrchu ac mae pobl yn ei yfed’ yn hytrach na llaeth a llefrith ar wahân.
Diolch unwaith eto i gymorth ac arweiniad parod yr Athro Paul Meara, addaswyd ei raglen V_tools er mwyn hwyluso cyflwyno a phrosesu’r data. Anfonwyd y cyfraniadau trwy wefan o’r enw ‘Gair y Ganrif’ a grëwyd gan Paul ac ar ôl derbyn pob cyfraniad, roedd modd cynhyrchu rhestr amlder ar gyfer pob eitem o dan bob categori unigol. Trwy gael gwared ar unrhyw eitemau oedd ond yn ymddangos unwaith, cafwyd rhestr gychwynnol ar sail amlder – hynny yw, faint o weithiau roedd cyfranwyr wedi nodi geiriau ym mhob categori.
Ar ôl cwblhau’r holl restri, unwyd y pump ar hugain o setiau mewn un ffeil fawr a chreu rhestr o’r holl eitemau yn ôl yr wyddor. Er mwyn sicrhau bod geiriau ffwythiannol a ffurfiau gramadegol sylfaenol fel rhagenwau, y fannod, cysyllteiriau ac ati yn cael eu cynnwys, penderfynwyd defnyddio CEG [Cronfa Electroneg o Gymraeg – Prifysgol Bangor] ac ymgorffori’r pedwar can eitem â’r amlder mwyaf yn yr hyn oedd bellach yn cael ei alw’n Eirfa Graidd. Ar ôl gwneud hynny, roedd 1,900 o eitemau yn yr Eirfa – llawer gormod i’w cynnwys mewn rhestri A1 ac A2 penodol (sydd yn cynnwys tua 500 – 800 o eitemau yr un mewn ieithoedd eraill).
Gyda chymorth parod Marc Stonelake, Swyddog Cwricwlwm y Ganolfan, gwiriwyd y rhestr yn ôl y deunyddiau cwrs a ddefnyddir yng nghyrsiau Mynediad a Sylfaen y De-orllewin a’u mapio yn erbyn ei gilydd. Roedd yr ymarfer yma’n fodd i ni gymharu’r amlder go iawn yn atebion y cyfranwyr â’r lefel y mae’r eitemau yn ymddangos yn y cwricwlwm. Roedd hyn yn ddefnyddiol (ond ddim yn derfynol) wrth greu’r rhaniad rhwng lefelau Mynediad a Sylfaen.
Ar sail y broses yma, roedd modd paratoi dwy restr dros dro ar gyfer Mynediad [768 eitem] a Sylfaen [538 eitem]. Un her o ran y gwaith yma oedd penderfynu cynnwys (neu beidio â chynnwys) benthyciadau o’r Saesneg y gellid dadlau eu bod yn ffurfiau goddefol y byddai siaradwyr Saesneg yn eu deall yn hawdd, ee jar, jam, problem, ffilm, car ac ati. Er bod y ffurfiau yma’n hawdd eu hadnabod i siaradwyr Saesneg, dydy hynny ddim yn golygu, o angenrheidrwydd, y byddan nhw’n gwybod ymlaen llaw mai jar yw jar yn Gymraeg. Ar ben hynny, beth sy’n gywir jar mawr neu jar fawr? Beth yw mwy nag un jar – jariau, jarau neu jars? Am y rhesymau hyn, mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau a nodwyd wedi aros yn y rhestri ac yn cael eu trin fel unrhyw eitemau eraill.
Un o brif ganlyniadau’r ymchwil yma oedd hysbysu a hwyluso arholi ac asesu dysgwyr ar lefelau Mynediad a Sylfaen. Felly, ar ôl cyrraedd y cam yma yn y gwaith, roedd angen cynnwys aelodau’r gweithgorau arholi priodol yn y broses o fireinio’r rhestri er mwyn sicrhau:
- y byddai eu cynnwys yn cael eu derbyn ym maes Cymraeg i Oedolion a chytundeb cyffredinol ynglŷn â’r hyn sydd yn y cynnwys hwnnw;
- y gallai’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn asesiadau Mynediad a Sylfaen gael ei fapio yn ôl y rhestri arfaethedig;
- pan benderfynwyd symud eitemau i lefel wahanol, bod hyn yn cael ei wneud ar sail meini prawf roedd pawb wedi cytuno arnyn nhw. Mireiniwyd y broses yma ymhellach mewn cyfarfodydd â swyddogion y tîm arholi yn CBAC.
Cwblhawyd y rhestr Mynediad derfynol ym mis Awst 2010 a’r rhestr Sylfaen derfynol fis yn ddiweddarach. Mae 616 eitem ar lefel Mynediad a 515 ar lefel Sylfaen. Mae’r eitemau wedi’u rhestru yn eu ffurf safonol ee Anafu yn hytrach na ‘Nafu a rhestrir unrhyw amrywiadau yn y golofn nesaf (>>> Poeni / Brifo) ynghyd ag unrhyw idiomau neu gyfleoliadau posibl (cael anaf) yng ngholofn tri. Ni chynhwysir y canlynol yn y rhestri:
- Berfau wedi’u rhedeg, felly golchi ü ond nid golchais
- Arddodiaid wedi’u rhedeg, felly ar ü ond nid arno
- Ffurfiau wedi’u treiglo, felly merch ü ond nid ferch
- Enwau trefi/dinasoedd: Abertawe, Llundain, Caeredin
- Ffurfiau cymharol ansoddeiriau, er enghraifft llai na
- Ymatebion a chynffoneiriau
- Rhai geiriau gramadegol fyddai ond yn codi mewn patrymau penodol, ee piau neu mai/taw
Mae’r ddwy restr graidd yn cynnwys eitemau cynhyrchiol a goddefol.
Sut caiff yr Eirfa Graidd ei defnyddio?
Yn ymarferol, mae’r rhestri yn golygu bod gan aseswyr ac arholwyr erbyn hyn syniad clir o ba eiriau i’w defnyddio ar lefelau Mynediad a Sylfaen mewn deunyddiau arholi. Os nad yw eitem yn ymddangos yn y rhestr briodol yna mae’n rhesymol cynnig esboniad i ymgeiswyr neu gyfieithiad Saesneg o’r eitem yna. Bellach, mae penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud ar sail ymchwil gadarn yn hytrach na greddf aelodau’r gweithgorau arholi. Mae’r rhestri’n darparu fframwaith geirfaol y mae modd paratoi cwestiynau arholi a deunyddiau asesu oddi mewn iddo gyda’r disgwyliad y bydd pob dysgwr sy’n rhoi cynnig arnyn nhw yn gyfarwydd â’r eirfa briodol ar y lefel berthnasol.
Erbyn hyn, mae llunwyr cwricwlwm yn fwy ymwybodol o’r adnodd yma ac yn ei ymgorffori yn eu gwaith. Mae cadw cysylltiad â thafodieithoedd lleol yn elfen bwysig o lunio cwricwlwm yng nghyd-destun Cymraeg i Oedolion a dydy’r Eirfa Graidd ddim yn milwrio yn erbyn hynny. Enghraifft o hyn fyddai’r eitem A1 gorffen. Dydy’r ffaith fod y ffurf wedi’i nodi fel gorffen ddim yn golygu na all llunwyr cwricwlwm ddefnyddio cwpla neu bennu. Yr eitem eirfaol sy’n bwysig yn hytrach na sut mae’n cael ei gwireddu. Nid bwriad y gwaith yma, chwaith, yw bod llunwyr cwricwlwm wedi’u cyfyngu i’r 616 o eitemau yn rhestr derfynol lefel Mynediad yn unig wrth baratoi deunyddiau. Nid yw’r gwaith yn cau allan ychwanegu geirfa ehangach. Y pwynt pwysig yw y byddai disgwyl i ddysgwyr fod yn gyfarwydd â’r eitemau creiddiol ond ddim o angenrheidrwydd â’r eitemau hynny nad ydynt yn rhain o’r craidd - ac mae hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun asesu.
Mae’r eirfa graidd wedi bod yn sail i’r adnodd dysgu geirfa arloesol sy’n cael ei ddatblygu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, sef defnyddio cardiau fflach fideo yn ôl themâu ar iTunes. Gall dysgwyr ddefnyddio’r rhain i ehangu a chadarnhau eu gwybodaeth o eiriau ar lefel Mynediad ac mae’n debyg fod pedwar categori o blith rhai’r Eirfa Graidd wedi’u cwblhau hyd yn hyn, sef y tywydd, rhannau o’r corff, swyddi a bwyta/yfed. Mae nifer o randdeiliaid eraill wedi cysylltu dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn defnyddio’r Eirfa Graidd mewn deunyddiau/adnoddau sy’n cael eu datblygu.
Megis dechrau rŷn ni yn y Gymraeg ar hyn o bryd: mae adborth rhai o’r cynadleddwyr eraill yn Kraków wedi bod o gymorth mawr wrth i ni geisio datblygu a mireinio’r Eirfa Graidd Mynediad a Sylfaen. Er enghraifft, ‘amlystyredd’ sydd yn ystyriaeth bwysig mewn Saesneg. Mae’r enw bwrdd yn eitem Mynediad yn yr ystyr sy’n cyfateb i bord ond a ddylid ei gynnwys ar y lefel yna gyda’i ystyr arall, sef pwyllgor >>> bwrdd rheoli?
Gobeithio y bydd y rhestri Mynediad a Sylfaen ar gael ar wefan Canolfan y De-orllewin yn weddol fuan. Nod arall yw rhoi’r gwaith at ei gilydd a’i gyhoeddi mewn rhestri gydag enghreifftiau pwrpasol (gan gynnwys nodi’r ystyr berthnasol ar gyfer y lefel briodol) ynghyd ag awgrymiadau i’r dysgwyr ynglŷn â strategaethau dysgu geirfa posibl. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y gwaith i lefel Canolradd ac o bosib, Uwch. Cyhoeddir manylion am y datblygiadau hyn yn Y Tiwtor maes o law.