Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cystadleuaeth

Gwenllian Beynon, yr arlunydd, oedd yn cynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn diwethaf, a’r wobr oedd un o’i lluniau gwreiddiol.

Y cyfan oedd yn rhaid i chi ei wneud oedd ateb y cwestiwn hwn:

Ble mae cartref presennol Gwenllian Beynon?

Yr ateb wrth gwrs yw Pontrhydfendigaid, a’r enillydd yw Meleri Davies o Gaerdydd.

llun cystadleuaeth

llinell

cystadleuaeth newydd

clawr CiTCymraeg i’r Teulu

Fis Medi eleni cyhoeddwyd rhan gyntaf cwrs arbennig, sef cwrs Cymraeg i’r Teulu. Mae’r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer rhieni ac eraill sydd yn gofalu am blant oedran y Cyfnod Sylfaen (0-7 oed) yn y cartref, ond bydd hefyd yn berthnasol i staff cylchoedd meithrin, athrawon ysgol ac eraill fydd am ddefnyddio’r iaith gyda phlant.  Nod y cwrs yw dysgu iaith yn y dosbarth i oedolion ei defnyddio gartref rhwng y sesiynau; nid yw wedi ei fwriadu ar gyfer dysgu gyda’r plant mewn dosbarth. 

Mae’r cwrs yn ei gyfanrwydd yn cynnwys 60 uned x 2 awr yr un. Mae’r rhan gyntaf (sef Mynediad 1) yn cynnwys unedau 1-30, ac mae’r ail ran (Mynediad 2) yn cynnwys 31-60.

blodyn CiTMae’r unedau’n dilyn y drefn isod (ac eithrio’r unedau adolygu: nid oes yn y rheiny batrymau newydd, deialog na chân).

  1. Patrymau
  2. Nodiadau
  3. Gweithgareddau ymarfer
  4. Gwaith ynganu (Seiniau’r Gymraeg) – Unedau 1-12
  5. Deialog
  6. Cân (neu rap)
  7. Geirfa’r uned nesaf
  8. (ar y CD yn unig) Profwch eich hunan

Os hoffech ennill copi o lyfr cwrs Blwyddyn 1, yn ogystal â phecyn Cardiau Fflach Bach CBAC 2, atebwch y cwestiwn canlynol:

Faint o unedau sydd yn y cwrs Cymraeg i’r Teulu cyfan?

Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu, a’r dyddiad cau yw 28 Hydref, 2011.

Pob lwc!

 

llinell