Dad-Awgrymeg > Y Grym sydd mewn Awgrym
gan Ioan Talfryn
Prif weithredwr Popeth Cymraeg, Dinbych
a chwmni hyfforddiant Rhagoriaith
Cafodd Ioan ei hyfforddi gan Dr. Georgi Lozanov, sylfaenydd y dull Dad-Awgrymeg ac mae’n is-gadeirydd LITA (Lozanov International Trainers Association). Mae dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau Dad-Awgrymeg yn medru (ac wedi) pasio Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd ar ôl 180 awr (tua hanner yr amser arferol).
Yn yr erthygl hon mae Ioan yn sôn am hanfodion y dull, yn cywiro rhai camdybiaethau ac yn rhoi amlinelliad o’r prif gamau y bydd tiwtor Dad-Awgrymaidd yn eu dilyn. Mae hefyd yn cyfeirio at ei waith ymchwil i Gaffael Iaith a Damcaniaeth Cymhlethdod.
Ni ellir dysgu Dad-Awgrymeg heb hyfforddiant trylwyr, estynedig.
Cynnwys yr erthygl
Rhan 1:
i) Y Dull Mewnbwn Anferth
ii) Y Cefndir Hanesyddol
iii) Y Dull Ymryddhaol
iv) Canllawiau Cyffredinol
i) Dad-Awgrymeg – Y Dull Mewnbwn Anferth
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Dad-Awgrymeg, y dull addysgu arloesol o Fwlgaria, wedi cael cryn dipyn o sylw yma yng Nghymru, yn rhannol oherwydd y rhaglenni teledu Cariad@iaith a’r SelebritiCariad@iaith gwreiddiol (nid yr un ddiweddaraf) oedd yn darlledu detholiad o’r cyrsiau Dad-Awgrymeg oedd yn sail i’r rhaglenni hynny. Mae rhai tiwtoriaid unigol hefyd wedi mynychu sesiynau blasu neu gyflwyniadol a gynhaliwyd gennyf oedd yn rhoi cipolwg o’r hyn sy’n digwydd ar gwrs Dad-Awgrymeg.
Yn anffodus, mae’r darllediadau dethol a’r cipolygon uchod ar gyrsiau hyfforddi, er yn ddefnyddiol iawn o ran tynnu sylw at fodolaeth Dad-Awgrymeg, wedi esgor ar gamddealltwriaeth sylfaenol ynglŷn â gwir hanfod y dull. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer cynyddol o diwtoriaid wedi dod ataf, yn llawn brwdfrydedd, i holi a oes modd defnyddio ychydig bach o Ddad-Awgrymeg yn eu cyrsiau traddodiadol neu lunio cwrs sydd ychydig bach fel Dad-Awgrymeg. Yr ateb i hynny, yn syml, yw Nac oes. Mae’n fater o naill ai neu. Ac mi geisia’ i esbonio isod paham nad yw hynny’n bosib.
I’r rhan fwyaf o diwtoriaid yr hyn yw Dad-Awgrymeg yw dull sy’n defnyddio stori a cherddoriaeth a gemau gwirion a thaflu teganau ac ati i wneud y broses o ddysgu’n hwyl. Ac mae cyrsiau Dad-Awgrymeg yn hwyl, wrth gwrs. Yr hyn sydd ar goll o’r darlun hwnnw, fodd bynnag, yw craidd y dull sef y swm anferth o iaith gymhleth a chyfoethog a gyflwynir i’r dysgwyr yn y wers gyntaf. Yr hyn a olygir gan “swm anferth o iaith gymhleth a chyfoethog” yw nid rhyw un dudalen o ddeialog yn cyflwyno rhwng 20 a 50 gair newydd ac un neu ddau strwythur gramadegol ond dros 800 gair newydd (a naddo, wnes i ddim teipio gormod o seros yn fan’na) a bron i holl ramadeg yr iaith. A hynny i gyd yn y wers gyntaf, cofier.
Dim ond allanolion yw’r gweithgareddau hwyliog y soniais amdanynt uchod, mewn gwirionedd – cynffon yr anifail, nid yr anifail ei hun. Gellid defnyddio rhai o’r gweithgareddau a’r gemau a ddefnyddir ar gwrs Dad-Awgrymeg ar gyrsiau traddodiadol hefyd ond fyddai hynny ddim yn eu gwneud nhw’n gyrsiau Dad-Awgrymeg (neu hyd yn oed, dipyn bach yn Ddad-Awgrymaidd). A dydy’r ffaith fod yr iaith yn cael ei chyflwyno trwy gyd-destun stori ddim yn unigryw i Ddad-Awgrymeg chwaith. (Mae traddodiad hir a pharchus ym maes dysgu iaith o gyflwyno iaith trwy gyfrwng stori - meddylier am yr hen Readers Lladin bondigrybwyll, ers talwm, a’r cyrsiau Linguaphone gwreiddiol oedd yn seiliedig ar stori a chyfieithiad ohoni). Na, yr hyn sydd yn unigryw i Ddad-Awgrymeg yw hyd y stori a’r mewnbwn anferth (yn hynny o beth dyw hi ddim yn bosib cael cwrs sy’n cynnwys ychydig bach o fewnbwn anferth – mae’r mewnbwn naill ai’n ychydig neu’n anferth).
Does dim modd gorbwysleisio hyn. Fel y nodais uchod, ar gwrs Dad-Awgrymeg mae’n rhaid cyflwyno tua 800 i 1,000 o eiriau newydd yn y wers gyntaf. Onibai eich bod chi’n cyflwyno swm anferth o fewnbwn o’r cychwyn cyntaf byddwch yn gweithredu’n gwbl groes i amcan y dull ac yn ôl Dr. Lozanov, sylfaenydd y dull, yn ei danseilio. Anghofiwch am ddefnyddio stori, chwarae bingo, chwarae cerddoriaeth, taflu tedis, ail-ffurfio brawddegau ac ati. Yn y bôn, Swmp Pia Hi!
Wrth gwrs. Dyw hi ddim mor hawdd â hynny. Dych chi ddim jest yn gallu cerdded i mewn i ddosbarth iaith a chyflwyno 800 gair a bron i holl ramadeg yr iaith a disgwyl i’r dysgwyr ymdopi â hynny. Mae angen i chi fod wedi strwythuro’r dysgu yn hynod o ofalus ac (yn bwysicach o lawer) fod wedi derbyn hyfforddiant trylwyr, estynedig, hir dymor yn y grefft o Ddad-Awgrymu ac Awgrymu Does gan neb yr hawl i alw’i hun yn diwtor Dad-Awgrymeg dilys heb yr hyfforddiant hwn. (Chaiff yr un tiwtor sy’n gweithio i Popeth Cymraeg alw’i hun yn diwtor Dad-Awgrymeg cydnabyddedig oni bai ei fod wedi mynychu llawer iawn o hyfforddiant ac yn medru cael mwyafrif ei ddysgwyr i fedru pasio Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd ar ôl 180 awr yn unig - tua hanner yr amser arferol. Tan hynny bydd yn diwtor Dad-Awgrymeg dan hyfforddiant.)
ii) Dad-Awgrymeg - Y Cefndir Hanesyddol
Datblygwyd Suggestopedia / Awgrymeg yn y 60au gan Dr. Lozanov, yn wreiddiol fel therapi i'w gleifion ym Mwlgaria. Nid oedd ganddo unrhyw wybodaeth arbenigol o faes Ieithyddiaeth nac o ddulliau dysgu ieithoedd a damwain, ar un ystyr, oedd y modd y defnyddiodd Awgrymeg ar gyfer dysgu ieithoedd. Prif ddiddordeb Dr. Lozanov oedd y gallu sydd gan rai unigolion i gofio toreth o wybodaeth yn ddi-ymdrech, bron, a bu am nifer o flynyddoedd, yn astudio pobl o dros y byd a oedd yn meddu ar gof aruthrol.
Yn sgîl ei astudiaethau, daeth i’r casgliadau canlynol:
i) bod potensial ymenyddol pob unigolyn yn aruthrol fwy na'r hyn ydyw ar hyn o bryd.
(Y term a ddefnyddir gan Lozanov i ddisgrifio’r potensial ymenyddol ‘cwsg’ hwn yw’r
‘galluoedd meddyliol wrth gefn’- reserve capacities of mind.)
ii) mai'r ffactorau sy'n cyfyngu ar y potensial hwn yw'r hyn a elwir ganddo yn Normau
Cymdeithasol Awgrymog (Social-Suggestive Norms).
iii) bod modd llacio gafael y Normau Cymdeithasol Awgrymog, a rhyddhau potensial
ymenyddol cynhenid pob unigolyn
iv) y ffordd i wneud hynny yw trwy'r hyn a elwid ganddo yn Awgrymoleg (Suggestology)
neu, ym maes addysg, Awgrymeg (Suggestopedia).
Yr hyn a olygir gan y Normau Cymdeithasol Awgrymog yw'r hunan-ddelweddau o'n potensial fel unigolion yr ydym wedi eu hetifeddu gan ein cymdeithas - neu, yn gywirach, y mae cymdeithas wedi eu ‘hawgrymu’ i ni. Enghraifft o ‘norm’ felly yw'r ‘gred’ Brydeinig gyffredin fod dysgu ieithoedd yn broses anodd eithriadol ac mai dim ond rhai unigolion peniog sy'n ddigon galluog, mewn gwirionedd, i ddysgu ail-iaith. (Mewn gwledydd trwyadl aml-ieithog nid yw'r ‘norm’ hwn yn bodoli).
Gwnaethpwyd defnydd helaeth iawn o Awgrymeg ym Mwlgaria a phrofodd i fod yn ddull llwyddiannus eithriadol. Yna, yn dilyn ymweliad astudio gan weithgor o arbenigwyr addysgiadol byd-eang, cyhoeddodd UNESCO adroddiad canmoladwy iawn yn argymell sefydlu trefn ryngwaldol i hyfforddi tiwtoriaid er mwyn lledu defnydd o’r dull ar draws y byd. Roedd pethau’n argoeli’n dda iawn i’r dull, felly.
Yn anffodus, ym 1980, pan oeddynt ar fin hedfan i gynhadledd addysg fawr yng Nghaliffornia, cafodd Dr. Lozanov a’i gydweithwraig, Evalina Gateva, eu harestio gan awdurdodau Bwlgaria (ar orchymyn arweinwyr yr Undeb Sofietaidd, mae’n debyg) a’u dedfrydu’n ddiweddarach i ddeng mlynedd o garchariad cartref. Y rheswm am hynny oedd er mwyn rhwystro unrhyw gyfathrach rhwng Dr. Lozanov ac addysgwyr yn y Gorllewin. Roedd y Rhyfel Oer yn ei anterth ac roedd Awgrymeg yn ased rhy werthfawr i’w hallforio i’r Gorllewin cyfalafol. (Roedd gwaith ymchwil a wnaed gan Dr. Lozanov yn awgrymu’n gryf y gall defnyddio Awgrymeggyflymu’r broses ddysgu yn sylweddol iawn - gan o leiaf 500%!)
Gan nad oedd neb yn y Gorllewin yn medru cael gafael ar Dr. Lozanov a’i holi ynglŷn â’u syniadau, dechreuodd rhai carfannau ‘Oes Newydd’ ail ddehongli ei syniadau gwreiddiol mewn modd ‘creadigol’ iawn, yn fwyaf arbennig Ostrander & Schroeder (Superlearning) a Jane Bancroft.Erbyn i Lozanov a Gateva gael eu rhyddhau ym 1990 roedd syniadau gwreiddiol Lozanov wedi’u troi’n ddiwydiant masnachol byd-eang, ac yn yr Unol Daleithiau roedd rhywun arall wedi prynu’r hawlfraint i ddefnyddio’r term Suggestopedia!
Yn ystod y ddegawd y bu Dr. Lozanov dan glo adeiladodd nifer fawr o bobl fusnesau ac enwau mawr iddynt eu hunain ar gorn dulliau newydd pur amheus. Ar ôl iddo gael ei ryddhau ar ddechrau’r 90au ceisiodd Dr. Lozanov gywiro’r camddehongli a fu ar ei waith. Ond doedd llawer iawn o’r ‘arbenigwyr’ newydd hyn ddim am wrando arno. Byddai cydnabod fod eu dulliau wedi’u seilio ar gamddehongli wedi bod yn niweidiol i’w statws a’u pocedi. Doedd dim byd amdani, felly, ond anwybyddu Dr. Lozanov a glynu wrth eu fersiynau cyfeiliornus (ond proffidiol).
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Dr. Lozanov wedi cymhwyso ychydig ar Awgrymeg ac er mwyn ceisio osgoi cam-ddehongli pellach ar ei waith mae wedi newid enw’r dull i De-Suggestopedia (Dad-Awgrymeg), term sy’n cyfleu’n well wir fwriad y dull sef cynorthwyo dysgwyr i ymryddhau o gyflyraeth gyfyngus a gwireddu eu gwir botensial.
iii) Dad-Awgrymeg – Y Dull Ymryddhaol
Fel y nodwyd uchod gellid crynhoi crynswth neges Dr. Lozanov i bedwar pwynt.
- Mae gan bob unigolyn botensial ymenyddol eang iawn, galluoedd cwsg aruthrol y cronfeydd wrth gefn (reserve capacities of mind).
- Mae pobl wedi’u cyflyru gan eu cymdeithas (yn anymwybodol, gan fwyaf, ar sail yr hyn a ystyrir sy’n normal) i gredu bod eu potensial yn llawer is nag y mae o (social suggestive norms).
- Mae modd cynorthwyo unigolion i ymryddhau o’r gyflyraeth gyfyngus hon.
- Y ffordd i wneud hyn yng nghyd-destun addysg yw trwy ddefnyddio Dad-Awgrymeg
Fe welir o’r esboniad uchod nad dull dysgu iaith mo Dad-Awgrymeg. Gellir ei ddefnyddio i ddysgu unrhyw beth, mewn gwirionedd, a chafodd ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion cynradd ym Mwlgaria i ddysgu pob pwnc ar y maes llafur. Daeth yn fwyaf enwog y tu allan i Fwlgaria, fodd bynnag, yng nghyd-destun dysgu iaith a dyna paham y cododd y syniad cyfeiliornus mai dull dysgu iaith ydyw.
O ymhelaethu ar y pedwerydd pwynt uchod ceir y canllawiau cyffredinol sy’n rhaid eu dilyn ar gyrsiau Dad-Awgrymeg (mae’r canllawiau isod wedi’u teilwrio, ryw fymryn, ar gyfer cyrsiau dysgu iaith).
iv) Dad-Awgrymeg: Canllawiau Cyffredinol
a) Dysgu Mewnbwn Anferth
Mae gan ddysgwyr neu fyfyrwyr botensial ymenyddol cwsg aruthrol ac mae ganddynt y gallu i draflyncu symiau anferth o wybodaeth.
Oherwydd hyn cyflwynir symiau anferth o wybodaeth iddynt o’r cychwyn cyntaf (h.y. ar gyrsiau iaith, nifer anferth o eiriau –dros 800). Yn ogystal â hyn, ar gyrsiau dysgu iaith, cyflwynir bron i holl ramadeg yr iaith darged yn y wers gyntaf, hefyd.
b) Dysgu Dwy Haen
Gan fod dysgwyr yn prosesu pob dim yn ymwybodol ac yn anymwybodol (a chan fod y meddwl anymwybodol yn medru codi llawer iawn mwy o wybodaeth na’r meddwl ymwybodol) anelir symiau anferth o wybodaeth at y meddwl anymwybodol yn ogystal â’r meddwl ymwybodol.
c) Dysgu Awgrymog (Y Grym sydd mewn Awgrym)
Gan fod y tiwtor yn gwybod fod gan y dysgwyr botensial ymenyddol cwsg mae ei ddisgwyliadau uchel yn hydreiddio trwy bob dim yn naturiol ac yn anymwybodol. Mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar ddisgwyliadau a pherfformiad y dysgwyr.
Yn ychwanegol at hyn, fodd bynnag, mae angen saernïo’r dysgu’n fwriadus fel bod pob elfen o’r profiad yn awgrymu fod y tiwtor yn ei chymryd hi’n ganiataol y bydd y dysgwyr yn traflyncu’r symiau anferth o wybodaeth a roddir iddynt.
I atgyfnerthu’r elfennau uchod defnyddir enghreifftiau o gelfyddyd aruchel (cerddoriaeth a chelfyddyd weledol) oherwydd eu natur gyflawniadol a’u hawgrymiadau positif. Mae elfennau o’r stori hefyd yn awgrymu cyflawniad neu lwyddiant mewn amryfal feysydd.
Mae’n rhaid fod gan diwtor hygrededd, statws neu awdurdod naturiol cyn y bydd y dysgwyr yn medru ymateb yn bositif i’r myrdd o awgrymiadau anfwriadus a bwriadus a ddaw o’i du a thraflyncu’r symiau anferth o wybodaeth yn ddiymdrech. Mae elfen o effaith placebo yn hyn a dydy effeithiau placebo ddim yn gweithio oni bai fod y rhain gan y cyflwynydd.
Mae angen i’r tiwtor fedru creu ymdeimlad yn y dysgwyr o fod wedi cyrraedd cyn cychwyn a’u cael i deimlo ar ryw lefel seicolegol ddofn eu bod eisoes yn siaradwyr Cymraeg, dyweder, er nad yw’r realiti allanol wedi dal i fyny eto gyda’r ymdeimlad hwnnw. Dyma un o’r rhesymau paham y bydd pob dysgwr ar gwrs iaith yn mabwysiadu enw newydd yn yr iaith darged ac yn cadw’r enw hwnnw am byth, wedyn, o fewn y dosbarth (a thua allan, yn amlach na pheidio).
ch) Dysgu ‘Cyfannol - Elfennol / Elfennol - Cyfannol’
Cyflwynir yr iaith darged bob tro yn ei chyfanrwydd ond rhoddir sylw manwl (ond cyflym) hefyd i’r elfennau unigol hynny sy’n rhannau annatod o’r cyfanrwydd cyn dychwelyd wedyn i’r lefel gyfannol.
Ar gyrsiau iaith Dad-Awgrymaidd caiff manion gramadegol sylw cyflym y tro cyntaf iddynt ymddangos yn y testun a gellir dychwelyd atynt fwy nag unwaith os oes angen wrth iddynt ailymddangos. Ni threulir cyfnodau estynedig yn trafod pwyntiau gramadegol, yn enwedig ar gyrsiau dechreuwyr.
d) Dysgu Hwyliog, Di-Straen
Mae angen i’r tiwtor greu awyrgylch o ganolbwyntio ymlaciedig yn yr ystafell ddosbarth, fel sy’n digwydd pan fydd rhywun wedi llwyr ymgolli yn ei hoff weithgaredd.
Yn baradocsaidd, mae’r symiau anferth o wybodaeth a gyflwynir yn cyfrannu at yr ymdeimlad ymlaciedig a hwyliog a geir mewn dosbarthiadau Dad-Awgrymeg. Does dim modd i’r dysgwyr lwyddo i draflyncu’r toreth o wybodaeth a gyflwynir iddynt mewn ffyrdd traddodiadol felly maent yn ymlacio ac yn caniatáu i’r broses draflyncu ddigwydd yn hytrach na cheisio ymdrechu i ddysgu.
dd) Dysgu Trwy Gysgu
Gwneir defnydd pwrpasol o gwsg fel rhan o’r broses draflyncu. Disgwylir i’r dysgwyr ddarllen trwy’r testun yn ei gyfanrwydd bob nos cyn mynd i gysgu. Mae’r ymennydd yn didoli gwybodaeth yn ystod cwsg ac yn cadw’r hyn a ystyrir yn bwysig a dileu’r hyn sydd o bwysigrwydd isel. Mae darllen y testun Dad-Awgrymaidd cyn mynd i gysgu’n ddigon i ddanfon neges i’r isymwybod fod y wybodaeth a geir ynddo’n bwysig. Bydd y wybodaeth wedyn yn brigo i’r wyneb yn hwyrach ymlaen dros y dyddiau nesaf.
* Bydd ail ran yr erthygl hon yn ymddangos yn rhifyn nesaf Y Tiwtor.