Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl tystysgrifau

Ar 30 Gorffennaf eleni, sef dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, cynhaliwyd gan CBAC seremoni cyflwyno tystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus yr arholiadau Canolradd ac Uwch.

Daeth llu o bobl ynghyd i ymuno yn y dathlu ac i estyn eu llongyfarchiadau i’r dysgwyr hynny fu’n gweithio’n ddiwyd tuag at yr arholiadau.

Y gŵr gwadd oedd T. James Jones, yr Archdderwydd, a chafwyd ganddo araith ddifyr a chynnes, yn llongyfarch yr ymgeiswyr ac yn eu canmol am eu hymroddiad. Aeth ymlaen wedyn i gyflwyno’r tystysgrifau.

llun emyrllun 1 tystygrifauAr ôl cael cyfle i gwrdd a sgwrsio â’r Archdderwydd, cafwyd cyflwyniad difyr a bywiog gan Emyr Davies, CBAC wrth iddo sôn am holl adnoddau CBAC i ddysgwyr a thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Soniwyd am y cyrsiau cyfarwydd (Mynediad, Sylfaen, Canolradd) yn ogystal â’r Ffeil Hyfedredd, y pecynnau Cardiau Fflach a’r cwrs Cymraeg i’r Teulu newydd.

Os am ragor o fanylion am adnoddau CBAC mae croeso i chi gysylltu â:
Cymraegioedolion@cbac.co.uk

 

llinell