Amgylchiadau arbennig!
Ers rhai blynyddoedd rŵan mae arholiadau CBAC wedi cael eu cynnal yn Ne Amerig, fel rhan o’r project ‘Dysgu Cymraeg yn y Wladfa’ ac mae’r arholiadau bob yn ail flwyddyn yn Nyffryn Camwy yn nwyrain talaith Chubut ac yn Esquel yn yr Andes, yn y gorllewin. Fi, Clare Whitehouse, Cydlynydd Dysgu’r project yn yr Ariannin sydd yn gyfrifol am drefnu’r arholiadau ond wrth ddarllen y ‘Cyfarwyddiadau ar gyfer trefnyddion’ roedd un broblem fach: does dim cyfarwyddyd ar beth i’w wneud os bydd llosgfynydd yn ffrwydro!
Efallai bod rhai ohonoch yn cofio ffrwydriad llosgfynydd Chaiten pan oedd Rhys Meirion ar daith yn 2009 a Beti George yn darlledu o’r llwch? Wel llosgfynydd arall yn Chile oedd yn gyfrifol am achosi helynt y tro hwn, Puyehue, sydd dim ond 40km o ffin Chile a’r Ariannin. Mae Dyffryn Camwy yng ngorllewin y wlad yn bell i ffwrdd o’r llosgfynydd ond oherwydd gwyntoedd o’r gorllewin roedd y llwch yn cael ei gario yn syth i gyfeiriad trefi Gaiman, Trelew a Phorth Madryn. Mae’n hedfan yn uchel yn y gwynt tan iddo oeri ac wedyn mae’n syrthio fel eira mân.
Ffrwydrodd y llosgfynydd ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin am tua 4.00 yn y prynhawn ac erbyn bore Sul roedd trigolion Trelew a Gaiman wedi deffro i weld haen o rywbeth oedd yn debyg i eira ar eu ceir a’u gerddi. Canslwyd awyrennau a chafodd yr ysgolion eu cau. Cynghorwyd pawb i aros i mewn rhag anadlu’r llwch. Roeddwn i yn gwylio’r sefyllfa o’r Andes o dan awyr las ac yn poeni yn arw y byddai hyn yn creu problemau efo’r arholiad. Hyd yn oed pan adawais i Esquel ar y bws nos i gyrraedd Trelew erbyn bore Gwener doeddwn i ddim yn siwr beth fyddwn i’n ei weld wrth gyrraedd.
Yn ffodus dydy dysgwyr yr Ariannin ddim yn fodlon gadael i haen o ludw llosgfynydd amharu ar eu trefniadau i sefyll arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad, ac roedd pawb wedi cyrraedd yn brydlon a chyda gwên fawr. Aeth popeth fel cloc er gwaetha’r llwch ar y byrddau, y cadeiriau, y peiriant recordio, y bwrdd gwyn... a diolch byth erbyn yr wythnos wedyn ac adeg cynnal yr arholiad Sylfaen roedd yr awyr rywfaint yn oleuach. Aeth popeth yn iawn bryd hynny hefyd - ar wahân i doriad yn y cyflenwad trydan yn y canol!
Llongyfarchiadau i’r 15 a fentrodd i sefyll yr arholiad. Credaf iddyn nhw gael budd mawr o wneud hynny. Bydd trefi’r Andes yn gweithio i baratoi at yr un her y flwyddyn nesaf eto – a chroesi bysedd na fydd amgylchiadau arbennig bryd hynny hefyd!