Newyddion Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg
Clybiau Dysgu Anffurfiol
Cynhailiwyd19 o glybiau gwahanol yn bythefnosol dros yr haf mewn 12 o leoliadau gwahanol er mwyn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddod at ei gilydd ar wahanol lefelau er mwyn ymarfer sgwrsio. Fe’u mynychwyd gan dros 150 o unigolion gwahanol ac felly gobeithio bod y gweithgareddau Dysgu Anffurfiol hyn wedi cynorthwyo i gynnal momentwm dros fisoedd yr haf a darparu cyfleoedd i ddysgwyr yr ardal gymdeithasu â’i gilydd. Yn dilyn yr arbrawf dros yr haf, bydd o leiaf 3 chlwb newydd yn parhau i gwrdd trwy’r flwyddyn.
Deunyddiau
Mae wedi bod yn haf prysur iawn o safwbynt cyhoeddi adnoddau – ar bapur ac yn ddigidol:
Cwrs Pontio Uwch - wyth uned thematig wedi’u dylunio’n broffesiynol er mwyn meithrin hyder dysgwyr ar ddechrau cyrsiau lefel 3 (uwch), cyn troi at y Cwrs Uwch ei hun. Y mae chwe chredyd Agored Cymru lefel 3 wedi’u hymgorffori. Gellir prynu copïau o’r Cwrs a’r Canllawiau i’r Tiwtor o’r Ganolfan.
Cwrs Iaith Meithrin – cwrs ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Lluniwyd y cwrs nifer o flynyddoedd yn ôl ar gyfer ar gyfer cynllun Cam wrth Gam yn benodol ond mae’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn sector y blynyddoedd cynnar. Mae’r copïau ar gael yn rhad ac am ddim a byddant ar gael o fewn pob Canolfan.
Ceir saith set o gardiau fflach digidol ac maen nhw ar gael am ddim i’w lawrlwytho ar wefan itunesU: http://itunes.glam.uk. Os ydych yn ansicr sut i gyrchu itunesU, mae Dr Maldwyn Pate wedi creu fideo bach i gynorthwyo ar youtube: http://www.youtube.com/watch?V=KYeg_P3AqXo.
Ar hyn o bryd, y mae linc i’r fideo ar wefan y Ganolfan hefyd: www.glam.ac.uk/welsh
Gyda llaw, llongyfarchiadau i Maldwyn am ennill Gwobr Cyfadran Busnes a Chymdeithas Prifysgol Morgannwg ar gyfer menter a blaengaredd mewn dysgu.
Geirfa Gyflym – holl eirfa Mynediad CBAC ac Wlpan (Morgannwg) wedi’i chrynhoi yn ôl yr wyddor a’r bwriad yw cyhoeddi ar itunesU, gyda rhif ISBN.