Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl kay


llun kayDechreuodd Kay Holder o Benarth ddysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008. Roedd hi’n byw yn Lloegr ar y pryd ac felly roedd hi’n dysgu ar ei phen ei hun ond ar ôl dod yn ôl i Gymru mae hi wedi bod yn mynd i ddosbarth gloywi a sesiynau siarad.

Mae Kay yn 51 oed ac yn diwtor preifat mewn Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Yn yr Eisteddfod yn 2008 hefyd dechreuodd ddysgu canu’r delyn ac erbyn hyn mae hi wedi sefyll arholiad Gradd 3 ac wedi cystadlu. Y flwyddyn nesa bydd hi’n brysur iawn gydag Eisteddfod Bro Morgannwg

Cafwyd cyfle i ddod i adnabod Kay, a’r 3 ymgeisydd arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, a chyhoeddwyd yr enillydd mewn noson arbennig yn Neuadd Goffa Wrecsam ar 3 Awst. Llongyfarchiadau mawr felly i Kay Holder am ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn 2011 a phob hwyl iddi wrth iddi barhau ar ei thaith gyda’r Gymraeg.

 

llinell