Ddechrau Medi eleni, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid fydd yn dysgu’r cwrs Cymraeg i Oedolion Mynediad yn 2011-12. Mynychwyd y sesiynau gan dros 130 o diwtoriaid ym Mhontypŵl, Harlech, Felin Fach, Caerdydd a Chaerfyrddin, a chafwyd ymateb brwd a chadarnhaol dros ben. Dyma grynhoi cynnwys y sesiynau ar gyfer tiwtoriaid nad oeddent yn gallu bod yn bresennol.
1. I bwy mae’r cwrs hwn wedi ei fwriadu?
Mae’r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer rhieni ac eraill sydd yn gofalu am blant oedran y Cyfnod Sylfaen (0-7 oed) yn y cartref, ond bydd hefyd yn berthnasol i staff cylchoedd meithrin, athrawon ysgol ac eraill fydd am ddefnyddio’r iaith gyda phlant. Nod y cwrs yw dysgu iaith yn y dosbarth i oedolion ei defnyddio gartref rhwng y sesiynau; nid yw wedi ei fwriadu ar gyfer dysgu gyda’r plant mewn dosbarth.
O safbwynt Canolfannau a staff fydd yn cynghori darpar ddysgwyr ynglŷn â dewis cwrs addas, mae’n bosibl y bydd dysgwyr am fynychu’r cyrsiau Cymraeg i’r Teulu er nad oes ganddynt gyswllt â phlant (gan nad oes unrhyw gwrs arall yn gyfleus iddynt, ac ati). Nid yw hyn yn broblem, cyhyd â’u bod yn deall o flaen llaw beth fydd natur y cwrs, ac y bydd caneuon, gemau ac ati yn y sesiynau.
2. Ystyriaethau sylfaenol wrth greu’r cwrs
- Gwelwyd bod angen i’r cwrs CiT gynnwys yr un patrymau a geirfa â chwrslyfr Mynediad CiO er mwyn i ddysgwyr allu sefyll Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad os ydynt yn dymuno hynny, a symud yn llyfn mewn i gwrs Sylfaen prif ffrwd ar ôl y cwrs
- Byddai angen i’r cwrs hefyd gyd-fynd â maes llafur Cyfnod Sylfaen yr ysgolion o ran y themâu fydd yn codi.
3. Beth yw’r gwahaniaethau rhwng cyrsiau Mynediad Cymraeg i Oedolion a chyrsiau Cymraeg i’r Teulu?
Yr elfennau sy’n gyffredin i’r ddau gwrs:
- Yr un patrymau sy’n codi (ac ambell eithriad – manylion isod)
- Cyflwynir patrymau’r Gymraeg a’u hymarfer mewn dull tebyg ar y ddau gwrs
- Pecyn gwaith cartref
- CD ymarfer
- Darnau darllen (paratoi ar gyfer arholiad DGM yw eu nod ar y cwrs CiO, annog darllen gyda phlant
yw eu prif nod ar y cwrs CiT)
- Gwaith paratoi Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad
- Unedau adolygu (bob 5 uned ar y cwrs CiO, bob 7 uned ar y cwrs CiT)
Yr elfennau sy’n wahanol:
- Cwrslyfr ac adnoddau gwahanol
- Hyd a nifer yr unedau (manylion isod)
- Trefn y patrymau
- Gogwydd deuluol i’r patrymau a’r deialogau
- Caneuon
- Cardiau fflach i’r tiwtor
- Cardiau bach
- Gweithgareddau ar gyfer y plant a phecyn gemau bwrdd
- Geirfa ychwanegol
- Themâu sy’n cyd-fynd â’r Cyfnod Sylfaen (manylion isod)
4. Patrymau sy’n codi
- Yn gyffredinol, yr un patrymau sy’n codi ag a welir yn Mynediad CBAC
- Mae dau batrwm wedi eu hepgor, sef Dyfodol Bod (bydda i), a cyn/ar ôl i fi [fynd] (nid yw’r rhain yn codi yn Defnyddio’r Gymraeg Mynediad)
- Gwelir rhai ychwanegiadau, e.e. Dych chi ddim yn cael nofio fan hyn, Wyt ti wedi brifo dy goes?
- Mae ffurfiau, cywair a ieithwedd y cwrs yn dilyn Mynediad CBAC i raddau helaeth
- Cyflwynir ffurfiau traddodiadol y Gorffennol yn fersiwn de Cymru’r cwrslyfr:
ces i, cest ti, cafodd e/hi, cawson ni, cawsoch chi, cawson nhw
5. Themâu’r Porth (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Llwyfan e-ddysgu cenedlaethol i’r sector addysg uwch yw’r Porth. Fe’i defnyddir gan athrawon o dan hyfforddiant ac athrawon mewn swyddi. Mae arno adnoddau i’w defnyddio mewn ysgolion; nid ydynt felly yn gwbl addas at ddibenion cyrsiau i oedolion, ond maent yn gyfair pwysig o ran maes llafur y Cyfnod Sylfaen. Rhestrir yn Atodiad A isod themâu sy’n gyffredin i’r Cyfnod Sylfaen a’r cwrs Cymraeg i’r Teulu (a rhai ychwanegiadau). Gellir ymrestru i ddefnyddio’r Porth ar www.porth.ac.uk.
6. Elfennau’r cwrs a’u prisiau: gweler Atodiad B.
Afraid dweud y bydd y cwrslyfr yn elfen angenrheidiol i ddysgwyr y cwrs. Dylid hefyd eu hannog yn gryf i brynu’r CD a’r pecyn gweithgareddau. Eitemau eraill o fudd yw’r pecyn gemau bwrdd a’r cardiau bach.
Bydd y canllawiau ar gael fel llyfr printiedig yn Chwefror 2012; bydd copi electronig o ganllaw pob uned hefyd yn ymddangos ar wefan y tiwtor bob yn dipyn, wrth iddynt ddod yn barod. Nodwch fod y rhai sydd yno ar hyn o bryd (Medi 2011) yn perthyn i’r cwrs peilot, ac wrthi’n cael eu diweddaru.
7. Hyd y cwrs a’r sesiynau
Mynediad Cymraeg i Oedolion |
Mynediad Cymraeg i’r Teulu |
120 awr |
120 awr |
un gyfrol |
dwy gyfrol |
30 uned x 4 awr yr un |
60 uned x 2 awr yr un |
Mae’r ddau gwrs yn addas i gyrsiau 2 neu 4 awr yr wythnos
Yn y cwrs Cymraeg i’r Teulu, ceir unedau arbennig sy’n ymdrin â Gwyliau a Dathliadau, e.e. y Nadolig ac Eisteddfod yr Urdd. Mae’r rhain wedi eu lleoli i gyd-daro â’r digwyddiad o dan sylw os dysgir y cwrs dros ddwy flynedd (1 sesiwn x 2 awr yr wythnos), gan ddechrau ym Medi. Os dysgir y cwrs dros flwyddyn, bydd modd dysgu’r unedau hynny ar adeg wahanol; nid oes patrymau newydd yn codi ynddynt, ac mae swmp yr eirfa ynddynt yn benodol berthnasol i’r digwyddiadau. Dylid, fodd bynnag, gofalu dysgu unrhyw eitemau geirfa eraill mwy cyffredinol yn syth heb eu gadael tan yn hwyrach.
8. Strwythur uned
Mae’r unedau’n dilyn y drefn isod (ac eithrio’r unedau adolygu: nid oes yn y rheiny batrymau newydd, deialog na chân).
- Patrymau
- Nodiadau
- Gweithgareddau ymarfer
- Gwaith ynganu (Seiniau’r Gymraeg) – Unedau 1-12
- Deialog
- Cân (neu rap)
- Geirfa’r uned nesaf
- (ar y CD yn unig) Profwch eich hunan
Ceir pedair dalen i bob uned. Yn fras, argymhellir treulio awr ar y ddwy gyntaf, ac awr ar y ddwy nesaf.
Gan ddilyn Mynediad Cymraeg i Oedolion, mae’r patrymau’n ymddangos mewn bocsys melyn. Ceir un patrwm newydd i’w ddisodli ym mhob bocs. Mae’r bocsys melyn a’r gweithgareddau ymarfer ar dudalennau 1-3 (fel arfer, bydd mwyafrif y bocsys melyn yn ymddangos ar frig yr uned, yn enwedig pan fydd cyswllt amlwg rhyngddynt). Ar dudalen olaf yr uned, ceir deialog, cân a geirfa.
9. Ymdrin â deialogau
Mae’r rhain yn efelychu sgwrs rhwng rhaint a phlentyn, a’u bwriad yw creu pont rhwng patrymau’r cwrs a sefyllfa’r cartref. Tua 7 llinell sydd i bob deialog, er mwyn hwyluso eu dysgu ar gof. Gwelir ynddynt rai o batrymau’r uned yn codi eto, gan roi cyd-destun iddynt. Ceir hefyd ambell i ymadrodd newydd. Rhoddir rhai geiriau mewn ffont trwm, er mwyn eu disodli. Yng nghanllawiau’r tiwtor, awgrymir camau ar gyfer ymdrin â’r deialogau. Agwedd bwysig ar y cam hwn o’r wers yw creu hwyl drwy actio, a dylid gofalu rhoi goslef briodol i ymadroddion fel ‘O, Mam!’ ‘Dyna ffantastig’ ac ati. Mae’n debygol y bydd y deialogau’n esgor ar sylwadau a sgwrs am deuluoedd y dysgwyr. Ar bob cyfrif, dylid manteisio ar hyn, gan annog dysgwyr i roi’r iaith ar waith gartref, ac awgrymu ffyrdd o ymdrin â phroblemau, ond dylid gofalu rhag i’r sgwrs fynd â gormod o amser y wers.
10. Geirfa
Ar ddiwedd pob uned, gwelir oddeutu 15 eitem o eirfa newydd i’w dysgu ar gyfer y wers nesaf. Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor ei bod yn haws cyflwyno patrwm newydd gan ddefnyddio geirfa gyfarwydd. Gwnaed ymgais i gynnwys llawer o eiriau benthyg (e.e. geirfa Uned 15) er mwyn hwyluso’r dysgu.
Mae geiriau benywaidd yn ymddangos yn goch, a rhai gwrywaidd yn las yn y rhestri geirfa, yn ogystal ag yng nghorff unedau sy’n ymdrin â chenedl geiriau, e.e. bloc 4, Uned 17 – car coch, het goch. Hyderir y bydd hyn yn ei gwneud yn haws cofio cenedl geiriau. Didolir yr eirfa fesul rhan ymadrodd er hwylustod. Argymhellir mynd dros eirfa’r uned nesaf ar ddiwedd pob sesiwn, er mwyn annog dysgu’r eirfa rhwng gwersi a meithrin ynganu cywir. Mae rhoi ‘prawf’ bychan ar ddechrau’r wers nesaf yn ffordd o baratoi cyn cyflwyno’r patrwm newydd.
11. Enwau pobl a lleoedd
- Ceir amrywiaeth o enwau Cymraeg a Saesneg ar y cwrs, y rhai Cymraeg er mwyn i ddysgwyr ymgyfarwyddo â’u hynganu, a’r rhai Saesneg er mwyn adlewyrchu cynulleidfa’r cyrsiau. Mae ambell enw estron yn y cwrs yn sicrhau amrywiaeth o ran cenedligrwydd.
- Cyflwynir nifer o enwau lleoedd yng Nghymru (a thu hwnt) er mwyn i ddysgwyr ddod i adnabod daearyddiaeth Cymru, ac yn adnodd i ymarfer y treiglad meddal a’r treiglad trwynol.
12. Cardiau fflach
Mae’r rhain yn hynod ddefnyddiol wrth gyflwyno ac adolygu geirfa, ac wrth ddrilio patrymau. Bydd 100 o gardiau yn y pecyn, i’w cyd-ddefnyddio â Chardiau Fflach 1, 2 a 3 CBAC. Yr un lluniau fydd yn ymddangos ym mhecyn cardiau bach Cymraeg i’r Teulu. Byddant hefyd ar gael ar ffurf electronig er mwyn eu defnyddio ar sgrin yn y dosbarth, neu i lunio adnoddau atodiadol.
13. Cryno ddisg y cwrs
Mae’r CD yn cynnwys patrymau’r unedau, gwaith ynganu, deialogau, caneuon, geirfa, y darnau darllen, iaith y dosbarth (Uned 7) a’r ymadroddion defnyddiol yng nghefn y llyfr. Pwysleisir mor greiddiol i ddatblygiad y dysgwyr yw gwrando ar y CD rhwng gwersi. Drwy wneud hyn, byddant yn ymgyfarwyddo â’r patrymau yn drwyadl, magu hyder a meithrin ynganu naturiol. Anogir tiwtoriaid i atgoffa’r dysgwyr yn gyson mor bwysig yw hyn.
Noder mai ffeiliau data Mp3 sydd ar y gryno ddisg (CD ROM ydyw) yn hytrach na ffeiliau sain arferol. Golyga hyn fod modd ei chwarae ar gyfrifiadur neu beiriant cryno-ddisgiau a gynhyrchwyd yn y blynyddoedd diwethaf, ond na fydd yn bosibl ei chwarae ar beiriant hŷn. Mater cymharol syml, cyflym a rhad yw trawsnewid y ffeiliau yn rhai sain, drwy ddefnyddio cyfrifiadur, a’u llosgi ar ddisg CD-R (nid CD-RW). Bydd modd wedyn ei chwarae ar unrhyw beiriant.
14. Pecyn gweithgareddau
Ceir dwy elfen i’r pecyn hwn:
Tasgau gwaith cartref ‘traddodiadol’ |
Gweithgareddau ‘gyda’ch plentyn’ |
|
|
15. Canllawiau’r tiwtor
Yn gryno, mae yng nghanllawiau’r tiwtor yr adrannau isod:
- Cynnwys yr uned
e.e. hoffterau ac anhoffterau - Iaith sy’n codi
rhestru un esiampl o bob patrwm - Adnoddau i’w paratoi
e.e. cardiau fflach - Canllaw amseru
canllaw hyblyg yw hwn, yn hytrach na rheolau haearnaidd - Nodiadau
rhoddir y wers mewn cyd-destun, a thynnir sylw at broblemau posibl - Camau
awgrymiadau ar gyfer dysgu’r wers fesul cam - Geirfa
tynnu sylw at broblemau cyffredin
16. Amseru
- Dylid rhoi blaenoriaeth i gyflwyno ac ymarfer pob patrwm yn drwyadl; y gwaith hwn, felly, ddylai hawlio swmp amser y wers
- Does dim angen glynu’n gaeth at y canllaw; os nodir 15 munud ar gyfer rhyw weithgaredd, nid yw’n broblem rhoi 10-20 munud iddo. Ar y llaw arall, os nodir 20 munud, mae’n debygol na fydd 5 munud yn ddigon iddo, a dylid osgoi rhoi 45 munud i weithgaredd y nodir 5-10 munud ar ei gyfer
- Mater tyngedfennol i roi sylw iddo gyda’r amseru yw cydbwysedd amser drilio ac amser ymarfer parau/grwpiau. Cyn gynted ag y bydd y dosbarth yn gallu ailadrodd y patrwm yn foddhaol, dylid symud ymlaen yn syth at y gwaith parau
- Ni ddylid rhoi gormod o amser i’r deialogau na’r caneuon (cyfanswm o 10-15 munud ar y mwyaf)
Os gwelwch fod amser yn brin…
- Drilio nifer lai o eitemau gyda phob patrwm (yn hytrach na hepgor patrymau)
- Gwneud rhai o’r tasgau ymarfer fel dosbarth cyfan
- Cadw ffrwyn dynn ar TTT (“Tiwtor Talking Time”)! Cofiwch: tra bo’r tiwtor yn siarad, fydd y dysgwyr ddim yn ymarfer.
17. Achredu
Ym mhob uned (ac eithrio’r rhai adolygu), gwelir tasg â’r logo A (Achredu) wrthi. Rhoddir tic achredu i bob dysgwr sy’n bresennol pan ddysgir yr uned honno. Os bydd dysgwr yn colli’r gwers, caiff ail gyfle i gael y credyd hwnnw yn yr uned adolygu. Peth hollbwysig, felly, yw annog pawb i fynychu pan fydd uned adolygu.
Mae pedair uned adolygu yn Mynediad 1 (7, 14, 21, 28), a phedair gêm grid. Er mwyn cwblhau Mynediad 1, rhaid gwneud yr holl dasgau a/neu’r pedair gêm grid. Yn yr un modd, bydd pedair uned adolygu yn Mynediad 2 (37, 44, 51, 58), a phedair gêm grid.
18. Newidiadau ers y peilot
Gofynnir i diwtoriaid sydd yn mynd i ddysgu Unedau 31 ymlaen (Mynediad 2) sylwi ar rai newidiadau pwysig ers y peilot. Ychwanegwyd pedair uned adolygu (7, 14, 21, 28) i’r cwrs. Mae’r hen unedau 21 (Faint o’r gloch yw/ydy hi?) a 22 (Mae moch yn byw mewn twlc!), wedi eu symud i Unedau 32 a 24, felly dylid gochel rhag eu dysgu eildro wrth ddysgu M2. Awgrymir llungopïo unedau 28 a 30 o’r cwrslyfr newydd (nid o’r peilot), a dechrau cyrsiau Mynediad 2 gan ddilyn y drefn hon: 28, 30, 31, 33, 35.
Diolch ichi am ddarllen yr erthygl hon. Os ydych yn dysgu’r cwrs Cymraeg i’r Teulu ac arnoch angen help gyda’r cwrs, croeso mawr ichi gysylltu â mi. Yn yr un modd, bydd adborth yn ddefnyddiol i’r awduron ac i CBAC.
Owen Saer
Swyddog Datblygu
Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg
Osaer@glam.ac.uk
07740 760497
*Am gyfle i ennill copi o lyfr cwrs Cymraeg i’r Teulu (Blwyddyn 1) ewch i’r adran Cystadleuaeth
ATODIAD A
CYMRAEG I’R TEULU – THEMÂU
- ANIFEILIAID
- BWYD A DIOD
- Y CARTREF
- DATHLIADAU
- DILLAD
- HAMDDEN
- SIOPA
- TEIMLADAU A SYNHWYRAU
- TEITHIO A GWYLIAU
- TEULU
- Y CORFF (+ SALWCH)
- Y DREF
- TYWYDD AC AMSER
- YR YSGOL
- GWAITH
- LLIWIO, RHIFO A SIAPIAU
ATODIAD B
CYMRAEG I’R TEULU – COSTAU GWERTHU
EITEM |
ISBN |
AR GAEL* |
1. Llyfr Cwrs (De) Blwyddyn 1 = £10.95 |
1-86085-666-2 |
Medi 2011 |
2. Llyfr Cwrs (Gog) Blwyddyn 1 = £10.95 |
1-86085-667-9 |
Medi 2011 |
3. Llyfr Cwrs (De) Blwyddyn 2 = £10.95 |
1-86085-673-0 |
Chwefror 2012 |
4. Llyfr Cwrs (Gog) Blwyddyn 2 = £10.95 |
1-86085-674-7 |
Chwefror 2012 |
5. Pecyn gweithgareddau (De) Blwyddyn 1 = £5.00 |
1-86085-675-4 |
Chwefror 2012 |
6. Pecyn gweithgareddau (Gog) Blwyddyn 1 = £5.00 |
1-86085-676-1 |
Chwefror 2012 |
7. Pecyn gweithgareddau (De) Blwyddyn 2 = £5.00 |
1-86085-677-8 |
Chwefror 2012 |
8. Pecyn gweithgareddau (Gog) Blwyddyn 2 = £5.00 |
1-86085-678-5 |
Chwefror 2012 |
9. Pecyn Cardiau Fflach CiT (mawr) = £18.00 |
1-86085-679-2 |
Chwefror 2012 |
10. Pecyn Cardiau Bach CiT (bach) = £6.00 |
1-86085-680-8 |
Chwefror 2012 |
Bydd y CDs adolygu yn cynnwys y caneuon. |
|
|
11. CD Adolygu (De) Blwyddyn 1 = £8.95* |
1-86085-681-5 |
Hydref 2011 |
12. CD Adolygu (Gog) Blwyddyn 1 = £8.95* |
1-86085-682-2 |
Hydref 2011 |
13. CD Adolygu (De) Blwyddyn 2 = £8.95* |
1-86085-683-9 |
Hydref 2011 |
14. CD Adolygu (Gog) Blwyddyn 2 = £8.95* |
1-86085-684-6 |
Hydref 2011 |
15. Canllawiau i Diwtoriaid Blwyddyn 1 = £10.95 |
1-86085-685-3 |
Chwefror 2012 |
16. Canllawiau i Diwtoriaid Blwyddyn 2 = £10.95 |
1-86085-686-0 |
Chwefror 2012 |
17. Pecyn gemau trac |
|
Chwefror 2012 |
(yn cynnwys gemau Blwyddyn 1 a 2 gyda’i gilydd) = £18.00 |
1-86085-687-7 |
|
*dyddiadau arfaethedig