Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dyfernir gwobr i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i faes Cymraeg i Oedolion. Rhoddir y tlws a’r wobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas a wnaeth gymaint o gyfraniad i faes dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Teimla Havard a Rhiannon fod tiwtoriaid Cymraeg yn gwneud gwaith amhrisiadwy nad yw bob amser yn cael ei gydnabod.
Anrhydeddu Gwilym
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr unigryw ac mae nifer o diwtoriaid wedi derbyn y tlws erbyn hyn. Eleni, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, cyhoeddwyd mai’r enillydd yw Gwilym Roberts o Gaerdydd sydd wedi gweithio’n ddiflino yn y maes ers nifer fawr o flynyddoedd.
Cafodd ei enwebu gan Lynda Pritchard Newcombe a ddywedodd amdano:
‘Mae Gwilym wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn at faes Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd. Dechreuodd Gwilym ddosbarthiadau i oedolion yn y chwedegau yng Nghaerdydd a chychwynnodd yr WLPAN cyntaf yn y brifddinas ym 1973 gyda Chris Rees ar ôl iddynt fynd i Lundain i gwrdd â Mrs Shoshona Eytan, tiwtores ar yr ULPAN yn Israel. Gwilym oedd un o’r tiwtoriaid ar y cwrs arloesol hwn gyda’r nos a thros y penwythnos yn Llangrannog.
Trwy ei waith gydag Urdd Gobaith Cymru roedd e’n ysbrydoli pobl yn eu harddegau sydd ar hyn o bryd yn hybu’r iaith Gymraeg yn y Gweithle ac yn y Gymuned ee. Drs. Wyn a Christine James. Mae e wedi dylanwadu ar bobl ifainc o deuluoedd di-Gymraeg eu hiaith i ailgydio yn iaith eu cyndadau trwy ei frwdfrydedd a’i waith caled. Mae’r dysgwyr hyn yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr i sicrhau bod yr iaith yn goroesi, trwy fagu eu plant yn y Gymraeg ac yn dysgu a chalonogi oedolion sy eisiau dod yn rhugl.
Ond nid dim ond yng Nghymru mae ysbrydoliaeth Gwilym wedi bod yn bwysig. Mae e wedi dysgu ym Mhatagonia sawl gwaith ac yn dal i groesawu dysgwyr o’r Wladfa i’w gartre ac yn rhoi lletygarwch iddynt.
Un o nodweddion pwysicaf Gwilym wrth ddysgu yn fy marn i yw ei bwyslais ar ynganu. Mae e’n perswadio dysgwyr i wylio siâp ei geg yn ei ffordd ddigyffelyb ei hun pan mae e’n ynganu ‘o’ ac ‘e’ - seiniau sy’n bwysig dros ben i’r dysgwyr swnio’n naturiol a chael ‘street cred’! Mae ymchwil yn dangos bod ynganiad da yn llawer pwysicach i siaradwyr mamiaith na chywirdeb gramadegol.
Mae Gwilym yn ei saithdegau erbyn hyn ac mae e’n dal i weithio i hybu’r Gymraeg mewn sawl ffordd ee gyda grŵp yn Nhŷ’r Cymry. Mae yn ddylanwad positif a chalonogol i’r rhai sy yn y maes ac roedd yn gymorth mawr i mi pan oeddwn i’n ymchwilio ac yn ysgrifennu.’
Cyflwynwyd y Tlws iddo mewn seremoni ffurfiol ar lwyfan y Pafiliwn a hefyd yn ystod Noson Dysgwr Y Flwyddyn ar 3 Awst yn Neuadd Goffa Wrecsam.
Llongyfarchiadau gwresog iddo.