‘Taclo'r Treigladau: Tackling Muations’
(Helpwch Eich Plentyn / Help Your Child)'
gan Elin Meek, Gwasg Gomer
Byddwn i'n argymell y llyfr hwn ar gyfer llawer o fyfyrwyr - a'u tiwtoriaid! Er ei fod wedi'i lunio ar gyfer plant (Cymry Cymraeg a dysgwyr), mae'n ardderchog ar gyfer oedolion hefyd.
Mae'n cyflwyno'r gwahanol resymau am y gwahanol dreigladau mewn iaith seml, un rheswm ar bob dwy dudalen fel arfer, gydag ymarferion syml ond effeithiol ar gyfer pob treiglad ar ôl y cyflwyniad.
Er bod y diwyg wedi'i gynllunio ar gyfer plant (gyda dreigiau bach ym mhob man), rwy'n credu bod hyn yn ychwanegu at werth y llyfr ar gyfer oedolion gan awgrymu bod treigladau yn bwnc digon ysgafn a ddim yn fygythiol. Mae'r esboniadau a'r cyfarwyddiadau i gyd yn Gymraeg, ond gyda chyfieithiadau Saesneg (mewn print llai) ar gyfer rhieni'r plant - sy'n ddefnyddiol iawn i'n dysgwyr, wrth reswm.
Rwy'n argymell y llyfr i bawb sy'n gofyn 'Gawn ni adolygu'r treigladau?!' Rwy'n credu ei fod yn addas ar gyfer lefelau Canolradd hyd at Hyfedredd, sef y dysgwyr sy 'wedi dysgu' am y treigladau'n barod ond heb eu meistroli, a'r Cymry Cymraeg sy'n medru siarad yn iawn ond sydd â diffyg hyder wrth ysgrifennu.
Yn aml, rwy'n ei chael yn anodd helpu'r dysgwyr o Gymry Cymraeg gyda'r treigladau pan maent mewn dosbarth gyda dysgwyr eithaf rhugl. Mae'r dysgwyr yn deall yn iawn os ydw i’n dweud 'Cofiwch y TM ar ôl y 12 arddodiad', neu 'TM i wrthrych y ferf gryno.' Ond nid yw hyn yn gwneud synnwyr i Gymry sy erioed wedi dysgu'r rheolau fel hyn. Mae’r Cymry’n medru defnyddio rhai o'r treigladau'n reddfol ond maen nhw ar goll os nad ydy’r treigladau yn 'dod' yn reddfol. Wedi dweud hynny, mae'r grŵp hwn yn ymateb yn dda i'r llyfr ac yn gallu gweithio ar y treigladau yn eu hamser eu hunain gartref.
Diolch yn fawr, Elin Meek!
Philippa Gibson