Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl drilio

Sefydlu’r Patrwm: rhaid rhoi sail i weithgareddau a thasgau’r dosbarth iaith

Wrth ddysgu iaith rhaid pwysleisio rôl sefydlu patrwm ac, fel y gŵyr tiwtoriaid Cymraeg i oedolion, bu’r dril iaith yn rhan hanfodol o ddull dysgu, ar gyrsiau dwys yn enwedig, ers degawdau yng Nghymru. Yn fy marn i dyna’n union yw dril iaith - mae’n hanfod ond hefyd yn rhan o’r broses: nid trwy ddrilio yn unig y mae cyrraedd y nod. 

Dan gyfarwyddyd arloeswyr fel Chris Rees ac eraill y cafodd yr Wlpanau Cymraeg cyntaf eu saernïo.  Mae’r Wlpan yn seiliedig ar gynllun deuol, cyflwyno’r patrymau angenrheidiol, yna defnyddio’r patrymau hynny (ynghyd â phatrymau eraill a ddysgwyd) i gyflawni tasgau neu weithgareddau yn yr iaith darged. Mae’n gynllun syml ond effeithiol iawn.  Beth felly yw’r broblem? 

Gyda gwawr y cyrsiau cyfathrebol daeth drilio patrymau yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn hen ffasiwn ac, och a gwae, yn anghyfathrebol ac yn annaturiol. Dw i’n anghytuno â hynny, gan fod sefydlu’r patrwm, galluogi neu arfogi’r dysgwyr i gyflawni tasgau neu weithgareddau yn hollbwysig. Wrth gwrs, mae pendilio’n digwydd yn y maes hwn, fel ym mhopeth arall, a bellach mae’n dderbyniol sôn am ddril iaith a hyd yn oed yn gyffredin wrth sôn am ddysgu Saesneg neu ieithoedd eraill fel ail iaith a gramadeg hyd yn oed, wrth i theorïau a ffasiynau newid. Ond rhaid cydnabod bod y cyrsiau Wlpan yn gweithio; mae llu o ddysgwyr llwyddiannus wedi dod drwy felin yr Wlpan ac mae adroddiadau canmoliaethus gan arolygwyr Estyn ar ganolfannau sy’n defnyddio Wlpanau yn canmol cyrhaeddiad y dysgwyr yn fawr.

Rhaid ystyried llawer o bethau cyn mynd ati i lunio cwrs a phenderfynu a fydd patrymau’n cael eu drilio ai peidio.  Mae llawer iawn o gwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn; yn gyntaf, beth yw anghenion y dysgwyr sydd ar y cwrs? Weithiau, mae’r rhain yn benodol ac yn gymharol hawdd eu hynysu, e.e. bûm yn gwrando’n ddiweddar ar rywun yn sôn am yr arholiadau y mae’n rhaid i reolwyr traffig awyr eu sefyll.  Saesneg wrth gwrs yw iaith y cyrsiau a’r profion hynny, ac mae’n gymharol hawdd diffinio anghenion y gynulleidfa honno; y mae’n bwysig iawn fod yr ymgeiswyr yn llwyddo hefyd - meddyliwch am ddibynadwyedd y profion hynny y tro nesaf y byddwch chi’n hedfan). Fodd bynnag, gyda dosbarth amrywiol o oedolion sy’n dysgu Cymraeg, mae’r anghenion yn amrywio. Iawn, mae’n bosibl i’r tiwtor addasu a theilwra rhai elfennau, geirfa yn bennaf, er mwyn cyflenwi anghenion penodol y dysgwyr sydd yn y dosbarth, ond dyw hi ddim yn bosibl i’r sawl sy’n llunio cyrsiau ragfynegi beth fydd yr holl anghenion hynny.  Wrth lunio cwrs i’w gyhoeddi mae’n rhaid anelu at y dysgwr mwyaf nodweddiadol a chynnwys yr hyblygrwydd i diwtoriaid addasu a chyfeirio’r deunydd at anghenion y dysgwyr sydd yn y dosbarth.

Yr ail beth yw nod y cwrs. Dw i’n cofio Chris Rees yn dweud mai nod y cwrs Wlpan yn syml oedd creu siaradwyr Cymraeg newydd.  Iddo fe, ac eraill fel Bobi Jones, cenhadaeth oedd gwaith Cymraeg i Oedolion, rhan allweddol o frwydr adferiad y Gymraeg. Mae’r pwyslais wedi bod ar sgiliau llafaredd yn y maes ar hyd yr amser, diolch byth. Eilaidd yw’r sgiliau llythrennedd yn y cyrsiau a’r profion, yno’n bennaf i atgyfnerthu’r sgiliau llafaredd. Dyna’r ‘uwch-nod’ i’r rhan fwyaf o gyrsiau’r maes: galluogi’r dysgwr i gydadweithio ag eraill ar lafar.  Os bydd anghenion y dysgwyr a nodau’r cwrs yn groes i’w gilydd, yna dyw’r cwrs ddim yn mynd i lwyddo. Mae’n bwysig egluro nod cwrs i ddysgwyr ar y dechrau.

Yna, byddwn i’n dadlau bod yn rhaid i lunwyr cyrsiau feddwl am drefn yr wybodaeth ieithyddol sydd yn y llyfr cwrs. Yn y gorffennol, byddai rhai llunwyr cyrsiau’n canolbwyntio ar ystyriaethau gramadegol yn unig: yr elfennau hawdd yn gyntaf a symud at yr elfennau mwy cymhleth a chan roi sylw at yr elfennau a oedd yn gwahanu’r iaith darged ac iaith gyntaf y dysgwyr.  Fodd bynnag, os ydyn ni’n disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith darged o’r dechrau’n deg, yna mae’n rhaid mai defnyddioldeb ac amlder yw’r prif egwyddorion sy’n penderfynu ym mha drefn y bydd y llyfr cwrs. Mae’n gyffredin bellach i gyrsiau ymrannu’n nodau sy’n dweud beth mae’r dysgwr yn mynd i allu ei wneud, sef ffwythiant a thybiannau i drin â materion mwy haniaethol. Ac mae’n amlwg felly, o’u mynegi fel hynny fod nodau fel cyfarchion, siarad am y tywydd, sôn am fanylion personol fel gwaith a theulu yn dod ynghynt mewn cwrs na mynegi barn neu gymharu pethau. Byddwn i’n dadlau nad dyma’r unig ystyriaethau wrth benderfynu ar drefn pethau. Yr unig ‘gwrs’ sy’n gwbl seiliedig ar ddefnyddioldeb ac amlder yw’r llyfr ymadroddion i ymwelwyr; ond i ddysgwyr nad ydyn nhw’n ymwelwyr tridiau mewn gwlad estron yn unig, mae angen trefn. Mae angen adeiladu’n gydlynus ar wybodaeth a gyflwynwyd yn barod, er efallai y bydd hynny’n mynd yn groes i’r drefn o ran defnyddioldeb ac amlder. Er enghraifft, mae’n gwbl briodol cyflwyno Ces i.. rywbeth yn fuan ar ôl cyflwyno Es i...  Mae’r naill batrwm yn mynd i wneud y llall yn haws ei ddysgu, er nad hwnnw, o reidrwydd yw’r patrwm mwyaf defnyddiol nesaf.  Mae’n rhaid cael rhyw gydbwysedd rhwng beth sy’n ddefnyddiol a’r hyn sy’n adeiladu’n naturiol o’r darn o iaith a gyflwynwyd ynghynt.  

llinell

Mae’n ddiddorol edrych ar gyrsiau eraill, e.e. llyfrau cwrs y gyfres Look Ahead - un o’r myrdd o gyrsiau ar gyfer dysgwyr Saesneg. Mae’r unedau wedi eu rhannu’n dopigau fel Information / Meeting People / Food and drink / A place to live ac o fewn yr unedau hynny y mae’r nodau gramadegol sydd wedi eu rhestru mewn termau digyfaddawd o ramadegol ac yna rhyw dri neu bedwar ffwythiant yn gysylltiedig â nhw.  Diddorol yw’r adrannau ar Discovering Language sydd - y rhan fwyaf ohonyn nhw - yn ddriliau eithaf caeth: Listen, repeat, work with a partner, tell the class. Wedi dweud hynny, dw i ddim yn teimlo y dylid cyfiawnhau’r hyn sy’n digwydd yn y cyrsiau neu’r arholiadau Cymraeg i Oedolion drwy edrych ar y cyrsiau Saesneg fel ail iaith. Mae’r dulliau sydd ymhlyg yn y llyfrau yn eithaf eclectig a does dim athroniaeth amlwg yn eu gyrru nhw,  hyd y gwela i. Mae rhai pethau’n wahanol, e.e. mae un o unedau cyntaf Look Ahead yn pwysleisio sillafu yn uchel, sy’n sgìl bwysig yn Saesneg, ond ydy e mor bwysig yn Gymraeg ac yn sgìl y mae Cymry Cymraeg yn ei harddel? Mae’r sgiliau llafaredd yn bwysicach i’n maes ni hefyd. Mae llawer i’w ddysgu o faes ESOL, ond ddylen ni ddim efelychu’n slafaidd.

Mae ffactorau eraill hefyd, er enghraifft yn deillio o’r ffaith fod pobl mewn dosbarth ac eisiau rhywbeth i gyfathrebu yn ei gylch. Dyna pam mae dweud rhywbeth yn y gorffennol yn dod yn gynnar ar gyrsiau iaith, efallai ynghynt nag y byddai’r ffactorau defnyddioldeb ac amlder yn ei awgrymu, ond mae medru ateb y cwestiwn ‘Beth wnaethoch chi ddoe?’ yn agor cymaint o ddrysau i gyfathrebu real, mae’n werth ei wneud yn fuan. Y pwynt yw bod nifer o egwyddorion a gofynion weithiau yn gwrthdaro wrth lunio llyfr cwrs.

Ystyriaeth ymylol i mi oedd edrych ar fframweithiau allanol ar gyfer disgrifio lefelau - ro’n i’n edrych ar Fframwaith Cyffredin Ewrop er enghraifft wrth ystyried y nodau ar gyfer y llyfrau cwrs. Fodd bynnag, doedd hyn ddim yn ystyriaeth ganolog, ond yn rhestr gyfair ddefnyddiol o ffwythiannau.

Mae’n amlwg felly fod yr hyn a benderfynir ynghylch nod y cwrs, anghenion y dysgwyr a’r drefn y dylid cyflwyno’r iaith ynddi yn effeithio ar ei gilydd yn yr un modd â’r dulliau dysgu a ddefnyddir. Mae’r cyfan ynghlwm. O benderfynu ar nodau’r uned, mae’r gweithgareddau, y tasgau a’r gemau yn llifo i feddwl tiwtor profiadol, e.e. os oes nod fel ‘siarad am y tywydd’ i’r uned, bydd y tiwtor yn gallu meddwl am lu o weithgareddau cyfathrebol neu siwdo-cyfathrebol a bod yn fanwl, er mwyn rhoi cyfleon i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith mewn ffordd ystyrlon: gemau trac, disiau, ymarferion pelmanism, bwlch gwybodaeth ac yn y blaen. Mae cyfoeth o weithgareddau felly ar gael i’r tiwtor Cymraeg i Oedolion bellach a’r canllawiau a oedd yn cyd-fynd â’r hen gwrs Wlpan Sylfaenol yn gloddfa anhygoel - roedd Chris Rees yn dipyn o bioden ac yn dwyn syniadau a gweithgareddau da o bob ffynhonnell bosibl yn ogystal ag yn diwtor hynod ddyfeisgar. Ond byddwn i’n dadlau na allwch chi ddechrau gyda’r gweithgaredd - rhaid i’r athro alluogi neu arfogi’r dysgwr yn ieithyddol i fedru cyflawni’r dasg neu’r gweithgaredd. Fedrwch chi ddim rhoi tasg i’r grwp heb fodelu ac ymarfer yr iaith y bydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni’r dasg honno.

Dyw dysgwyr ddim yn dysgu nag yn caffael unrhyw beth drwy daflu iaith atyn nhw yn ddi-drefn a fyddan nhw ddim yn gallu cyflawni’r un dasg heb fod yr iaith ganddyn nhw i wneud hynny. Rhaid adeiladu ar yr wybodaeth sydd gyda nhw’n barod mewn ffordd drefnus a’r ffordd o gyflwyno darnau newydd o iaith yw dril iaith.

llinell

Iawn, mae drilio da a drilio gwael yn bosibl. O edrych yn ôl ar hanes driliau iaith, mae llawer o ddrilio gwael wedi digwydd ac ar gyfer dibenion na fydden ni’n hapus â nhw o bosib. Mae gwreiddiau drilio yn y dull clywlafar a gododd yn yr Unol Daleithiau ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Roedd yn cynnwys

Roedd yn seiliedig ar egwyddorion ymddygiadaeth a oedd yn honni bod pobl yn dysgu drwy feithrin arferion neu habits: egwyddorion a gafodd eu gwrthbrofi yn y chwedegau gan Chomsky ac eraill. Mae pwyslais ar ddefnyddio’r iaith lafar a’r iaith darged yn unig - prin y byddai’r dysgwyr yn gwybod ystyr y brawddegau roedden nhw’n eu hailadrodd.  Roedd cywirdeb yn hollbwysig a rôl y tiwtor oedd bod yn ddriliwr effeithiol, cywiro camynganu ac ati a chyd-ddigwyddiad oedd bod y labordy iaith wedi dod yn bosibl ar yr un adeg. Dyw hi ddim yn anodd cael hyd i lawer o bethau sydd o le â’r dull hwn. Mae’n diwtor-ganolog, yn anwybyddu defnyddioldeb fel egwyddor wrth drefnu’r iaith, yn fecanyddol, yn ddiflas ac yn fwy na dim, doedd e ddim yn gweithio’n dda. Doedd dysgwyr ddim yn medru cymhwyso’r hyn roedden nhw wedi ei ddysgu i sefyllfaoedd go iawn. Roedd disgwyliad y byddai’r ail gam yna, o roi’r patrymau ar waith yn digwydd ohono’i hun, ond nid felly. Dyma enghraifft dda o theori’n gyrru’r arferion dysgu gan anwybyddu’r hyn oedd yn digwydd yn y dosbarth; roedd rhaid wrth y chwyldro cyfathrebol i newid pethau a phendilio i’r eithaf arall wedyn.

Mae’r ymdrechion i ysgrifennu cyrsiau Cymraeg i oedolion cynnar yn adlewyrchu rhai o ragdybiau’r dull clywlafar, er yn datblygu’r dulliau hynny ymhellach, a’r enghraifft amlycaf oedd gwaith Carl Dodson ar y dull dwyieithog. Roedd hyn yn yn seiliedig ar batrymau drilio ond yn cynnwys cyfieithiadau cyflym o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd, felly roedd camau ychwanegol:

Mae cant a mil o amrywiadau ar y camau uchod, wrth gwrs a gellir dadlau hyd ddydd y Farn ynghylch priodoldeb dangos y ffurf ysgrifenedig yn gyntaf (y gri –I can’t remember it unless I’ve seen it) a dadlau ynghylch defnyddio iaith gyntaf y dysgwyr i gyfieithu elfennau neu i esbonio ystyr. 

Y chwyldro a ddaeth gyda’r cyrsiau Wlpan fodd bynnag oedd yr ail gam, sef cymhwyso’r patrymau a ddysgwyd mewn gweithgareddau a thasgau cyfathrebol. Mae Wilga Rivers yn sôn am y gwahaniaeth rhwng ymarferion ennill sgiliau ac ymarferion defnyddio sgiliau.  Ni ddylid ymarfer sgiliau yn unig, ond dylid symud at yr ail a rhoi’r patrymau ar waith. Dw i’n meddwl bod y camau uchod, yr ailadrodd, fel corws ac unigolyn, gwahodd brawddegau (nid pwyntio ymosodol efallai), defnyddio sbardun, efallai yn Saesneg, a llawer o ailadrodd yn ddefnyddiol, yn enwedig ar y dechrau ac ar y lefelau isaf. Mae’n rhaid ailadrodd pethau gymaint o weithiau er mwyn i’r dysgwyr gofio ac mae ceisio cynnal gweithgaredd heb ymarfer yn drwyadl yn wastraff amser ac yn creu rhwystredigaeth. Mae’r rhain wedi eu disgrifio fel driliau ‘mecanyddol’ ond byddwn i’n dadlau bod llawer o weithgareddau a gemau sy’n cael eu defnyddio gyda’r cyrsiau Wlpan yn ddriliau hefyd: maen nhw’n gofyn am lawer o ailadrodd. Gawn ni alw’r rhain yn ddriliau cudd neu’n weithgareddau sy’n canolbwyntio ar ffurf. Wedi’r cwbl, does dim cyfathrebu’n digwydd o fewn llawer o gemau a gweithgareddau. 

Un o’r pethau sydd yng nghyfarwyddiadau’r tiwtor i bob llyfr cwrs, fel yn y cyrsiau Wlpan, ar bob lefel yw cyfarwyddyd i’r tiwtor siarad â’r dysgwyr, hynny yw, sgwrsio â nhw a dangos diddordeb yn eu bywydau.  Hyd yn oed os yw’n bum munud ar ddechrau’r wers, yn ystod y toriad am goffi neu ar y diwedd, mae’r pum neu’r deg munud hynny yn sanctaidd. Yno, wedi’r cwbl y mae’r unig gyfathrebu go iawn yn digwydd.

llinell

Wrth gwrs, fydd y llyfrau cwrs yma a’r dull addysgu sydd ymhlyg ynddyn nhw ddim wrth fodd pawb.  Fydd e ddim yn gweithio i rai tiwtoriaid a fydd e ddim yn gweithio i rai dysgwyr. Mae’n fater i’r tiwtor neu’r tiwtor-drefnydd ddewis y llyfrau cwrs sy’n gweddu orau i anghenion y dysgwyr a nodau’r cwrs.  Efallai mod i’n berson drwgdybus, ond dw i’n ddrwgdybus o unrhyw honiad fod ganddyn nhw’r dull perffaith sy’n nacáu’r holl ddulliau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol; dw i’n ddrwgdybus iawn o unrhyw un sy’n ceisio honni bod y we a thechnoleg newydd yn mynd i ddisodli’r tiwtor a’r dosbarth iaith; dw i hefyd yn ddrwgdybus o unrhyw honiad sy’n dechrau â ‘Mae ymchwil yn dangos...’. Gan amlaf, mae’r ymchwil yno i geisio cyfiawnhau un dull ar draul dull arall. Mae cynnal ymchwil ar gymharu dulliau addysgu yn anodd iawn gan fod cymaint o newidynau yn effeithio ar yr hyn mae’r ymchwil yn ceisio ei brofi. Nid mod i’n ddrwgdybus o ymchwil - mae taer angen ymchwilio i sawl agwedd ar faes dysgu Cymraeg i Oedolion a bod perthynas fywiol rhwng yr ymchwilwyr a’r tiwtoriaid a’r sawl sy’n ddigon gwirion i ysgrifennu llyfrau cwrs. Boed i’r tiwtoriaid gwestiynu ac amau beth mae’r llyfr cwrs yn eu gorfodi i wneud ac i gwestiynu’r ymchwil sy’n deillio o’r maes. 

I grynhoi felly, daliwch ati i ddefnyddio dril iaith. Mae’n hollbwysig sefydlu’r patrwm i alluogi’r cyfathrebu i ddigwydd, yn enwedig pan fo un iaith gyffredin gan y dysgwyr yn barod a honno’n iaith mor bwerus a hollbresennol. Rhaid cofio am yr ail gam, serch hynny, defnyddio’r patrymau mewn cyd-destunau sydd mor real â phosibl dan amgylchiadau dosbarth a manteisio ar bob cyfle i sgwrsio’n rhydd. I mi, mae’r syniad o ddysgu Cymraeg heb orfod ymdrechu yn anghywir - does dim llwybrau cyflym; mae dysgu Cymraeg yn gofyn am gymhelliant cryf, ymdrech ac amser.

Emyr Davies

 

 

llinell