# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

adnoddau.jpg
      Cardiau Bach CBAC

Newydd eu cyhoeddi - Cardiau Bach CBAC 1 a 2. Mae’r
pecynnau hyn yn cynnwys fersiwn llai, maint A6, o’r cardiau
fflach a geir yn y pecynnau a gyhoeddwyd y llynedd.
Byddan nhw’n ddefnyddiol i wneud gwaith pâr neu wrth
wneud tasgau sy’n gofyn am gardiau llai. Y pris yw £10 y
pecyn. Cynhwysir yr holl luniau sydd yn y pecynnau gwreiddiol,
a hefyd cardiau ‘rysait’ ychwanegol sy’n rhoi amrywiaeth o syniadau
gwreiddiol am sut i ddefnyddio’r cardiau. Ar gael o siop CBAC -
02920 265112 neu www.cbac.co.uk (dan Siop Ar-lein)


      Ffeil Hyfedredd CBAC

Bydd y Ffeil Hyfedredd yn cael ei gyhoeddi gan CBAC cyn hir i gefnogi’r Dystysgrif Mewn Hyfedredd Iiaith: Defnyddio’r Gymraeg. Ond mae’r unedau ar gael nawr ar ffurf ddrafft. Ceir cyfanswm o 5 uned sydd yn llawn o wybodaeth a gweithgareddau amrywiol:

  Uned 1: Cyflwyno
  Uned 2: Cyfieithu a Thrawsieithu
  Uned 3: Crynhoi a Gwerthuso
  Uned 4: Project Ymchwil
  Uned 5: Ysgrifennu Graenus

Mae CBAC yn y broses o ragbrofi’r adnoddau gwreiddiol hyn ac os oes diddordeb gennych mewn rhagbrofi unrhyw ran o’r unedau gyda’ch dosbarth cyn iddynt gael eu cyhoeddi’n swyddogol, cysylltwch ag adran Cymraeg i Oedolion CBAC drwy ddefnyddio’r ffurflen sylwadau yn yr adran Cysylltu.


      Gwasanaeth S4C

adnoddau2.jpg

purpleline.jpg