# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009
    swyddog1.jpg
Dafydd Wyn Morgan o Dregaron, Ceredigion yw Swyddog y Dysgwyr a Dysgu Anffurfiol ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Daw â nifer fawr o sgiliau a phrofiadau i’r swydd allweddol hon. Bu’n athro cynradd am 10 mlynedd ac yna bu’n gweithio ym maes adfywio cymunedol a maes addysg i oedolion mewn ardaloedd gwledig, difreintiedig.

Mae’n gerddwr o fri ac yn gwbl gyfarwydd ag ardal Eryri. O ganlyniad, y mae wrth ei fodd yn byw yn ardal Dolgellau yn ystod yr wythnos, gan mai yn Nolgellau y mae ei swyddfa, ac yn dychwelyd i Geredigion ar y penwythnosau.

Ei brif gyfrifoldebau yw paratoi dysgwyr yr ardal ar gyfer yr Eisteddfod, sefydlu gweithgareddau dysgu anffurfiol a rheoli gweithgareddau maes D, sef pabell y dysgwyr. Rhydd bwyslais mawr ar y cynllun pontio gan geisio sicrhau nifer o gyfleoedd i ddysgwyr fynd allan i’r gymuned i ddefnyddio’u sgiliau iaith e.e. teithiau cerdded, teithiau i’r theatr, cyfarfodydd Merched y Wawr, cyfarfodydd Clwb Cinio a.y.y.b. Wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae’n gyfle i farchnata’r Eisteddfod a’r holl gyfleoedd y mae’r ŵyl hon yn eu cynnig i ddysgwyr.

Mae’n gobeithio cyflawni nifer fawr o dargedau personol yn ystod ei gyfnod fel swyddog y dysgwyr ac un ohonynt yw ceisio sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o’r Eisteddfod ac yn dymuno cyfrannu ati mewn rhyw fodd e.e. ymweld â maes D, cystadlu neu wirfoddoli i weithio yno. Dywed fod gan bob un ohonom ein rhan i chwarae wrth geisio codi canran y siaradwyr Cymraeg a rhaid sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i weld a defnyddio’r iaith cyn amled â phosib.

Mae cystadlaethau’r Eisteddfod wrth gwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’u sgiliau a hoffai Dafydd atgoffa tiwtoriaid i annog eu dysgwyr i gystadlu ac, yn ychwanegol at hynny, i adnabod dysgwyr i’w henwebu ar gyfer tlws Dysgwr y Flwyddyn.

Mae ei ddiddordebau yn dyst i’r egni di-ben-draw sydd ganddo. Mae’n mwynhau cerdded a theithio ac un o’i ddiddordebau mawr yw arwain teithiau cerdded, yn lleol ac ymhellach. Bydd rhai ohonom yn ei adnabod fel Twm Siôn Cati ac ef fu’n gyfrifol am sefydlu cymdeithas i goffáu 400 mlwyddiant marwolaeth Twm yn 2009. Mae gweithgareddau’r gymdeithas honno yn cynnwys Sialens Twm Siôn Cati ym mis Mai eleni, sef taith gerdded o’r ogof enwog yn Rhandirmwyn i Borthyffynnon yn Nhregaron, sef hen gartref Twm. Does dim rhaid dweud bod croeso cynnes iawn i ddysgwyr ymuno yn yr hwyl!

Mae holl fanylion cystadlaethau’r Eisteddfod ar gyfer dysgwyr yn rhifyn 4 (ewch i’r adran archif). Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag ef yn y cyfeiriad isod:

swyddog2.jpg   
Swyddog y Dysgwyr
Swyddfa’r Eisteddfod
Hen Dŷ’r Ysgol
Ffordd Glanrafon
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1PA