# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

siapan1.jpg
Daw Ryuichiro Hirata o Kagawa, Siapan ac erbyn hyn mae’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r gŵr ifanc hwn, sy’n 27 oed, yn astudio ieithyddiaeth ac roedd ganddo gymaint o ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg dechreuodd ddysgu’r iaith gartref yn Siapan am ddwy flynedd cyn dod draw i Gymru. Aeth ati drwy brynu’r llyfr ‘Teach yourself Welsh’ a bu’n dysgu ei hun yn llwyddiannus iawn cyn dod i Fangor.

Dywedodd:
‘Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg oherwydd byddai hynny’n fy helpu gyda’r cwrs ieithyddiaeth ac ro’n i eisiau siarad â phobl yn eu hiaith eu hunain. Ond a dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod pam ‘mod i’n ymddiddori cymaint yn yr iaith Gymraeg – efallai oherwydd bod y Gymraeg mor wahanol i’r Saesneg.’

Mae Ryuichiro yn mynychu dosbarth canolradd dan ofal yr Adran Dysgu Gydol Oes ym Mangor ddwywaith yr wythnos. Ychwanegodd:
‘Yn bendant doedd hi ddim yn hawdd dysgu, yn enwedig yr holl reolau treiglo a’r holl ffyrdd gwahanol o ddweud ‘ie’ a ‘na.’ Yn bersonol, fy ngwendid i yw gwrando a chofio geiriau newydd felly dw i’n ceisio siarad â chymaint o siaradwyr Cymraeg â phosib er mwyn ymarfer.’

Mae byw yng Nghymru yn ei gwneud hi’n haws i Ryuichiro ddysgu’r iaith ac i ddatblygu ei sgiliau ieithyddol, o’i gymharu â sut oedd pethau pan ddechreuodd ddysgu yn Siapan.

Dywedodd:
‘Dw i’n gwylio S4C ac yn gwrando ar Radio Cymru pan fydd amser gen i.’

siapan2.jpg  
Yn ôl Sharon Ann Eynon, tiwtor Ryuichiro:
‘Mae e wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 3 blynedd nawr ac mae e’n dda iawn. Mae e’n mwynhau sgwrsio â myfyrwyr eraill yn ystod y gwersi ac yn chwilio am fwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.’

Erbyn hyn mae Ryuichiro yn ei flwyddyn olaf ym Mangor ac yn gobeithio cael swydd ym maes ieithyddiaeth. Ei fwriad yw parhau i ddysgu’r Gymraeg tan iddo ddod yn rhugl yn yr iaith.    

purpleline.jpg