# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009
enwebu.jpg
Fel y soniwyd yn y rhifyn diwethaf ym mis Rhagfyr fe fydd yna ychydig o newid i’r drefn bresennol o ran trefniadau’r Tlws Coffa. Pwyllgor golygyddol y Tiwtor fydd yn gyfrifol am weinyddu’r Tlws Coffa o’r flwyddyn nesaf ymlaen a’r pwyllgor hwnnw hefyd fydd yn dewis yr enillydd. Cyflwynir y tlws a gwobr ariannol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol i berson am:

    •  wasanaeth werthfawr i faes Cymraeg i oedolion;
    •  fod yn diwtor o’r radd flaenaf;
    •  ysbrydoli dysgwyr i ddyfalbarhau hyd at rugledd

Mae’n bleser gan y Tiwtor gyhoeddi bod y ffurflen enwebu ar gael nawr a gellir ei hanfon at y pwyllgor golygyddol drwy e-bost: cymraegioedolion@cbac.co.uk Gellir anfon y ffurflen drwy’r post hefyd at Mandi Morse, Cymraeg i Oeodolion, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX.

Mae’r ffurflen ar gael drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’r ffurflen enwebu ar ffurf Word fel bod modd i chi ei llenwi’n electronig neu ei hargraffu, yn ôl dymuniadau personol. Bydd rhaid anfon adroddiad o 300 o eiriau hefyd yn nodi pam yr ydych yn enwebu tiwtor. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 25 Mehefin 2009.



purpleline.jpg