# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

apadgos.jpg
Fel rhan o’n rhaglen comisiynu adnoddau, mae cwmni Eclipse wedi cynhyrchu DVD ‘Gwylio’n Graff’ sef casgliad o glipiau o raglenni teledu Cymraeg wedi eu dethol ar gyfer dysgwyr ar lefelau Uwch a Hyfedredd. Mae’r clipiau wedi eu dewis er mwyn annog trafodaeth ymysg dysgwyr ac maent yn ymdrin â phynciau sy’n amrywio o’r amgylchedd a theithio i ysbrydion a ‘UFOs’. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys nodiadau a gweithgareddau gan Non ap Emlyn, yn ogystal â thrawsgrifiadau, ar gyfer pob un o’r 24 clip. Bydd copïau rhad ac am ddim yn cael eu dosbarthu i bob canolfan felly mynnwch gopi!

Mae dau broject i gynhyrchu adnoddau newydd hefyd ar fin cychwyn yn yr wythnosau nesa. Mae’r cyntaf yn ddetholiad o farddoniaeth a rhyddiaith a gweithgareddau cysylltiedig bydd yn anelu at ddefnyddio’r lenyddiaeth i gynorthwyo’r broses o ddysgu Cymraeg. Bydd y pecyn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefelau Mynediad hyd at Hyfedredd ac yn cynnwys llyfr, CD-ROM a CD sain. CBAC fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r project hwn. Mae’r ail yn broject i gasglu’r holl ddeunydd fideo ar wefan Big Welsh Challenge y BBC ynghyd ar un DVD. Bydd y disg, yn ogystal â chanllawiau i diwtoriaid, yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim i’r canolfannau.

Dyfan Evans

purpleline.jpg