# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

 anffurfiol.jpg

Dechreuais ar fy swydd fel Swyddog Dysgu Anffurfiol yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg ychydig dros flwyddyn yn ôl ac mae’r amser wedi hedfan. Beth yn hollol yw ‘dysgu anffurfiol?’ Yn bennaf, darparu cyfleoedd i ddysgwr allu defnyddio’u Cymraeg y tu allan i gyfyngau a diogelwch ystafell dosbarth mewn sefyllfaoedd anffurfiol cymdeithasol ac, yn bwysig iawn, i wneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau. Yn ogystal â darparu gweithgareddau a digwyddiadau, dw i hefyd mewn cysylltiad agos â’r cymdeithasau Cymraeg sydd yn yr ardaloedd – does dim cymaint yn ardal Merthyr Tudful a Phorthcawl, ond mae nifer o rai llwyddiannus iawn yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r Ganolfan yn gyfrwng i hysbysu dysgwyr am y gweithgareddau mae’r cymdeithasau yma yn eu trefnu, ac yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi cael croeso mawr gan nifer ohonyn nhw.

Un elfen bwysig o’m swydd yw cynnal cyfweliadau unigol gydag o leiaf 200 o’r dysgwyr. Mae hwn yn brofiad newydd i nifer fawr o’r dysgwyr ac yn gyfle iddyn nhw siarad am bethau sy’n bwysig iddyn nhw. I mi, mae’n gyfle i ddarganfod beth yw eu defnydd o’r iaith a’u cysylltiad â’r Gymraeg tu allan i’w dosbarthiadau. Mae’n gyfle hefyd i wybod beth yw eu diddordebau fel fy mod yn gallu trefnu digwyddiadau a fydd o ddiddordeb iddyn nhw ac erbyn diwedd y flwyddyn mae gennyf gronfa ddata o dros 200 o gyfeiriadau e-bost sy’n derbyn newyddion a negeseuon rheolaidd am ddigwyddiadau.  

Mae rhai o’n gweithgareddau yn rhai blynyddol fel Eisteddfod y dysgwyr sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg - cynhelir yr Eisteddfod nesaf nos Wener 13 Mawrth – a hefyd y cinio Gŵyl Dewi a gynhelir yng ngholeg Morgannwg. Y siaradwraig wadd yn y cinio y llynedd oedd Siân Thomas o’r BBC ac roedd hi’n ddiddorol iawn gan ei bod hi’n dysgu Arabeg ac yn gallu uniaethu â phrofiadau dysgwyr Cymraeg.

Mae nifer helaeth o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn a hoffwn i sôn am rai o’r uchafbwyntiau.

anffurfiol2.jpg  anffurfiol3.jpg

Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi ymweld â nifer o lefydd diddorol – yn nhymor y gwanwyn aethon ni ar daith i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle cawson ni ein tywys o amgylch yn cael hanes a gweld y creiriau sy’n cael eu cadw yno cyn galw yng ngwinllan Ffynnon Las yn Aberaeron ar y ffordd adref i dorri syched! Cyn yr haf cafwyd taith arall, y tro yma i Wasg Gomer lle roedd cyfle i gael bargeinion ymysg y llyfrau ac wedyn ymlaen i Delynau Teifi i gael hanes y cwmni a’r telynau maen nhw’n eu cynhyrchu. Cyn y Nadolig aethon ni i stiwdio Wedi 7 ac i’r BBC yng Nghaerdydd i gael ein tywys o amgylch set Pobol y Cwm, a chael llun wedi’i dynnu o flaen y Deri Arms!

anffurfiol4.jpg  anffurfiol5.jpg

I ddathlu diwedd tymor dysgu’r haf penderfynwyd cynnal Cymanfa Ganu yng Nghapel y Tabernacl, Porthcawl ddydd Sul 29ain o Fehefin dan arweiniad Rob Nicholls. I fi’n bersonol, dyma oedd llwyddiant mwya’r flwyddyn oherwydd bod cymaint o ddysgwyr wedi dod a chymryd rhan trwy ddarllen emynau neu ganu mewn côr ac wedi dweud cymaint ro’n nhw wedi mwynhau eu hunain ac yn gofyn a fyddai modd i ni drefnu un eto’r flwyddyn nesa! Mae’r Gymanfa nawr yn ddigwyddiad blynyddol ac mae’n rhaid cofnodi ein bod ni wedi cael croeso twymgalon a chefnogaeth gan weinidog ac aelodau capel y Tabernacl.

O ganlyniad i’r cyfweliadau dw i wedi’u cynnal gyda dysgwyr ro’n i’n sylweddoli bod nifer fawr yn mwynhau cerdded a bwyta allan, felly dyma fynd ati i sefydlu clybiau cinio a chlwb cerdded. Ar hyn o bryd mae dau glwb cinio misol gyda ni – un yn cwrdd yng ngholeg Pen-y-Bont sy’n hynod lwyddiannus gyda tua deg ar hugain o ddysgwyr yn dod yn rheolaidd ac un arall a sefydlwyd yn yr hydref ym Mhontyclun.

Yn yr hydref hefyd y sefydlwyd y clwb cerdded gyda’r bwriad o drefnu teithiau cerdded misol yn un o dair rhanbarth y Ganolfan o dan arweinyddiaeth naill ai dysgwr/wraig neu Gymro neu Gymraes o’r ardal. Roedd y daith gynta yn ardal Llanhari a braf oedd gweld dros ddeg ar hugain o gerddwyr wedi ymgynnull. Arweinydd y daith oedd un o’n dysgwyr yng ngholeg Porthcawl a chafwyd taith ddiddorol iawn a chyfle i ddysgu mwy am hanes yr ardal.

Ers hynny rydyn ni wedi bod yng ngwarchodfa natur Cynffig, cael cipolwg ar hen ffermdai ardal Llantrisant a bydd y daith nesaf ar hyd yr hen ffordd dram ym Merthyr Tudful a’r mis canlynol byddwn ni’n darganfod hanes tref Pontypridd. Mae’r teithiau cerdded yn ffordd dda o gymdeithasu yn ogystal â dysgu mwy am hanes yr ardal rydyn ni’n byw ynddi, ac wrth gwrs yn aml byddwn ni’n bwrw ein syched mewn tafarn gerllaw ar ddiwedd y daith.

Dyma ragflas o beth sy’n digwydd yn anffurfiol ym Morgannwg, a dw i’n edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous arall gyda theithiau lleol, taith i Lanllyn, taith i’r gorllewin, clybiau darllen, ac o leiaf un digwyddiad i’r teulu.

Shan Morgan
anffurfiol7.jpg