Ar ddiwedd mis Hydref yr oedd gennyf nifer o ddiwrnodau o wyliau ar ôl a doeddwn i ddim eisiau eu colli nhw. Felly, dyma fi’n manteisio ar y cyfle a phenderfynu ei heglu hi draw i Iwerddon am ryw wythnos.
Mi wnes i dystysgrif yn yr Wyddeleg yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl ond yn anffodus, oherwydd un peth a’r llall, doeddwn i ddim wedi cael cyfle i fynd draw fan ’na er mwyn cael ymarfer yr ychydig o’r iaith oedd gennyf. Y tro yma, felly, penderfynais fynd draw i ganolfan iaith mewn pentref o’r enw Gleann Cholm Cille yn Swydd Dún na nGall, draw yng ngogledd orllewin y wlad.
Gyrrais i fy nghar draw i Abergwaun yn oriau mân bore Iau 23 Hydref 2008 gyda’r bwriad o fynd draw i’r Ynys Werdd am gyfanswm o naw diwrnod. Yr oedd yn dywyll pan gyrhaeddais y cwch ac yr oedd yn dywyll pan wnes i adael y cwch. Yr oedd y daith ar y cwch yn ddigon di-nod, heblaw am y peint o Guinness i ddathlu’r achlysur!
Mae pobl yn ystyried Iwerddon yn wlad fach ac mae hi, o gymharu â rhai o fawrion y byd megis Rwsia neu America. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau gyrru o un pen y wlad i’r llall, o Ros Láir i Dún na nGall, mewn diwrnod, sef rhyw 350 o filltiroedd, mae’n wlad fawr! Ond yr oedd yn hynod o ddiddorol cael gweld y newidiadau mawr sydd ar droed ac sydd wedi digwydd yn y wlad yn ystod y degawd diwethaf. Mae llawer o waith adeiladu ffyrdd mawr yn digwydd yno, er bod ambell i ffordd dyllog yn bodoli o hyd, ac mae ôl buddsoddi mawr yn y trefi i’w weld.
Cyrhaeddais i dref Dún na nGall ar nos Iau ond yr oedd yn rhy hwyr i fynd draw i Gleann Cholm Cille y diwrnod hwnnw, felly arhosais i mewn gwesty yn y dref. Er imi fod yn agos i’r Gaeltacht, sef ardal Wyddeleg ei hiaith, nid oedd rhyw lawer o Wyddeleg i’w chlywed ar y stryd yma, ond roeddwn yn falch o fedru deall ambell i beth ar yr arwyddion ac yn y blaen.
Y bore wedyn, dyma fi yn anelu am bentref Gleann Cholm Cille. Saif yr ardal hon ym mhen pellaf penrhyn Sliabh Liag, yn ne orllewin y sir. I’r Gwyddelod mae’n ardal anghysbell, gyda’r môr yn amgylchynu’r lle ac ymysg y plwyfi agosaf yr ochr draw y mae Efrog Newydd, yr Ynys Las a Brasil. Mae’n eithaf mynyddog hefyd, gyda golygfeydd dramatig o fynyddoedd ar sawl tu a chlogwyni uchel yn disgyn yn syth i lawr i’r môr. Mae’n debyg bod y lleoliad daearyddol yma wedi helpu gwarchod yr Wyddeleg yn yr ardal. Fodd bynnag, nid yw’r iaith yn cael ei hystyried yn ddiogel nawr, gyda Reg Hindley, yn ei astudiaeth enwog o’r Wyddeleg yn y 1980au, yn ystyried rhannau o’r penrhyn naill ai yn Breac-Ghaeltacht (lled-Wyddeleg ei hiaith) neu’n Galltacht (ardal Saesneg ei hiaith). Cefnogir y canfyddiad gan athrawon Gwyddeleg y cylch.
Mae canolfan iaith Oideas Gael wedi bodoli yn y pentref ers 1984 ac mae’n rhan o’r weledigaeth o ddefnyddio’r iaith i hyrwyddo datblygiad economaidd yr ardal, gyda’r nod o blethu’r iaith a’r twf economaidd i’w gilydd. Menter arall sydd yn bodoli yn y pentref, er enghraifft, yw amgueddfa werin a oedd ar gau yn anffodus pan fues i yna. Byddai’r pentref wedi bod ar ei golled oni bai am y math hwn o weithredu dros y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, mae’r ganolfan iaith yn weddol fach o ran maint, gyda nifer o ystafelloedd dysgu, siop lyfrau, neuadd ymgynnull a nifer o ystafelloedd eraill atodol, megis swyddfa, cegin ac yn y blaen. O ran maint a golwg, gellir ei chymharu ag ysgol gynradd fach yng Nghymru. Mae’r cyrsiau yn rhedeg yn bennaf yn ystod yr haf gydag ambell i un yn ystod gweddill y flwyddyn, fel gwyliau banc Gwyddelig.
Pan gyrhaeddais i ar y nos Wener, rhaid oedd cofrestru a dod o hyd i’m llety yn y pentref. Yn y ganolfan yr oedd pawb, yn ddysgwyr neu’n athrawon, yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar ac yr oedd diddordeb mawr ganddynt yn y ffaith fy mod yn dysgu’r Gymraeg. Ar y noson gyntaf, felly, aeth pawb bron draw i’r teach tábhairne ( y dafarn) ac yr oedd yn hawdd iawn i ddod i adnabod pobl. Byddai’r Bord Fáilte (Bwrdd Croeso) wedi bod yn falch iawn oherwydd yr oedd y noson honno yn union fel stereoteip o noson mewn tafarn Wyddelig – y math o noson y byddech chi’n ei gweld mewn hysbysebion a ffilmiau. Roedd y teach tábhairne yn fach ac yn glyd, roedd grŵp yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol, roedd llawer o ddawnsio ac roedd y Guinness yn llifo. Roedd yn braf hefyd cael defnyddio f’ychydig Wyddeleg o ddifrif am y tro cyntaf, er ei bod braidd yn rhydlyd. Roeddwn i’n gallu cydymdeimlo â’m dysgwyr yma yng Nghymru wrth imi straffaglu a thrio cyfleu rhywbeth!
Yr oedd dau beth yn fy nharo i wrth gyfarfod â’r dysgwyr eraill a oedd mor wahanol i’n sefyllfa ni yng Nghymru. I gychwyn, yr oedd bawb bron yn dod o Iwerddon. Yr oedd rhyw 100 o bobl ar y cwrs ac er bod yna ambell un o Ddenmarc, Canada, Lloegr neu’r Unol Daleithiau, roedd y rhan fwyaf o bell ffordd yn dod o’r wlad ei hun a’r mwyafrif o’r rheini’n dod o’r gogledd. Yr ail beth oedd bod y rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc ac nid pobl sydd wedi ymddeol neu wedi symud i mewn i’r ardal.
Ar y dydd Sadwrn, felly, dyma gychwyn ar y dosbarthiadau iaith. Yn fras, yr oeddynt yn cael eu cynnal o 10:00 tan 1:00 ac wedyn o 3:00 tan 5:00 ar y Dydd Sadwrn a Dydd Sul, ac wedyn 10:00 tan 1:00 ar y Dydd Llun. Yn ogystal â hyn, yr oedd dosbarthiadau canu ar y nos Sadwrn a dawnsio ar y nos Sul. Yr oedd rhyw 15 i 20 o ddysgwyr ym mhob dosbarth ac yr oedd 6 o ddosbarthiadau i gyd, ar gyfer dechreuwyr pur i fyny hyd at y rhai oedd yn eithaf rhugl. Gan nad oeddwn yn siŵr beth oedd fy lefel i, dechreuais i yn nosbarth 5 ond es i i lawr i ddosbarth 4 yn ddigon buan!
Yr oedd fy athrawon yn bobl ifanc a rhaid dweud yr oedd yn braf eu gweld yn barod iawn i ddefnyddio’r Wyddeleg fel cyfrwng cyfathrebu ar bob achlysur a dyna beth oedd cyfrwng y gwersi at ei gilydd. Fodd bynnag, rhaid imi gyfaddef yr oeddwn i ychydig yn siomedig gyda’r gwersi. Yr athrawes oedd canolbwynt y dysgu drwy gydol yr amser, doedd dim gwaith pâr na chwaith gwaith grŵp a doedd dim gemau iaith fel y cyfryw. Nid oedd cyfle, felly, imi gael siarad â’r dysgwyr eraill yn ystod y dosbarthiadau. Roedd hefyd tipyn o bwyslais ar ramadeg gydag esboniadau o bethau fel cystrawen y frawddeg, yn yr Wyddeleg ac yn y Saesneg. Yr wyf yn gyndyn i fod yn rhy feirniadol gan fod yr ymweliad wedi bod mor bleserus at ei gilydd ac mi wnes i wella fy Ngwyddeleg cymaint ond rhaid dweud bod llawer o bethau y gallwn ni yma yng Nghymru eu rhannu gyda’n cefndryd Celtaidd yn Iwerddon o ran technegau dysgu.
Roeddwn i, felly, yn Gleann Cholm Cille am y penwythnos, gan adael ar brynhawn Dydd Llun. Ar ôl y cwrs teithiais i drwy weddill Gaeltacht swydd Dún na nGall draw i Doire nos Lun. Wedyn, es i drwy weddill gogledd Iwerddon er mwyn ymweld â’r lleoedd o ddiddordeb yn ardal Uladh (Ulster). Braf gweld hefyd fod pobl wedi dechrau rhoi arwyddion gyda’r gair Gaeilge (Gwyddeleg) ar arwyddion uniaith Saesneg y dalaith. Daeth fy nhaith i ben gydag ymweliad â safle cynhanesyddol Brú na Slí (Newgrange), Ceanannus Mór (Kells) a Baile Átha Cliath (Dulyn) gan ddal y cwch yn ôl i Abergwaun ar y nos Wener ganlynol.
Er bod gennym ni Nant Gwrtheyrn, rhaid dweud yr oeddwn i braidd yn genfigennus o’m cydweithwyr draw yn Iwerddon. Yn Sir Benfro, a De Cymru o ran hynny, nid oes gennym yr un ganolfan breswyl bwrpasol sydd yn gweithio yn unswydd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg. Fel cynllunydd gyda Chyngor Sir Benfro, dw i’n gweld nifer fawr o hen ffermydd yn cael eu haddasu i fod yn bentrefi gwyliau neu’n dai haf ond eto nid ydym wedi cynllunio unrhyw beth sy’n debyg i ganolfan iaith Gleann Cholm Cille.
Beth amdani, felly, benaethiaid y canolfannau iaith?
Os hoffech ymweld â’r ganolfan iaith, ewch i wefan Oideas Gael, sef www.oideas-gael.com, neu ysgrifennwch at Oideas Gael, Gleann Cholm Cille, Co. Dhún na nGall, Éire. Fe gewch chi céad míle fáilte go iawn.
Slán go fóill!
Ceri Jones