# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

modular.jpg  

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wrthi’n ystyried rhinweddau cyrsiau modiwlar ar gyfer y dyfodol. Ond beth yn union yw cyrsiau modiwlar?

Yn fras, yr hyn sydd dan sylw yw cyrsiau mewn blociau o 10 wythnos. Byddai’r Cwrs Mynediad fel enghraifft, yn medru cael ei drefnu fel a ganlyn:

•  20 awr cyswllt ymhob bloc
•  6 bloc er mwyn cwblhau’r lefel
•  Un bloc bob tymor am ddwy flynedd
•  Eu disgrifio fel Mynediad 1 i Mynediad 6.

Beth felly ydy’r manteision o wneud hyn? Wel, gall fod nifer o fanteision, gan gynnwys:

•  mae’n ymateb i ofynion dysgwyr sydd eisiau’r opsiwn o gwrs byr
•  y posibilrwydd o roi dilyniant modiwlau er mwyn cynnig cyrsiau mwy ‘traddodiadol’
•  sicrhau cyfraddau cwblhau gwell
•  mwy o foddhad ymysg dysgwyr (o gyflawni/cwblhau mewn cyfnod byr)
•  ein galluogi ni i gymharu data yn fwy effeithiol
•  gellid rhoi tystysgrif ‘fewnol’ i’r dysgwyr ar ddiwedd y tymor i gydnabod llwyddiant
•  mae’n ymateb i gais gan Estyn i ni ystyried hyn
•  mae’n hwyluso sefyllfa lle mae dymuniad i ddechrau cwrs ar unrhyw adeg o’r flwyddyn
•  o roi’r 3 modiwl cyntaf at ei gilydd, byddai’n dal i gyfateb i Mynediad 1 ar gyfer y rheiny sydd eisiau cwrs hwy, mwy traddodiadol

Ar y llaw arall, mae’n anorfod fod yna anfanteision hefyd, megis:

•  mae’n ei gwneud hi’n haws i ddysgwyr adael cyn cyrraedd rhuglder
•  colli dysgwyr fesul modiwl sy’n golygu efallai na fydd modiwlau uwch yn hyfyw
•  nod cymhwyster arholiad – efallai yn broblem i’w gymhwyso?
•  yr angen i sicrhau bod credydau RhCA wedi eu rhannu’n gyfartal i bob modiwl
•  mwy o waith papur i’r tiwtor e.e. ymrestru, cynllun dysgu unigol tymhorol
•  cyfraddau dilyniant cymharol isel (dysgwyr wedi cyflawni’r hyn yr oeddynt ei eisiau mewn 10 neu 20 wythnos)

Beth ydy’ch barn chi am hyn? Os oes gennych chi sylwadau ar y syniad hwn, neu ddadleuon ychwanegol o blaid neu yn erbyn, yna byddai Canolfan y Gogledd yn falch iawn o glywed gennych chi. Anfonwch e-bost i’r cyfeiriad canlynol os gwelwch chi’n dda: i.gruffydd@bangor.ac.uk

Ifor Gruffydd
Cyfarwyddwr Canolfan CiO Gogledd Cymru

purpleline.jpg