# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

      merthyr-1.jpg  
Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
Neuadd Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Ar dudalen flaen gwefan y fenter ym Merthyr, fe welwch y farddoniaeth isod sy’n rhan o sgript opera roc a berfformiwyd yno yn 2006:

    Mae fflam yn nhref y ffwrnais,
    Mae angerdd yn ein cân.
    O ludw oer Cyfarthfa,
    edrychwn ni ymlaen.
    Ni yw gobaith Merthyr,
    Mae mentro yn ein gwaed.
    Dyfodol yn y cymoedd,
    Cymraeg sydd ar ei thraed.
merthyr-2.jpg
Ar ôl ymweld â’r Ganolfan yn ddiweddar a dod i wybod mwy am yr holl gynlluniau sydd ar y gweill, ni all yr un dyn byw ddadlau nad yw’r fflam erbyn hyn bron yn goelcerth.

Un o’r pethau mwyaf annisgwyl am y lle yw bod y Ganolfan wedi ei lleoli ar waelod lôn gul yng nghanol tref Merthyr ac wedi ymgartrefu mewn hen festri capel, gyda’r capel ei hun (Capel Soar) rhyw fetr yn unig i ffwrdd, yr ochr draw i’r lôn gul. Mewn gwirionedd, dyma ffrwyth Eisteddfod yr Urdd 1987 a gynhaliwyd ym Merthyr. Penderfynwyd adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan ymweliad yr Eisteddfod â’r dref ac arweiniodd y cynlluniau cychwynnol hynny at sefydlu’r fenter yn y festri ym 1992 ac at drefnu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg unwaith y mis. Ym 1992 agorwyd siop lyfrau Cymraeg yno hefyd.

Roedd yr holl waith a wnaed gan unigolion yn y fenter am y ddeng mlynedd cyntaf hynny yn hollol wirfoddol. Yn 2002 cyflwynwyd cais llwyddiannus i Fwrdd yr Iaith am arian i sefydlu menter swyddogol ac yn 2003 sefydlwyd Menter Iaith Merthyr gyda chydweithrediad pwyllgor Capel Soar. Lis McLean yw’r Swyddog Datblygu ac mae hi wedi bod yn weithgar iawn yno ers y dechrau. Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu’r holl newidiadau sydd ar y gweill yno. Y bwriad yw trawsffurfio Capel Soar ac adeilad y festri ym Mhontmorlais yn lleoliad celfyddydau cymunedol. Bydd y cynllun yn galluogi datblygu’r celfyddydau ym Merthyr trwy ddarparu canolbwynt ar gyfer celfyddydau o fewn y gymuned. Bydd Grŵp Sylfaen o ddarparwyr celfyddydau cymunedol yn gyfrifol am reoli, cynllunio a datblygu’r fenter.

merthyr-3.jpg  
Bydd y manteision i’r gymuned yn enfawr wrth gwrs ac yn cynnwys:
• lle aml-bwrpas fforddiadwy
• darpariaeth gelfyddydol sydd yn hygyrch ac yn fforddiadwy
• cyfleoedd addysgiadol a chymdeithasol dwyieithog yn ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau, yn ogystal â hyfforddiant
• cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru

Bydd hyn i gyd yn arwain at greu Theatr Gymunedol ddwyieithog yn y capel ei hun fydd yn darparu man cyfarfod a pherfformio i nifer fawr o gwmnïau a chlybiau yn yr ardal. Bydd trysorau Capel Soar wrth gwrs, megis yr hen organ, yn cael eu diogelu a byddant yn cael eu cadw yn eu lle gwreiddiol. Bydd y capel yn cau fel man addoli ar y 5ed o Fawrth gyda gwasanaeth arbennig a bwriedir lansio llyfr yn olrhain hanes Capel Soar. Wedi hynny gellir gweithredu’r cynllun o greu awditoriwm, llwyfan, stiwdio ddawns a chelf.

Y nod yw darparu cyfleoedd Cymraeg mewn canolfan Gymraeg. Yn wreiddiol sefydlwyd Capel Soar yn gapel a chanolfan moethus i Annibynnwyr y dref. Gellir dadlau bod hynny’n parhau mewn modd, efallai, fydd yn cyrraedd cynulleidfa tipyn yn fwy.

Mae’r cynlluniau yn uchelgeisiol ond yn gyffrous iawn. Bydd y cyfanswm o £1.4 miliwn sydd ei angen ar gyfer yr holl waith hefyd yn caniatáu troi’r festri’n 3 llawr i gynnwys:
• ystafelloedd dysgu
• neuadd
• lolfa
• siop lyfrau a chaffi
• swyddfa’r fenter
• swyddfeydd ar gyfer Canolfan Cymraeg i oedolion Morgannwg
• swyddfeydd ar gyfer yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin

Y gobaith yw gweld y gwaith yn dod i ben ymhen rhyw ddeunaw mis ond yn y cyfamser mae’r gwaith ardderchog a wneir yno gan gnewllyn bychan o unigolion yn parhau. Yn ogystal â Lis, mae Jamie Bevan yn gweithio i’r ganolfan fel swyddog maes ac mae Siôn Roberts, swyddog yr Urdd, hefyd wedi ei leoli yno. Mae’r ymdrechion a wneir ganddynt i godi proffil yr iaith Gymraeg a hyder y bobl leol i’w defnyddio yn ganmoladwy. Maent wedi sefydlu projectau Cymraeg mewn rhai o ysgolion uwchradd Saesneg Merthyr ac er bod problemau cyffuriau wedi amharu ychydig ar ddatblygiad yr ysgolion roc, maent yn ceisio goresgyn y problemau hynny i barhau i gynnal sesiynau jamio ar gyfer bandiau ifanc. Mae Jamie Bevan yn cynnal colofn wythnosol yn y ‘Merthyr Express’ er mwyn codi proffil y gweithgareddau ac mae nifer o grwpiau’n defnyddio gofod y festri eisoes e.e. cymdeithas y dysgwyr, cwmni dawnsio gwerin, cwmni drama a.y.y.b.

Mae’r dyfodol yn ddisglair ym Merthyr ac mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Rhaid cofio mai gwraig o Ferthyr yw Jenny Henn, sef un o’r pedwar oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Does dim angen dweud mwy.


purpleline.jpg