# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

arhol1.jpg


Mewn ymgais i lenwi rhai o’r bylchau yn y ddarpariaeth Wyddeleg i oedolion, mae’r Ganolfan Iaith ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth, wedi bod yn gweithio ar becyn cynhwysfawr o fentrau ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’r pecyn yn cynnwys adnoddau addysgu, cyrsiau hyfforddi athrawon yn ogystal â maes llafur sy’n gysylltiedig â chwe lefel y CEFR.

arhol2.jpg
Lansiwyd y Teastas Eorpach na Gaeilge (TEG) gan Mary Hanafin, y Gweinidog Addysg a Gwyddoniaeth, ym mis Mawrth 2005. Yn y flwyddyn gyntaf, cyflwynwyd manylebau ar gyfer A1 ac A2 (Bonnleibhéal 1 a Bonnleibhéal 2) ac erbyn hyn ceir manylebau ar gyfer A1, A2, B1, B2 a C1 (gweler  www.teg.ie). Mae’r lefel olaf, C2, yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac fe fydd ar gael yn 2009. Gan mai dim ond ers dau fis roedd y manylebau ar gael, 22 ymgeisydd yn unig oedd yn 2005. Ond yn 2006 roedd yna 96 ymgeisydd, yn 2007 roedd yna 304 ac erbyn 2008 roedd yna 430 o ymgeiswyr. Yn y flwyddyn gyntaf cynhaliwyd yr arholiadau ym Mhrifysgol Maynooth yn unig ond mewn ymateb i’r galw amdano, sefydlwyd canolfannau ym mhob un o dair prif ardal y Gaeltacht (ardaloedd Gwyddeleg eu hiaith).

Yn 2007 arholwyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Charles, Prague am y tro cyntaf ac yn 2008 cynhaliwyd arholiadau yn y Centre Culturel Irlandais ym Mharis. Cynhelir arholiadau yn Efrog Newydd am y tro cyntaf yn 2009 a chynhelir trafodaethau ar hyn o bryd gyda Phrifsygol Caergrawnt hefyd. Mae nifer o sefydliadau a mudiadau ledled Ewrop a Gogledd America hefyd wedi dangos diddordeb ond y teimlad ym Maynooth yw bod rhaid sicrhau na fydd unrhyw ddatblygiadau yn effeithio ar hygrededd yr arholiadau a rhaid bod yn bwyllog.

Sylweddolwyd yn gynnar iawn yn y broses fod prinder adnoddau’n cael effaith negyddol ar y nifer o diwtoriaid oedd yn fodlon annog eu myfyrwyr i gofrestru ar gyfer yr arholiadau. Dyna’r rheswm pam yr aethpwyd ati i ddatblygu adnoddau addysgu ar gyfer A1 ac A2. Erbyn hyn mae adnoddau ar gyfer B1 hefyd wedi eu creu ac fe fydd adnoddau ar gyfer B2 ar gael cyn hir. Mae’r holl adnoddau ar gael am ddim ar y wefan ddwyieithog www.teg.ie   

Cynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddi un-dydd mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad mewn ymateb i geisiadau gan athrawon ac awdurdodau addysg lleol. Serch hynny, roedd yna alw mawr am gwrs arbenigol ar gyfer hyfforddi athrawon i ddysgu Gwyddeleg i oedolion.
arhol3.jpg
Cyflwynwyd y Teastas i Múineadh na Gaeilge d’Aosaigh (Tystysgrif Dysgu Gwyddeleg i Oedolion) yn 2007. Cwrs blwyddyn rhan-amser ydyw a dechreuodd yr ail garfan o fyfyrwyr y cwrs ym Munster ym mis Medi 2008.

Yn ystod y 3 blynedd ers cyflwyno rhaglen arholi a thystysgrifo’r TEG, rydyn ni wedi gweld twf aruthrol. Erbyn hyn caiff cyrsiau eu dysgu ymhobman – o’r mannau mwyaf anghysbell yn Iwerddon i rai o ddinasoedd mwyaf y byd e.e. Sydney, Efrog Newydd a Pharis. Mae tua 2000 o bobl yn ymweld â’n gwefan bob mis. Mae cyflwyno maes llafur strwythuredig sydd yn arwain at brofion o safon uchel wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y maes dysgu Gwyddeleg i oedolion.  

Mae nifer o heriau yn dal i fodoli e.e. yr angen i ehangu’r system gan gynnal y safonau ar yr un pryd. Ond mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae prosiect y TEG wedi llenwi bwlch yn y ddarpariaeth Wyddeleg yn Iwerddon a thramor. Yn bwysicach na dim, mae’r TEG wedi sicrhau bod yr iaith Wyddeleg o fewn cyrraedd cannoedd o ddysgwyr.   

Siuán Ní Mhaonaigh
Anna Ní Ghlallachair

purpleline.jpg