# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

seminar.jpg

Ar ddydd Iau, Ionawr 22ain, cynhaliwyd Seminar Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Ystafell y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth pobl o Gymru benbaladr i’r seminar, a chynrychiolwyd pob math o weithleoedd yn y cyfarfod hynod o ddiddorol hwn. Gan ein bod yn cynnig gwahanol gyfleoedd i gyflogwyr hyrwyddo’r Gymraeg trwy raglenni dysgu Cymraeg yn y Gweithle, roedd hi’n hanfodol bwysig bod y Canolfannau Iaith yn cael eu cynrychioli yn y seminar.

Rhannwyd y diwrnod yn ddwy ran – wedi cyflwyniad gan Meri Huws a Gwenith Price o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, treuliwyd y rhan gyntaf yn olrhain y gwaith a wnaethpwyd gan Wasanaeth Llysoedd ei Mawrthydi a Chyngor Cefn Gwlad Cymru o safbwynt hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle. Yn yr enghraifft gyntaf roedd y corff wedi mynd ati i lunio grŵp fyddai’n edrych ar ffyrdd o Gymreigio’r Gweithle, ac yn yr ail enghraifft, roeddent wedi cyflogi animateur, neu symbylydd, i weld beth oedd anghenion y Gweithle, ac i feddwl am gyfleoedd ar gyfer y Gweithle, a’r gweithluoedd hynny. Yn yr ail enghraifft roedd yn ddiddorol clywed un o’r siaradwyr yn sôn am adrodd un o gerddi Diarmuid Johnson am yr iaith Wyddeleg wrth geisio darbwyllo gwyddonwyr penstiff bod eu rôl hwy wrth amddiffyn natur yn debyg i’w cyfrifoldeb wrth amddiffyn iaith, a bod y Gymraeg yn rhan o’u hamgylchedd yn ogystal.

Un o’r elfennau a’m trawodd fwyaf gyda’r enghreifftiau hyn oedd y defnydd o bencampwyr iaith o fewn safleoedd gwaith, a chafwyd enghreifftiau o’r modd y mae’r rhain yn gweithio e.e. y defnydd o air yr wythnos o fewn y swyddfa, a chyfleoedd sgwrsio i ddysgwyr a siaradwyr rhugl. Rôl y pencampwr iaith yw symbylu a darbwyllo’r gweithlu o’i amgylch i wneud defnydd o’u sgiliau Cymraeg, ac i godi ymwybyddiaeth y bobl o’u cwmpas o’r iaith. Roedd un o’r siaradwyr yn sôn am greu awyrgylch Gymraeg yn y Gweithle wrth osod posteri a geiriau arbennig o gwmpas y swyddfa, ac am gynnal gweithgareddau mentora anffurfiol i’r rhai oedd yn dysgu’r iaith. Nid yn unig roedd hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr fagu hyder yn eu sgiliau, ond roedd yn codi hyder y siaradwyr Cymraeg rhugl hynny sydd efallai wedi colli hyder, neu’r arfer o drafod yn Gymraeg.

Yn y prynhawn, cafwyd anerchiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth yn y Cynulliad, sef Mr Alun Ffred Jones, oedd yn cadarnhau y gefnogaeth sydd gan y Cynulliad i’r ymgyrch o hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y Gweithle.

O wrando ar y siaradwyr roedd hi’n amlwg eu bod yn cael cefnogaeth ddi-amod gan eu rheolwyr llinell a phenaethiaid adran i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle. Mae hyn yn hanfodol bwysig gan fod rhaid amserlennu gwersi a gweithgareddau Cymraeg i’r diwrnod gwaith, ac yn aml iawn fe ddaw hyfedredd yn y Gymraeg yn eilradd i ennill sgiliau cyfrifiadurol, er enghraifft. Mewn amgylchedd gwaith megis ysbytai, er enghraifft, mae’n anodd amserlennu gwersi gan fod natur y gwaith yn golygu bod dysgwyr weithiau’n brysur, weithiau ar shifft anghyfleus, neu weithiau wedi’u galw i gyfarfod. Mae cael cefnogaeth penaethiaid adran i weithgareddau iaith felly yn allweddol i sicrhau cynaladwyedd y gweithgareddau hynny.

Roedd hefyd yn amlwg bod y ddau gorff hwn yn ceisio symbylu’r defnydd o’r Gymraeg fel modd o gyfathrebu o fewn y Gweithle, ac nid yn unig fel modd o gyfathrebu â’r cyhoedd. Yn aml iawn fe glywn am bwysigrwydd y cyswllt rhwng y cwmni a’r cyhoedd, a’i bod yn hanfodol fod dewis iaith gan y cwsmer. Mae hwn, wrth gwrs, yn bwysig, ond heb yr anogaeth i feithrin y Gymraeg fel cyfrwng rhwng y gweithwyr â’i gilydd yn ogystal â rhwng gweithwyr a chwsmeriaid, yna mae’r broses o Gymreigio’r Gweithle yn medru bod ychydig yn arwynebol. Roedd y cyrff hynny a gyfrannodd yn y Seminar yn sicr wedi teithio’r ail filltir honno, ac yn y broses o greu Gweithle a Gweithlu dwyieithog go iawn.

Dafydd Morse


purpleline.jpg