Tiwtor:
Pan yn cwrdd â thiwtor i gael sgwrs er mwyn llunio proffil ohono/ohoni, does dim un tiwtor arall wedi dod â CV i’r cyfarfod hwnnw! Ond mae Mal yn wahanol. Mewn gwirionedd, roedd angen y CV oherwydd hebddo byddai’n hawdd anghofio gymaint y mae Mal wedi ei gyflawni wrth wneud y siwrne i fod yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Cafodd ei fagu yn y Bari ac mae’n byw erbyn hyn yn Llanilltud Faerdref. Daw teulu ei fam o Gaerfyrddin a theulu ei dad o Gaerdydd. Aeth i Ysgol Gymraeg y Bari a oedd yn torri tir newydd bryd hynny, yn y pumdegau. Gan nad oedd darpariaeth addysg uwchradd Gymraeg ar gael iddo penderfynodd ei rieni ei anfon i Goleg Llanymddyfri ac yn y fan honno y daeth o dan ddylanwad mawr Carwyn James, ei athro Cymraeg. Roedd Mal yn mwynhau cyfeillgarwch nifer o Gymry eraill oedd yno yr un pryd, yn ddisgyblion ac yn athrawon, er ei fod yn cyfaddef mai’r peth gorau am y coleg hwnnw oedd y gwyliau hir a oedd yn caniatáu iddo fynd yn rheolaidd i wersyll Llangrannog fel swog.
Yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg gyda Ffrangeg, Llydaweg a’r Wyddeleg yn is-bynciau. Treuliodd gyfnod o ryw ddeufis ar Ynysoedd Aran yn dysgu’r Wyddeleg cyn mentro ymhellach i Efrog Newydd. Enillodd ysgoloriaeth gan Gyngor Sir Morgannwg i astudio ar gyfer MA ym myd y theatr ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Mae’r antur o deithio gyda’i fam ar y trên i ddal y llong yn Southampton yn fyw yn ei gof o hyd. Gyda thrafnidiaeth o bob math mor hwylus erbyn heddiw, rhyfedd yw meddwl bod y llong honno wedi hwylio am bum niwrnod cyn cyrraedd y ddinas fawr. Taflodd ei hun i waith dawns a theatr yn Efrog Newydd gan sefydlu cwmni theatr ddawns lwyddiannus o’r enw ‘Moving Earth.’ Roedd coreograffydd arloesol o Siapan yn gweithio gyda nhw a bu’r cwmni’n perfformio mewn lleoliadau ar draws y byd. Fe barodd y rhan hon o siwrne Mal am ugain mlynedd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd diddordeb mawr yn y Gymraeg yn yr UDA ac roedd nifer fawr o bobl eisoes yn mynychu’r dosbarthiadau Cymraeg a gynhaliwyd dan ofal Cyril Jenkins, gweinidog Cymraeg yn Eglwys Bresbyteraidd Rutger, Efrog Newydd. Bu gŵr o’r enw Robert Foulkes hefyd yn weithgar iawn yn hybu’r Gymraeg yno. Ysgrifennodd yntau gwrs Cymraeg cyflawn yn ogystal â geiriadur Cymraeg a dyna’r cwrs a ddefnyddiwyd gan Mal a Robert wrth iddynt ddysgu Cymraeg i oedolion yng Nghapel Rutger am rai blynyddoedd.
Ymhen ychydig amser ffurfiwyd cymdeithas Madog gan nifer o Gymry Gogledd America a sefydlwyd yr arfer o gynnal cwrs haf Cymraeg yn flynyddol. Mae’r gymdeithas honno wedi mynd o nerth i nerth a bu Mal ei hun yn diwtor ar y cwrs yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Erbyn hyn mae nifer fawr o diwtoriaid adnabyddus wedi bod yn cynnal y cwrs, o Basil Davies a Cennard Davies i Emyr Davies (CBAC) a Chris Reynolds.
Daeth tro ar fyd ym 1984 pan benderfynodd Mal, am amryw o resymau, ddychwelyd i Gymru ar ôl treulio ugain mlynedd yn yr UDA. Cafodd swydd Cyfarwyddwr Dawns gyda Chyngor y Celfyddydau yng Nghaerdydd ac yno y bu am 13 mlynedd cyn ymddeol yn gynnar. Yn dilyn hynny, penderfynodd newid cyfeiriad o fewn y maes gan ymgymryd â chwrs MBA ym Mhrifysgol Morgannwg ac edrych yn benodol ar sut mae cwmnïau artistig yn gallu bod yn fusnesau masnachol. Aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yn 2004 ym Mhrifysgol Brunel, Llundain.
Ond parhau a wnaeth y daith a dyma ail-afael yn ei sgiliau tiwtora yn y flwyddyn 2000 ac erbyn hyn mae’n diwtor llawn amser ac Arweinydd y Cwrs Cymraeg Dwys gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion, Morgannwg. Mae’n amlwg ei fod yn mwynhau’r profiad yn fawr iawn ac yn teimlo bod y maes Cymraeg i oedolion yng nghanol cyfnod cyffrous. O edrych nôl ar y dyddiau cynnar hynny yn y dosbarth Cymraeg yn Efrog Newydd, mae’n gweld bod y cydweithio a’r proffesiynoli diweddar wedi talu ar ei ganfed eisoes. Mae ei frwdfrydedd yn heintus a’i ymroddiad yn gwbl amlwg a soniodd Mike McGrane, un o’i ddysgwyr, fwy nag unwaith am hiwmor a hwyl ei diwtor.
Dyna, mae’n siwr, yw hanfod tiwtor da.