# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009
 ieuenctid.jpg
Mae’r prosiect yma yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. Prosiect ar y cyd ydyw gyda’r partneriaid sef Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Merthyr Tudful a’r Cyngor Sir oll yn chwarae rhan flaenllaw. Mae’r swyddog, Siôn Roberts, wedi ei leoli yn festri Capel Soar sy’n gartref i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc 14-19 yr ardal, gan gynnig ystod eang o brofiadau gwahanol yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
ieuenctid3.jpg
Mae’r prosiect yn cynnwys sefydlu clybiau ieuenctid Cymraeg wythnosol yn ysgolion uwchradd ail iaith y sir ar gyfer pobl ifanc o‘r oedran 14-19. Gwneir gweithgareddau o bob math yn defnyddio’r iaith Gymraeg a chynigir profiadau newydd iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy drefnu teithiau ac ymweliadau megis:

        Taith i stiwdio y BBC
        Taith i’r Bae, Canolfan yr Urdd, y Senedd, Canolfan y Mileniwm a.y.y.b
        Taith i weld sioe Cân i Gymru
        Gigiau Cymraeg
        Cyrsiau preswyl yng Nglanllyn
        Gemau rygbi

Mae’r prosiect hefyd yn helpu pobl ifanc i ennill cymwysterau megis credydau gan RhCA e.e. Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Hylendid Bwyd.

Mae’r prosiect yn ceisio darparu cyfleoedd ar gyfer yr holl ystod oedran ac un o lwyddiannau mwyaf y prosiect yw Clwb Drama ‘Ffwrnais’ sydd wedi cael ei leoli yn y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr ar gyfer yr oedran cynradd. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect a’r gweithgareddau a gynhelir, cysylltwch â: Siôn Roberts, 01685 722176
 ieuenctid2.jpg