Mae pawb sydd yn arbenigo ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr awyrgylch ieithyddol ehangach i’r rhai sydd yn ceisio dysgu ieithoedd. Mae hyn yn arbennig o wir wrth gwrs mewn gwlad ble mae diwylliant a dylanwad iaith gyntaf y dysgwr yn gryf iawn, ac yn holl bresennol.
Ar hyd y blynyddoedd mae’r Prosiect Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia wedi gweld pa mor werthfawr yw danfon dysgwyr o Batagonia i Gymru, i ffwrdd o ddylanwad y Sbaeneg a’r temtasiwn i siarad Sbaeneg trwy’r amser tu allan i’r gwersi ffurfiol. Dyma wrth gwrs y math o broblemau sy’n wynebu tiwtoriaid yng Nghymru, sef dylanwad y Saesneg. Yn fuan ar ôl i mi gyrraedd yr Andes des i i’r penderfyniad bod adnodd arbennig yn y Wladfa, a allai fod yn werthfawr i ddarparwyr yng Nghymru wrth ystyried mai un o’r prif broblemau gyda chyrsiau preswyl yw ei bod mor anodd i greu cyfleoedd i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg yn ystod eu hamser hamdden ac yn gymdeithasol. Yn y Wladfa mae’r sefyllfa’n unigryw gan fod y Gymraeg yn iaith fyw ac mae’r cyfleoedd i siarad Saesneg yn brin iawn, iawn. Felly ar ôl trafod â’r Pwyllgor Lleol penderfynon ni y byddai un o’r ysgolion, Ysgol Trevelin, yn cynnig cyrsiau ar gyfer dysgwyr y Gymraeg o Gymru.
Ysgoldy Trevelin yn heulwen yr haf
Es i ati wedyn i sicrhau bod y ddwy ysgol yn ardal yr Andes yn mabwysiadu canllawiau Cymraeg i oedolion CBAC a bod y ddarpariaeth ar bob lefel yn cydymffurfio â darpariaeth Cymraeg i oedolion y chwe chanolfan yng Nghymru. Mae darpariaeth ar bob lefel, o lefel Cyn-fynediad hyd at lefel Meistroli, ar gael yn Ysgol Trevelin ac mae modd iddynt gynnig gwersi grŵp ar wahân i grwpiau o faint digonol neu integreiddio dysgwyr i ddarpariaeth yr ysgol. Fe all yr ail opsiwn fod yn dda ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr o Gymru.
Penderfynwyd cynnig sawl pecyn gwahanol. Mae Pwyllgor yr ysgol hefyd yn hapus i drafod teilwra pecynnau at anghenion unigryw gwahanol sefydliadau. Mae pob pecyn yn gallu cynnwys llety lleol (gyda siaradwyr Cymraeg), cymdeithasu â’r gymuned Gymraeg leol a gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Trevelin. Trwy weithio mewn partneriaeth â chwmni teithio lleol mae modd hefyd cynnig pecyn sydd yn cynnwys tipyn o wyliau yn Buenos Aires ar y ffordd ac ar y ffordd yn ôl. Fe fyddai modd trefnu i’r dysgwyr gael eu tywys yn Buenos Aires gan siaradwyr Cymraeg. Mae cost y pecynnau yn amrywio yn ôl y nifer sydd yn y grŵp ac mae’r gost wrth gwrs yn fwy gyda’r gwyliau ychwanegol yn Buenos Aires. Mantais arall yw’r gwahaniaeth yn y tymhorau rhwng hemisffer y de a hemisffer y gogledd. Os ydy hi’n haf yng Nghymru, yna mae hi’n aeaf ym Mhatagonia ac fel arall. Felly mae modd cynnig cyrsiau yn yr haul i ddysgwyr yng nghanol llymder gaeaf Cymru a chyrsiau sydd yn cynnwys cyfle i sgïo yn ystod yr haf!
Yn anffodus cafodd y syniad ei ohirio am ychydig oherwydd ffrwydrad annisgwyl Volcan Chaiten yn Chile (ar ôl 9,000 o flynyddoedd o lonyddwch!) a’r anawsterau a ddaeth yn sgil hynny. Ond erbyn hyn mae pethau wedi dechrau dod yn ôl i’r arfer yn yr Andes a’r rhai cyntaf i fanteisio ar y cyfle arloesol hwn fydd Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd y Ganolfan yn trefnu taith i’r Wladfa i’w dysgwyr gael cyfle i ymarfer eu Cymraeg tra ar wyliau gwahanol a diddorol iawn yn ystod 2009. Wrth gwrs mae cysylltiad traddodiadol rhwng y Wladfa a’r Ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd. Eleni eto aeth criw o bobl draw o’r Wladfa i Gaerdydd i ymuno â’r Cwrs Haf yno. Aeth 6 ohonynt, a 4 o’r rheini o ardal yr Andes (2 o Esquel a 2 o Drevelin). Bydd un arall hefyd o Drevelin yn mynd ychydig yn nes ymlaen ar ddechrau 2009 gydag ysgoloriaeth wahanol.
Teimlaf ein bod ar drothwy datblygiad newydd cyffrous yn hanes perthynas Cymru â’r Wladfa a fydd yn galluogi nifer gynyddol o ddysgwyr o Gymru i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn yn y dyfodol.
Gill Stephen