# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009
  ardal.jpg

Ble mae’r Ganolfan?
Lleolir y Ganolfan ar brif gampws Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest, Pontypridd.  Rydym yn gweithio o fewn tair ardal – Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr.  Mae gennym swyddfa ar gyfer ein Swyddog Datblygu yn y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr.

Pwy yw’r Dysgwyr?
Fel ym mhob canolfan, mae trawsdoriad llwyr.  Mae 70% yn fenywod, sy’n debyg iawn i’r patrwm yn genedlaethol, a 30-45 yw’r grŵp oedran mwyaf.

Pwy yw’r Darparwyr?
Yn wahanol i’r canolfannau eraill, dim ond dau sefydliad sy’n darparu ar draws yr ardal – Prifysgol Morgannwg a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.  Gweithiwn mewn partneriaeth lwyr i drefnu’r rhaglen yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Pwy yw’r Staff?
Mae tîm o tua 70 o diwtoriaid yn dysgu ar unrhyw un adeg – yn llawn amser ac yn rhan amser.  Un datblygiad cadarnhaol ers ychydig o fisoedd yw bod gan bob tiwtor sy’n dysgu 8 awr neu fwy yr wythnos gytundeb ffracsiynol. Golyga hyn gyflog dros 12 mis y flwyddyn.

Beth yw natur y cyrsiau?
Eto, yn debyg i’r Canolfannau eraill, cynhelir rhwydwaith eang o gyrsiau dwy a phedair awr yr wythnos.  Ond rydym yn ffodus i ddenu digon o ddysgwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn i gynnal cwrs dwys iawn – naw awr yr wythnos am ddwy flynedd, a chwe awr yn wythnosol yn ystod y drydedd flwyddyn.  Tua phymtheg sy’n mynychu blynyddoedd 1 a 2, ond mae dros ugain yn y drydedd flwyddyn eleni.  Rydym eto yn ffodus i allu manteisio ar ganolfan addysg oedolion newydd a phwrpasol ar gyfer y cwrs hwn.  Y mae’r Ganolfan ar gampws dwyieithog Gartholwg sy’n golygu bod yr holl staff yn siarad Cymraeg.

Ar y pegwn arall, cynhelir cyfres o gyrsiau byrion Cymraeg i’r Teulu – cyrsiau 6 awr gyda’r nod o dynnu pobl i mewn a rhoi profiad cadarnhaol iddyn nhw, yng nghwmni eu plant am ychydig o amser ar ddiwedd y cyrsiau.

Heriau
Yn amlwg, ein nod yw sicrhau bod rhagor o ddysgwyr yn dod yn rhugl. Yn 2007-08, roedd ychydig dros hanner ein holl ddysgwyr ar lefel Mynediad.  Erbyn eleni, mae ychydig yn llai na hanner yn ôl ffigurau Rhagfyr (47%).  Mae rhagor o ddysgwyr ar bob lefel heblaw Mynediad eleni – mae ffigurau’r dechreuwyr i lawr ar 2007-08.  

Sut mae sicrhau ein bod yn cadw rhagor o ddysgwyr yn y system am gyfnod hirach?  Yn amlwg, trwy farchnata’r neges yn groyw nad ar chwarae bach y mae dysgu iaith.  Ond mae’n anodd cael y cydbwysedd rhwng bod yn ddeniadol a dangos ar yr un pryd bod yn rhaid bod o ddifrif. Hefyd, rhaid parhau i godi ansawdd fel bod pob dysgwr yn cael profiad cadarnhaol. Ac mewn ardal lle na chlywir y Gymraeg yn naturiol ar stryd neu mewn siop, rhaid mynd ati i greu cyfleoedd i sichrau bod pobl nid yn unig yn dysgu sut i siarad yr iaith, ond yn ei defnyddio fel rhan o’u bywyd beunyddiol. Tasg fawr ond un mae’n rhaid ceisio ei gwireddu.  Rhoddir lle blaenllaw i Ddysgu Anffurfiol o fewn Canolfan Morgannwg er mwyn pwysleisio bod defnyddio iaith yn allweddol os am lwyddo. Darllenwch erthygl Shan Morgan am y rhaglen dysgu anffurfiol yn y rhifyn hwn o’r Tiwtor os ydych am wybod mwy.

Nid heriau i Ganolfan Morgannwg yw’r uchod, ond heriau i bob canolfan, i’r Cynulliad ac mewn gwirionedd i’r gymuned Gymraeg yn ei chyfanrwydd. Credwn yn gryf ym Morgannwg fod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru ac rydym am chwarae ein rhan fach ond pwysig i’r oedolion a’u teuluoedd sydd am ddysgu yn ein hardal ni.

Helen Prosser
Pennaeth Morgannwg


purpleline.jpg