# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009
cystad5.jpg
Yn y rhifyn diwethaf roedd gennym wobr arbennig, sef hamper gan gwmni Bodlon yn rhoddedig gan Siop Tŷ Tawe. Y cwestiwn oedd:

Beth yw enw’r stadiwm ble mae’r Gweilch a’r Elyrch yn chwarae?

Yr ateb wrth gwrs yw Stadiwm Liberty a’r enillydd oedd Sharon Warren.
Llongyfarchiadau a mwynhewch y bwyta!

dots4.jpg

Ond peidiwch â phoeni os na lwyddoch i ennill y tro diwethaf – dyma gyfle arall! Mae’r wobr y tro hwn yn rhoddedig gan Siop y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr, sef tocyn llyfr gwerth £20.

cystad2.jpg

Y siop hon yw prif gyflenwr ysgolion, colegau a llyfrgelloedd ardal Blaenau’r Cymoedd ers 15 mlynedd. Ceir yno ddewis eang o lyfrau, cardiau cyfarch, gemau a cherddoriaeth Cymraeg i blant ac oedolion. Phylyp Griffiths yw rheolwr y siop ac ef yn unig sy’n gyflogedig ond mae rhwydwaith dda o wirfoddolwyr yn gweithio yno yn ôl y galw hefyd.

cystad3.jpg
Ar hyn o bryd, mae’r siop wedi ymgartrefu yn hen festri Capel Soar (drws nesaf i’r Ganolfan Gymraeg) ond mae’r cynlluniau cyffrous sydd ar y gweill ar gyfer y Ganolfan Gymraeg hefyd yn effeithio ar y Siop. Ym mis Ebrill bydd y Siop yn symud i ran newydd sbon o’r festri gyda gwell mynediad, digon o le i arddangos y stoc a chornel goffi groesawgar. Edrychwn ymlaen at gael paned a chlonc dros lyfr yno!

Diolch yn fawr i’r siop am y tocyn llyfr gwerth £20 a dymunwn yn dda iddi yn ei chartref newydd.

Gan gofio cysylltiad y rhifyn hwn â’r dref haearnaidd, y cwestiwn yw:

cystad3.gif
Y dyddiad cau yw 13 Mawrth ac ewch i’r adran Cysylltu ar y wefan hon i anfon eich atebion.

Pob lwc!

purpleline.jpg