Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

proffil dysgwr

cylch1. Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu? Soniwch am eich cefndir a’ch teulu.
Ces i fy ngeni yn Llundain ym 1948. Wedyn symudodd fy mam ac fy nhad i Gwm Rhymni, ble ces i fy magu mewn pentre o’r enw Fleur-de-Lis. Mae teulu mam yn dod o Lundain, ac mae teulu tad yn dod o Gymru. Roedd fy nhad yn y Llynges Frenhinol, a chafodd fy mam ei hanfon o Lundain i Ddyfnaint er mwyn iddi hi fyw yno fel “evacuee” ac wrth gwrs cwrddon nhw â’i gilydd yno pan gafodd fy nhad ei sefydlu yn y porthladd ar bwys Bideford. Ar ol iddo fe adael y Llynges, aeth fy nhad i’r gwaith yn y pyllau glo yn y cymoedd.

cylch2. Ble aethoch chi i’r ysgol? Soniwch am eich addysg.
Es i i’r ysgol yn Ysgol Gynradd Fleur-de-Lis tan ro’n i 11 oed. Wedyn, ar ol i fi basio’r 11 plus es i’r ysgol ramadeg yn Aberbargoed, ysgol o’r enw Bedwellty Grammar School o’dd hi. Maen nhw wedi dinistro’r lle nawr. Ro’n i’n arfer hoffi’r ysgol ar y cyfan ac ro’n i wrth fy modd mewn gwersi fel mathemateg a gwyddoniaeth. Beth o’dd fy nghas beth? Gwersi chwaraeon!

Doedd dim Cymraeg yn ein addysg ar y pryd, a hefyd doedd dim Cymraeg yn y teulu nac yn yr ardal chwaith. A dweud y gwir, doedd dim diddordeb ‘da fi mewn unrhyw iaith ar wahân i’r Saesneg.

cylch3. Beth wnaethoch chi wedyn? Soniwch am eich gwaith.
Gwnes i gamgymeriad wrth adael yr ysgol a dweud y gwir, ond ar y pryd do’n i ddim yn gwybod hynny. Es i i’r gwaith fel prentis peiriannydd mewn ffatri yng Nghwmbrân gan ddod yn beiriannydd siartredig. Ym 1968 cwrddais i â fy ngwraig Pat ac mae dau o blant gyda ni, sef Shaun a Helen. Ar ôl i fi weithio am 34 mlynedd i’r un cwmni, ymddeolais i.

cylch4. Pryd dechreuoch chi ddangos ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg? Pam?
Soniwch am eich profiadau cyntaf fel dysgwr.
Dyma cwestiwn od i fi. Pan ro’n i’n gweithio, doedd dim amser sbâr i bethau fel ail iaith. Ond ar ôl i ni symud o Gwmbrân i Sir Benfro, roedd cyfres o hysbysebion ar y teledu, sef yr un gyda Colin Charvis yn gwneud llythyren “C” gyda’i law ac yn dweud “I’m learning Welsh”. Felly dilynais i’r gorchmynion ar y sgrîn ac wedyn dechreuais i’r cwrs Mynediad Dwys yn Hwlffordd gyda Sarah Eastlake a Liz Young ym mis Ionawr 2008. Roedd y cwrs yn 6 awr yr wythnos, bob dydd Mercher.

Yn ystod y flwyddyn gynta, ro’n i wedi darganfod ffyrdd eraill i ymarfer e.e. Sadyrnau Siarad, Grŵp CYD, Cloncie bach (a chlonc mawr), Menter Iaith. Gwnes i ffrindiau newydd, a datblygodd cylch cymdeithasol o gwmpas y Gymraeg.

cylch5. Soniwch am y presennol. Pryd mae’ch dosbarth yn cwrdd? Faint sydd yn y dosbarth? Pwy yw eich tiwtor a.y.y.b.?
Dw i wedi gwneud cyrsiau Mynediad Dwys, Sylfaen Dwys, Canolradd Dwys a nawr dw i’n mynd i gwrs Uwch Dwys.

Fy nhiwtor ar hyn o bryd yw Sarah Eastlake, ac mae tua 15 person yn y dosbarth.
Dw i’n hoffi darllen yn fawr iawn. Dw i wedi darllen llyfrau gan awduron fel Bethan Gwanas, Caryl Lewis, Meleri Wyn James, Mair Evans, Annes Glyn, Gwyneth Carey, Gwen Redvers Jones.

cylch6. Beth yw eich diddordebau?
Wel, dysgu Cymraeg wrth gwrs, ond beth arall?
Ar ôl i ni symud o Gwmbrân, ble mae’r teulu’n byw o hyd, (merch, mab a phump o wirion) i Landyfái, ro’n i wedi sylweddoli bod RHAID i ni gyfrannu at weithgareddau lleol er mwyn i ni wneud ffrindiau newydd. Felly aeth fy ngwraig a fi i ymuno â phethau fel grŵp hanes Llandyfái, Clwb Bowlio Llandyfái, tîm sgitls ym Mhenfro, a dyn ni wedi adeiladu cylch o ffrindiau newydd.

Bron bob wythnos, bydda i’n mynd i chwarae bowlio yng Nghrymych. Ar ôl i dîm Crymych chwarae yn erbyn tîm Llandyfái mewn gêm gyfeillgar y llynedd, gofynnais i i gapten Crymych “ydy e’n bosib i fi chwarae bowlio ‘da chi weithiau er mwyn i fi ymarfer fy Nghymraeg wrth chwarae bowlio yr un pryd?”

Felly, dw i mor ddiolchgar iddyn nhw am fy helpu i bron bob wythnos. Maen nhw’n chwarae yn Neuadd y Farchnad, Crymych, ac wedyn byddwn ni’n mynd i gaffi Beth’s Baguettes i gael dished a chlonc.

cylch7. Dych chi’n cerdded gyda grŵp y ‘Clonc Mawr?’ Pam?
Syniad Dewi RJ o’dd y Clonc Mawr. Dw i wedi bod ar y mwyafrif ohonyn nhw. Erbyn hyn dyn ni wedi cerdded hyd at Hafan Martin. Mae’r Clonc Mawr yn gyfle i siarad Cymraeg â dysgwyr eraill a hefyd siarad â Chymry Cymraeg. Mae’n gyfle i weld  llwybr yr arfordir hefyd. Dyn ni’n cwrdd â’n gilydd cyn ac ar ôl y Clonc (mewn tafarn neu gaffi) i gael dished a chlonc.

cylch8.Ydy dysgu Cymraeg wedi newid eich bywyd mewn unrhyw ffordd? Sut ?
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Ydy, mae’r iaith wedi newid fy mywyd tipyn. Dw i wedi datblygu cylch o ffrindiau newydd, ac mae fy amcanion personol wedi datblygu hefyd. A dw i wedi darganfod diwylliant Cymreig ar y teledu ar S4C!

cylch9. Beth yw eich cyngor i ddysgwyr eraill?
Cyngor?....wel, ymunwch â dosbarth ffurfiol. Ymunwch â phethau fel clonciau bach, sadyrnau siarad ayyb. Darllenwch lyfrau Cymraeg, er mwyn i chi ddatblygu’ch geirfa chi. Rhowch rhyw fath o darged i’ch hunan bob blwyddyn. (efallai arholiadau).
Gwyliwch S4C, neu gwrandewch ar Radio Cymru.
Does dim angen teimlo’n ofnus wrth siarad, mae pawb yn gwneud camgymeriadau wrth siarad, ac wrth ysgrifennu hefyd. Dim ond trwy ymarfer dych chi’n gallu gwella.

cylch10. Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?
Gobeithio bydd fy sgiliau Cymraeg yn gwella yn y dyfodol. Rhaid ymarfer ac ymarfer. Pe bawn i’n gallu deall popeth ar S4C, byddwn i’n hapus dros ben!!

 

llinell