Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl Cymraeg i'r teulu

Bydd y cwrs Cymraeg i’r Teulu newydd yn cael ei dreialu y tymor hwn gan diwtoriaid ar draws y canolfannau iaith rhanbarthol.

Cwrs lefel Mynediad (120 awr) yw hwn, wedi ei fwriadu ar gyfer oedolion sydd am ddefnyddio’r Gymraeg gyda phlant mewn sefyllfa deuluol. Mae’n cynnwys y patrymau a’r eirfa graidd sydd yn codi yn llyfr cwrs Mynediad CBAC, er mwyn galluogi myfyrwyr sydd wedi ei gwblhau i sefyll arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Mynediad, ac i ymuno â chyrsiau Cymraeg i Oedolion ar lefel Sylfaen heb wneud unrhyw waith ychwanegol na chwrs pontio. 

lluniau_o'r_cwrsMae cwrs Mynediad Cymraeg i’r Teulu yn cynnwys yr adnoddau canlynol:

Mae’r awduron, sef Owen Saer a Pam Evans-Hughes, wedi creu cwrs sy’n cynnwys 60 uned ac mae’r rhain wedi eu bwriadu i’w dysgu un uned i un sesiwn ddwyawr o ddysgu. Gan ddilyn Mynediad CBAC, mae patrymau newydd yn ymddangos mewn blociau melyn yn y llyfr cwrs. Mae yma hefyd weithgareddau i ymarfer y patrymau yn y dosbarth, wedi eu llunio i efelychu sefyllfa defnyddio’r Gymraeg gyda phlentyn, er mwyn annog rhoi’r gweithgareddau hyn ar waith gartref rhwng y gwersi. Ceir deialog ym mhob uned, yn ogystal â chân. 

Achredu
Fe welir symbol A wrth ymyl un gweithgaredd yn y rhan fwyaf o’r unedau. Golyga hyn mai gweithgaredd asesu ydyw, a dylid sicrhau gwneud y tasgau hyn yn y wers. Bydd pob myfyriwr sydd yn bresennol yn cael tic ar daflen asesu ac achredu i ddangos ei fod wedi cwblhau’r dasg (sydd yn ei thro yn dystiolaeth fod y myfyriwr wedi dysgu’r iaith angenrheidiol i wneud hynny). Bydd cyfle ychwanegol bob saith uned i wneud gweithgaredd adolygu; yn ogystal â’i gwneud yn bosibl i fyfyrwyr sydd wedi colli gwersi i gael tic credyd - mae’n gyfle gwerthfawr i adolygu.

pensil_gwyrdd
Treialu

Ar dudalen lanio’r Tiwtor, fe welwch fod yna adran newydd ar y fwydlen fach ar y chwith, sef ‘Cymraeg i’r Teulu.’ Mae’r adran hon o’r Tiwtor wedi ei neilltuo ar gyfer y tiwtoriaid hynny sydd wedi eu cofrestru i dreialu’r pecyn Cymraeg i’r Teulu. Wedi dweud hynny, mae croeso i unrhyw un fynd i’r adran honno i weld y cynnwys.

Mae’r pecyn treialu yn cynnwys unedau 1 -15 ac mae hynny’n cyfateb yn fras i dymor a hanner o waith i ddosbarth sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos am wers o ddwy awr. Gall hynny amrywio, wrth gwrs, yn ôl anghenion dosbarthiadau unigol. Fel y nodwyd eisoes, bydd y cwrs llawn yn cynnwys 60 o unedau a bydd hwn yn barod erbyn Medi 2011.

Ar gyfer y treialu, mae llyfr cwrs wedi ei argraffu ar gael i bob dysgwr, fersiwn y de neu fersiwn y gogledd.  Hefyd, darperir Canllawiau a Phecyn Ymarfer a Gweithgareddau ar-lein i’r tiwtor eu hargraffu, ac mae’r rhain ar gael yma ar wefan y Y Tiwtor (yn yr adran newydd ar y dudalen lanio).  Gofynnir i bob tiwtor sy’n peilota am adborth, a chroesewir sylwadau ar bob agwedd ar y cwrs.

Am fwy o fanylion cysylltwch â cymraegioedolion@cbac.co.uk

llinell