16 – 18 Medi 2010
Cafwyd tri diwrnod gwerth chweil a llwyddiannus dros ben i CBAC a’r Adran Cymraeg i Oedolion yn nigwyddiad Sgiliau Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, 16 – 18 Medi 2010.
Penderfynwyd ar y thema ‘Llwybr Dysgu’ ble roedd yn rhaid i ymwelwyr gasglu ‘pasbort’ wrth y fynedfa, ac wedyn derbyn stamp ym mhob stop ar hyd y llwybr ar ôl iddynt gwblhau gweithgareddau / profion. Y nod oedd herio’r ymwelwyr i ddysgu sgiliau newydd neu brofi eu sgiliau ar y llwybr dysgu cyn dychwelyd eu pasbort i gael cyfle i ennill gliniadur.
Daeth llu o bobl i stondin CBAC a oedd eisiau darganfod mwy am y cyfleoedd gyrfa sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, yn ogystal â’r cyfleoedd sy’n dechrau dod i’r amlwg.
Yn ogystal â chael y cyfle i wneud smwddi, rhoi cynnig ar waith brodwaith ac appliqué, profi eu sgiliau origami a’u gwybodaeth ystadegol, cawson nhw gyfle gwych i dreialu fersiwn llai o’r erfyn diagnostig ar gyfer sgiliau sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Ymgymerodd llawer iawn o ymwelwyr â’r prawf ymaddasiadol ar-lein i fesur eu sgiliau darllen a deall yn y Gymraeg. Yn ogystal â’r prawf ar-lein, roedd cyfle i’r ymwelwyr chwarae gêm i brofi eu sgiliau llafar. Roedd un ymwelydd yn rhoi cyfarwyddiadau yn y Gymraeg i ffeindio’i ffordd ar fap a’r llall yn gorfod dilyn y cyfarwyddiadau i gyrraedd lleoliad penodol. Aeth cwpwl o ymwelwyr ar goll ond efallai mai diffyg sgiliau darllen mapiau achosodd hynny yn hytrach na diffyg sgiliau llafar yn y Gymraeg!
Roedd canlyniadau’r profion wedi rhoi syniad da o’u lefel yn y Gymraeg i bobl ifanc sy’n mynychu ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, ac i bobl hŷn. Pwysleisiwyd iddynt fod y Gymraeg yn sgil bwysig iawn i’w nodi pan fyddent yn ceisio am swyddi. Hefyd, roedd cyfle i gynnig cyngor i’r ymwelwyr ar sut i wella eu Cymraeg a pha gyrsiau a chymwysterau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.
Dro ar ôl tro, profodd canlyniadau’r erfyn diagnostig fod lefel Cymraeg llawer o bobl yn well nag yr oeddent yn meddwl. Mae Lynn Churchill, myfyrwraig CiO sy’n mynychu dosbarth yn Ysgol Gartholwg, Rhondda Cynon Taf, gyda Sylfia Fisher newydd basio ei arholiad Mynediad eleni. Ond, drwy brofi ei sgiliau gyda’r erfyn diagnostig llwyddodd i gyrraedd lefel Canolradd. Ar ôl trafod hyn, cyfaddefodd Lynn ei bod hi’n deall llawer o’r Gymraeg ond bod diffyg hyder ganddi. Rydyn ni’n ymwybodol bod hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru!
Roedd treialu’r erfyn diagnostig ar gyfer sgiliau wedi bod yn hynod o werthfawr i ni er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect. Dysgon lawer am sut y dylai’r erfyn weithio, a chodwyd llawer o bwyntiau a syniadau i’w ystyried wrth geisio gwella ac ehangu’r erfyn.
Os hoffech fwy o fanylion am brosiect arfau diagnostig Cymraeg yn y Gweithle, cysylltwch â Glenda Brown, Swyddog Asesiadau Cymraeg yn y Gweithle ar 02920 265348 neu e-bostiwch Glenda.brown@cbac.co.uk