Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl geiriau bach
Mae’r cwrs ‘Geiriau Bach’ ar gyfer athrawon a chynorthwywyr sy’n gweithio ym meithrinfeydd ac ysgolion cynradd. Nod y cwrs yw dysgu Cymraeg i’r myfyrwyr trwy gyfres o weithgareddau hwyliog sy’n addas i blant rhwng 3 a 7 oed. Ar ddiwedd y cwrs mae’r myfyrwyr yn ennill Tystysgrif Addysg Uwch Ymarfer Cymraeg a Dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar. Mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau cyfres o aseiniadau a seminarau er mwyn ennill y dystysgrif.

Mae’r cwrs yn hyrwyddo’r Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cymreig, felly mae’r oedolion, fel y plant yn eu gofal, yn dysgu trwy chwarae! Mae’r cwrs yn gyffrous iawn ac mae’n cynnwys caneuon, gemau, cystadlaethau, actio, gwisgo lan, chwarae rôl gyda phypedau, dawnsio, chwarae poitshlyd a chwarae tu allan. Hefyd, mae’r myfyrwyr yn dysgu am hanes yr iaith Gymraeg a damcaniaethau’n ymwneud â dysgu ieithoedd.     

Fel tiwtor ‘Geiriau Bach’, dw i’n credu ei bod hi’n bwysig dros ben cyflwyno gweithgareddau sy’n fywiog a hwyliog er mwyn gwneud profiad dysgu’r myfyrwyr yn gyffrous a chofiadwy. Ar hyn o bryd, dw i’n dysgu’r modiwl ‘Siarad Tu Fas, Chwarae Tu Allan’. Er mwyn i’r myfyrwyr brofi’r gweithgareddau’n llawn mae’n bwysig iddyn nhw dreulio rhan o’r wers y tu fas. Dyn ni’n gwneud cysgodfannau, plannu blodau, peintio cysgodion, mynd ar lwybrau natur a dawnsio yn yr awel gyda sgarffiau! Mae’r myfyrwyr yn dysgu iaith sy’n briodol i’r gweithgareddau – iaith maen nhw’n gallu ei defnyddio gyda’r plant yn eu gofal.

llun gwisgo lanUn o fy strategaethau wrth ddysgu iaith yw chwarae rôl a gwisgo lan. Oherwydd fy nghefndir fel actores a dawnswraig dw i’n ymwybodol o’r trawsffurfiad mae’r bobl yn profi trwy newid cymeriad a newid dillad. Mae’r myfyrwyr yn colli eu hunanymwybyddiaeth. Mae eu hiaith Gymraeg yn llifo wrth guddio tu ôl i byped neu wrth chwarae rôl rhywun arall. Yn yr un modd, mae canu’n helpu codi hyder y myfyrwyr. Does dim pwysau ar y dysgwr i ddeall rheolau gramadeg. Maen nhw’n dysgu mewn ffordd naturiol gan fod y geiriau’n llifo gyda’r gân.

Dw i’n creu llawer o weithgareddau corfforol fel dawnsfeydd a symudiadau arbennig er mwyn cyflwyno’r iaith Gymraeg. Eto, mae’r myfyrwyr yn colli eu swildod oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar y symudiadau. Ar yr un pryd maen nhw’n cofio’r eirfa trwy gysylltu’r geiriau â’r symudiadau.

Dw i’n hoff iawn o ddefnyddio llawer o dechnegau drama yn y dosbarth. Yn aml, dw i’n gofyn i’r myfyrwyr greu gweithgareddau sy’n defnyddio’r patrymau iaith a ddysgwyd yn y gwersi blaenorol. Maen nhw’n ‘perfformio’r’ gweithgaredd o flaen y grŵp. Mae’r lleill a finnau’n chwarae rôl y plant. Mae’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu eu creadigrwydd ac ymarfer yr iaith cyn cyflwyno’r gweithgareddau i’r plant. O ganlyniad, rydyn ni’n cael llawer o hwyl ymhob gwers!

Wrth gwrs, dw i’n ymwybodol bod pawb yn dysgu mewn ffordd wahanol. Fel dysgwraig Cymraeg fy hunan, ro’n i’n hoff iawn o gael adborth gan y tiwtor ar ôl gwneud gweithgaredd am gywirdeb fy iaith. Felly, ar ôl pob gweithgaredd dw i’n rhoi adborth am gamgymeriadau a’r rheolau gramadegol. Dw i’n credu bod y myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r broses oherwydd eu bod yn gallu datblygu eu sgiliau ieithyddol trwy ddeall y rhesymeg y tu ôl i’r patrymau iaith.
    
Fel arfer, i orffen y wers dw i’n gwneud gweithgaredd gwrando ‘Ymlacio ar y traeth’. Mae’r myfyrwyr yn gorwedd ar y llawr ac yn gwrando ar y môr tra dw i’n siarad am y tywydd braf a defnyddio geirfa o’r gwersi blaenorol. Mae’n gyfle iddyn nhw ymlacio ac amsugno’r eirfa a gyflwynwyd eisoes.

Dw i wrth fy modd yn gweithio fel tiwtor Geiriau Bach gan fy mod yn mwynhau defnyddio fy sgiliau creadigol er mwyn dysgu’r iaith Gymraeg. Dw i’n mwynhau creu amrywiaeth o adnoddau lliwgar ac unigryw er mwyn bywiogi’r broses ddysgu hefyd. Fel dysgwraig Cymraeg fy hunan, dw i eisiau ysbrydoli pobl eraill i ddysgu’r iaith. Dw i wrth fy modd yn gweld y myfyrwyr yn cyflwyno gweithgareddau ‘Geiriau Bach’, trwy gyfrwng y Gymraeg, i’r plant yn yr ysgol. Mae’n deimlad braf iawn! 

llinell