Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

logo

 

 

 

 

 


Achredu ac Agored Cymru

gan Llew Moules Jones

 

Go brin fod unrhyw un ohonoch chi yn ddigon hen neu’n fodlon cyfaddef defnyddio’r unedau cyntaf erioed a achredwyd gan y Rhwydweithiau Coleg Agored, fel y’i gelwid gynt. Roedd hynny yng nghanol y nawdegau, pan oedd pris tri chredyd ychydig dros dair punt, a phan oedd gan Elwyn Hughes (Bangor) lond pen o gyrls digon o ryfeddod!

Beth yw Agored Cymru ?
Agored Cymru yw’r enw newydd ar y Rhwydwaith Coleg Agored Cymru (RhCAC) gynt. Mae’n gorff dyfarnu sydd yn arbenigo mewn bodloni anghenion dysgwyr Cymraeg ail iaith, ymysg eraill, gyda phrofiad helaeth o helpu dysgwyr o bob oed gyflawni eu potensial.

Beth yn union yw credyd ?
Ffordd o fesur a rhoi gwerth ar eich dysgu yw credyd . Mae credyd yn dweud wrthych faint o ddysgu rydych wedi ei wneud o fewn amser penodol, a gellir casglu credydau at ei gilydd i wneud cymwysterau cyfan fel y cymhwyster ‘Cymraeg yn y Gweithle‘ newydd, a’r cymhwyster ‘Cymraeg I’r Teulu’ sydd ar fin cael ei beilota fis Hydref eleni.

Beth felly yw uned ?
Mae uned yn ffordd syml o ddangos faint o ddysgu sydd wedi digwydd. Mae pob uned yn cynnwys teitl, canlyniad dysgu, meini prawf asesu a chod dysgu. Mae i bob uned a / neu gymhwyster werth credyd (mae un credyd yn cynrychioli 10 awr o ddysgu) a lefel rhwng lefel Mynediad a lefel 8. Wrth edrych ar yr uned gallwch weld y lefel a pha mor hir y bydd yn cymryd i ddysgwyr canolig ennill y sgiliau neu’r wybodaeth i gwblhau’r canlyniadau dysgu a chynnwys yn gyffredinol .

Beth yw lefel credyd ?
Mae lefel credyd yn dangos y camau dysgu. Er mwyn deall lefelau’r unedau a chymwysterau yn y fframwaith, gall fod o help i chi wybod hyn :

Lefel Mynediad            - y lefel ragarweiniol neu lefel dychwelyd i ddysgu

Lefel 1 (Sylfaen)           - yr un lefel â TGAU, graddau D – G

Lefel 2 (Canolradd)       - yr un lefel â TGAU, graddau A –C   

Lefel 3 (Uwch)               - yr un lefel â TAG / lefel A
            
Lefel 8                           - Doethuriaeth

Beth yw cymwysterau ?
Wrth i unedau gael eu gosod at ei gilydd maen nhw’n ffurfio cymhwyster fel y cymhwyster ‘ Cymraeg yn y Gweithle ‘ soniwyd amdano eisioes . Mae cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau sy’n gysylltiedig â galwedigaeth yn cael eu hychwanegu at Fframwaith, sef y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, y QCF. Mae’r cymhwyster ‘Cymraeg yn y Gweithle‘ esioes wedi’i gymeradwyo ac yn eistedd ar y fframwaith. Bwriedir cyflwyno mwyafrif cymwysterau CiO Agored Cymru i’r Fframwaith yn ystod y misoedd nesaf. Mae tri maint i’r cymwysterau ar y QCF:

llinell

Dyfarniad (1-12 credyd) e.e. Dyfarniad Agored Cymru mewn ‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle,‘ lefel Mynediad.

Tystysgrif (13-36 credyd) e.e. Tystysgrif Agored Cymru mewn ‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle,‘ lefel un.

Diploma (37 credyd neu fwy)

 llinell

Sut bydd y dysgu yn cael eu asesu ?
Cewch wybod mwy gan eich Tiwtor neu eich cydlynwyr ynghylch sut yr asesir y dysgu. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y Tiwtor neu’r Hyfforddwr yn asesu’r dysgu wrth fynd ymlaen. Mae’n werth nodi yma y cytunwyd yn ddiweddar ar bolisi o geisio ysgafnhau’r broses asesu yn ei chyfanrwydd, a cheisio gweithio tuag at ddefnyddio un dasg neu weithgaredd i brofi cyrhaeddiad sawl maen prawf asesu (er nad yw hynny’n bosibl bob amser), boed hynny’n weithgaredd llenwi bylchau, ymarfer deialog, neu’n dystiolaeth gan y Tiwtor. Os ydych yn ansicr ynglŷn â threfn y broses asesu, cysylltwch â’r canolfannau neu’n uniongyrchol ag aelodau staff Agored Cymru.

Prosiectau sydd ar y gweill
Mae Agored Cymru yn datblygu’n barhaus, neu’n diweddaru’r unedau a’r cymwysterau, ac mae amryw bethau ar y gweill ar hyn o bryd. Ymysg y rhain y mae’r cymhwyster ’Cymraeg i’r Teulu‘ (lefel Mynediad), ‘Defnyddio’r Gymraeg gyda phlant bach‘ (lefel Mynediad) ,‘Cymru, y wlad a’i Phobol‘ (lefel Mynediad, lefel 1 a 2), ac o bosib ‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle‘ (lefel 3 / 4), hyn oll yn ogystal ag adolygiad llawn o’r unedau prif ffrwd (cyrsiau byr a chyrsiau dwys) gan gynnwys y Tasgau .  

Mae Agored Cymru yn hynod falch o’u hymrwymiad i faes Cymraeg i Oedolion, a’r berthynas hir sydd wedi bodoli rhyngddynt ers y nawdegau cynnar. Yn ystod y blynyddoedd a ganlyn, cynyddodd y nifer ar y rhaglenni yn gyson nes cyrraedd oddeutu 8,000 o ddysgwyr y llynedd, yn cyflawni 77,000 o gredydau sydd cyfwerth â 777, 000 awr o ddysgu! Dwi’n siŵr y cytunwch chi fod hyn yn gamp enfawr, ac yn destun dathlu o fewn unrhyw sector! I chwi, diwtoriaid cydwybodol y maes, yn anad neb y mae’r diolch am y llwyddiant hwn. Felly, ar ran y dysgwyr a staff Agored Cymru, diolch eto a daliwch ati.

llinell