Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

croeso i rifyn 13

llun apps bachBu’r haf a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yn gyfnod hynod brysur i’r maes Cymraeg i Oedolion. Cafwyd llu o lansiadau cyffrous a gellir darllen amdanynt yn yr erthygl Adnoddau APADGOS a’r erthygl Gwobrwyo a Lansio. Hoffech chi Ddysgu trwy ‘app?’ Os felly, ewch amdani a manteisiwch ar y dechnoleg ddiweddaraf gyda Chris Price o Brifysgol Aberystwyth.

llun_clawr_13Yn ystod wythnos yr Eisteddfod hefyd cafwyd uchafbwynt cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn a datgelwyd pwy sydd wedi ennill Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas. Rhoddwyd Gwobr Arbennig i rywun arall yn gynharach eleni hefyd! A sôn am wobrau, cofiwch am y Gystadleuaeth newydd - dyma’ch cyfle i ennill pecyn o adnoddau gwerthfawr.

Hefyd
Beth yw pwrpas achredu?
Cwestiwn da, ac mae’r ateb yn yr erthyglau arbennig sy’n sôn am achredu. Emyr Davies sy’n holi’r cwestiwn dadleuol, Llew Moules Jones sy’n rhoi’r cefndir yn Achredu ac Agored Cymru, a Jannette Jones sy’n rhoi gorolwg o’r Calendr Achredu.

Rydym hefyd yn edrych ar y cwrs Geiriau Bach ac yn sôn am y datblygiadau diweddaraf gyda’r cwrs Cymraeg i’r Teulu newydd. Ceir hanes gweithgareddau Sgiliau Cymru yng Nghaerdydd gan Glenda Brown, a cheir adroddiad hefyd ar Seminar Cystrawen y Gymraeg yng Ngregynog.

Ewch i’r adran Newyddion i ddarganfod beth oedd wedi annog Susan May i ysgrifennu’r gyfrol Cerddi’r Galon, ac ewch i’r adran Adolygiadau i ddarganfod beth sydd gan Phyl Brake i’w ddweud am y Celtic Languages

Blas rhyngwladol sydd i’r adran Proffil y tro hwn wrth i ni deithio o’r Unol Daleithiau i Wlad Pwyl.  

Deunydd Dysgu
Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym daflen arbennig ar ffurfiant geiriau yn ogystal â syniadau ymarferol gwych gan Jim Wingate. Ceir enghraifft hefyd o gynllun gwers ar gyfer lefel Uwch. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

Pob hwyl.

llinell