Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl dysgwr y flwyddyn

Nos Fercher, 4 Awst 2010, cynhaliwyd Noson Dysgwr y Flwyddyn yn Sefydliad y Glöwyr, Llanhiledd. Arweinydd y noson oedd Garry Owen o’r BBC a chafwyd noson i’w chofio yng nghwmni Jac-y-Do, y band twmpath, a chyfeillion lu o bob rhan o Gymru.

llun dysgwr 2Dyma oedd uchafbwynt cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, gyda’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cael eu holi eto gan Garry Owen o flaen y gynulleidfa frwd. Yn wreiddiol, roedd 29 o ymgeiswyr wedi cystadlu eleni, sef y nifer fwyaf erioed, ac roeddent yn dod o Gymru, Lloegr, Gwlad Belg a Phatagonia.

Y pedwar cystadleuydd terfynol oedd:

 

Shirley Cottam
Mae Shirley yn 40 oed ac yn byw yn Aberystwyth ers pum mlynedd gyda’i mab, JJ, sy’n 10 oed. Wrth weld y Gymraeg ar arwyddion ffyrdd ymhobman a chlywed yr iaith ar y stryd yn y dref, teimlai fod yn rhaid iddi ddysgu’r iaith a dechreuodd Shirley a JJ mewn dosbarth Cymraeg ym Medi 2006. Erbyn eleni mae Shirley wedi bod yn mynychu pum cwrs Cymraeg gwahanol bob wythnos. Mae hi hefyd yn cynnal dosbarthiadau crefft trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a’u rhieni yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn Aberystwyth gan greu llyfrgell fach o lyfrau Cymraeg i blant yn y ganolfan.  

 

Julia Hawkins
Ar ôl blynyddoedd o weithio yn Lloegr, Tanzania a Vietnam daeth Julia Hawkins nôl i Gymru i fyw yn 2001 er mwyn magu teulu yng Nghrucywel. Pan gafodd ei mab, Ioan, ei eni ceisiodd Julia siarad Cymraeg yn unig ag ef. Ymunodd â’r Grŵp Ti a Fi yn y Fenni ac ar ôl bod yn aelod am ddwy flynedd, cymerodd Julia yr awennau gan gynnal y grŵp ei hun. Ddwy flynedd yn ôl dechreuodd Julia ar ei gwaith newydd gyda’r Cyngor Prydeinig yn rheoli prosiect y Cyngor ym Mhatagonia. Ei chyfrifoldeb hi yw trefnu ymweliadau rhwng Patagonia a Chymru a chefnogi prosiectau sy’n hybu’r iaith yno.

 

Helen Price
Daw Helen o’r Coed Duon a chafodd ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg gan ei thad-cu a’i ffrind gorau. Dechreuodd wneud hynny o ddifrif yn 2004 ac mae hi hefyd yn siarad Cymraeg yn unig â’i mab, Dafydd. Yn 2008 cafodd Helen swydd llawn amser gyda Menter Iaith Caerffili i weithio ar brosiect yn ymwneud â hanes lleol. Mae’r gwaith yn cyfuno’i diddordeb yn y Gymraeg, hanes a Thechnoleg Gwybodaeth. Trwy’r gwaith mae hi wedi ffilmio gydag Ifor ap Glyn, wedi cwrdd â llawer o bobl leol, ac wedi manteisio ar bob cyfle i hybu’r iaith yn yr ardal.

 

Dai Williams
Mae Dai yn byw yn Ystalyfera ac ar ôl gweithio am dair blynedd fel peiriannydd penderfynodd fynd i deithio yn Awstralia a Gwlad Thai. Wrth deithio a chwrdd â llawer o bobl yn siarad gwahanol ieithoedd, teimlai cywilydd nad oedd yn gallu siarad ei iaith ei hun. Dechreuodd ddysgu yn 2007 ac o fewn blwyddyn roedd yn rhugl! Y llynedd cafodd Dai swydd gyda Chyngor Sir Powys fel Gweithiwr Ieuenctid Cymraeg ac mae wrth ei fodd yn byw bywyd Cymraeg bob dydd, gan helpu’r genhedlaeth nesaf i werthfawrogi’r iaith a’i diwylliant hefyd.

llinell

llun dysgwr 3Ar ôl gwledda, dawnsio a mwynhau gwrando ar y pedwar ymgeisydd, tua diwedd y noson cyhoeddwyd mai Julia Hawkins oedd yr enillydd haeddiannol. Cyflwynwyd iddi wobr ariannol o £300 a Thlws Dysgwr Y Flwyddyn 2010, yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent ac a wnaed gan Angelina Hall.

Roedd y tri arall hefyd yn ennill £100 yr un a thlws arbennig. Roedd y pedwar ohonynt hefyd yn ennill tanysgrifiad blwyddyn i Golwg ynghyd ag aelodaeth Merched y Wawr neu nwyddau.
Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt.

 

llinell