Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl appsYn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn ystod yr haf lansiwyd ‘app’ newydd ar gyfer yr iphone gan Yr Athro Chris Price a Neil Taylor o Adran Cyfrifiaduron Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ddau yn dysgu Cymraeg! Mae’r ‘app’ yn helpu dysgwyr sy'n defnyddio'r Cwrs Mynediad ac mae’n cynnwys unedau o'r llyfr, gan ddefnyddio’r un patrymau, geirfa, ymarferiadau, gramadeg a deialogau.

Daw’r datblygiadau hyn yn sgil llwyddiant lansiad arall y llynedd, sef ‘app’ sy’n cynnwys ymadroddion a geirfa syml Cymraeg. Mae Chris Price wedi ei syfrdanu gan boblogrwydd y llyfr gwreiddiol hwnnw ac erbyn hyn mae mwy na 8,000 o gopïau wedi eu gwerthu!

Aeth ati i ddysgu Cymraeg fel oedolyn er gwaetha’r ffaith iddo ennil lefel ‘O’ Cymraeg ugain mlynedd yn ôl. Gan fod cymaint o bobl yn cysylltu ag ef drwy gyfrwng y Gymraeg, boed yn alwadau ffôn neu negesesuon ebost, ac yntau wedi colli’i sgiliau iaith, dechreuodd ef a’i gydweithiwr, Neil, fynychu dosbarthiadau Cymraeg. 

Wrth sylweddoli nad oedden nhw’n ymarfer y Gymraeg ddigon yn ystod yr wythnos, dechreuodd y ddau drafod beth fyddai’n gallu eu helpu. Gan fod Neil a Chris yn medru creu rhaglenni iphone, roedd yr ateb yn syml! Wedi cysylltu â CBAC, dechreuwyd ar y gwaith o drosi’r cwrs Mynediad yn ‘app’ ar gyfer yr iphone a’r ipad.

 

 

Mae’r cwrs ar yr ‘app’ yn dilyn yr un drefn â’r cwrs Mynediad arferol ac wedi ei rhannu’n unedau. Mae’n cynnwys elfen ryngweithiol, a gall y dysgwr ateb cwestiynau trwy gyffwrdd â’r sgrin. Elfen allweddol arall yw’r ffeiliau sain sydd wedi eu cynnwys i helpu gyda’r ynganu, a gall y dysgwr hyd yn oed recordio’i hun yn ynganu geiriau ac ymadroddion gan wrando ar ei ymdrechion!

Yn ôl Neil Taylor mae llawer o bobl wedi dangos diddordeb yn yr adnodd ac yn falch iawn i weld bod modd creu fersiwn gweledol a chlywedol o’r cwrs Mynediad sy’n ategu’r gwaith a wneir yn y dosbarth, ac sy’n galluogi’r dysgwr i wneud gwaith annibynnol gartref, rhwng y gwersi ffurfiol. Mae nifer o ddysgwyr hefyd yn gweld hyn fel ffordd o ddal i fyny yn weddol ddidrafferth os ydynt wedi colli ambell i ddosbarth.  

Mae’r ddau arbenigwr yn gobeithio y bydd eu datblygiadau yn annog mwy o bobl i ddysgu’r iaith ac yn cyfrannu at brofiadau dysgu positif.

Y gobaith yw y bydd llwyddiant yr ‘app’ hwn yn ysbrydoli’r ddau arbenigwr i ymgymryd ag ‘app’ Sylfaen hefyd.

Bydd yr ‘app’ yn Siop iTunes ym mis Hydref.
Os am fwy o fanylion, ewch i’r wefan www.cwrsmynediad.com

llinell