Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

CLWB CYMDEITHASU CYMRAEG C3
llinellllun gwobr arbennig

Gwobr arbennig
- Taith arbennig

gan Eirian Conlon

 

Yn ddiweddar, aeth 5 ohonon ni o Glwb C3 i Lundain i dderbyn gwobr ryngwladol!

Mi wnaeth C3 ennill y wobr am waith ARLOESOL efo dysgu iaith! Felly diolch i bob un sy’ wedi bod i unrhyw ddigwyddiad wedi ei drefnu gan C3, ac i bawb sy’ wedi dangos diddordeb a chefnogi mewn unrhyw ffordd.

Mi es i, Pauline a 3 aelod arall o C3 i’r seremoni wobrwyo yn Stadiwm Emirates, Arsenal, i sôn am C3 ac i dderbyn gwobr Ewropeaidd gan yr asiantaeth CILT sy’n ymwneud â dysgu ieithoedd. Mi wnaethon ni ennill y wobr am gefnogi dysgu iaith i Oedolion drwy ddefnyddio dulliau / gweithgareddau y tu allan i’r dosbarth.

Cam cyntaf y broses oedd bod Ciara Brennan, sy’n gweithio i CILT Cymru ac sy hefyd yn aelod o ddosbarth Meistroli yma yn yr Wyddgrug (a hefyd yn aelod o C3), wedi sôn am y wobr ac wedi ein hannog i gystadlu gan ei bod hi’n meddwl bod gweithgareddau’r clwb mor ddiddorol a defnyddiol i’r aelodau, yn enwedig i’r rhai sy’ dal mewn dosbarth. Diolch iddi hi am fy atgoffa nifer fawr o weithiau bod y dyddiad cau yn agosáu!

Ar ôl i mi lenwi ffurflen gais yn esbonio cefndir y Clwb a be dan ni wedi bod yn wneud yn ystod y 3 blynedd diwetha, roedd rhaid i ni aros am fis neu ddau cyn i ni glywed ein bod ni ar restr fer i ennill gwobr. Roedd dros 100 o brosiectau wedi ymgeisio! Roedd 2 aelod o’r panel yn awyddus i ddod i weld be roedden ni’n wneud yma. Yn anffodus, roedd ein noson Salsa yn cael ei chynnal ar ôl y dyddiad penderfynu, felly mi gasgles i 15 o aelodau brwd C3 i gyfarfod cynrychiolwyr CILT yma yn Nhŷ Pendre, i siarad am y clwb a’u perswadio i roi gwobr i ni!

Diolch i frwdfrydedd y 15, mi gawson ni glywed yn eitha buan ein bod ni wedi ennill gwobr a bod angen i 5 ohonon ni fynd lawr i Lundain i’w chasglu.

Felly dewisodd Pauline a fi (yn hollol ddemocrataidd) y 3 oedd wedi bod i’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau yn ystod y 3 blynedd, sef Sian Roberts, enillydd y wobr am ddod i’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau C3 yn ystod y flwyddyn 1af, Christine Carroll (Meistroli/Sgwrs a Stori) enillydd yr ail flwyddyn, a Les Barker (Meistroli’r Wyddgrug) sy’ wedi ennill eleni. Gan fod Chris ar ei gwyliau ar y pryd, mi wnaethon ni benderfynu gofyn i Tony (Banjo) Kelsall am ei fod o ar ein cwrs Uwch, wedi dod i lawer o ddigwyddiadau ac wedi helpu cymaint efo’r nosweithiau canu / gwerin. Ac wrth gwrs roedd o’n gwmni i Les yng nghanol y merched!

llun_c31Diolch i haelioni’r Adran ( a CILT oedd yn talu’r costau teithio i gyd) mi gawson ni fynd lawr i Lundain y noson cyn y digwyddiad – rhag ofn i’r trên fod yn hwyr a chan fod pecyn efo gwesty a thrên yn costio llai na thrên yn unig efo Trainline!
Bore wedyn, cychwyn am yr Holloway Road a chyrraedd Stadiwm yr Emirates mewn da bryd i ymarfer ein cyflwyniad!

Lle anhygoel o foethus, a phobol glên iawn yn ein haros ni. Mi gawson ni daith ddifyr iawn efo’r enillwyr eraill o gwmpas y Stadiwm ac wedyn gosod ein stondin. Roedd dros 150 o bobl a phlant ysgol yna, ac mi gawson ni dipyn o sioc o weld y rhaglen – roedd ein cyflwyniad (o gerdd arbennig gan Les a chân ddwyieithog Calon Lân yn Sbaeneg a Chymraeg i roi blas cerddorol o’n noson Tapas) wedi ei rannu, efo Les yn perfformio cyn cyflwyno ein gwobr a ninne i orffen yr holl seremoni efo’n cân!

Yn ffodus iawn roedd ’na ddigon o amrywiaeth efo’r gwobrau: fideos gan y rhan fwyaf o’r enillwyr yn dangos eu prosiectau (oedd yn cynnwys dysgu drwy ffitrwydd, drama, coginio, podlediadau, bod yn gyfieithwyr ar y pryd i fewnfudwyr diweddar, cysylltiadau â thîm Siapan i’r gemau Olympaidd yn 2012, a gwaith cymunedol clwb pêl-droed Arsenal yn dysgu ieithoedd efo cymorth rhai o’u chwaraewyr tramor) ac ambell gyflwyniad ‘byw,’ felly roedd pawb wedi cynhesu digon i dderbyn ein hymdrech. Mi wnes i ymddiheuro i’r ddynes o Lysgenhadaeth Sbaen am safon ein ynganu Sbaeneg ac esbonio mai o Batagonia roedd y cyfieithiad yn dod!

Roedd llawer iawn o bobl yn garedig iawn ac yn dod i siarad efo ni yn ystod yr awr a hanner o saib wedyn lle roedd pobl yn crwydro’r stondinau - ac roedd nifer o bobl yn clywed y Gymraeg am y tro cyntaf.

Roedd yn brofiad arbennig iawn, a’n gwobr oedd tlws gwydr, gwerth £150 o adnoddau dysgu, tystysgrif a’r hawl i ddefnyddio’r logo arbennig uchod.

Ymlaen felly rŵan at y bedwaredd flwyddyn!
Am fwy o fanylion Clwb C3 cysylltwch â: e.conlon@bangor.ac.uk

llun_c32