Cynhaliwyd yr 17eg seminar blynyddol ar gystrawen y Gymraeg ym Mhlas Gregynog ar y 5ed a’r 6ed o Orffennaf eleni. Ymhlith y siaradwyr roedd Bob Morris Jones a gyflwynodd bapur ar arferoldeb mewn Cymraeg llafar, grŵp ymchwil o Brifysgol Bangor a gymharai godswitsio rhwng gwahanol grwpiau o siaradwyr Cymraeg, Bob Borsley a ymdriniodd ag agweddau ar ramadeg cynhyrchiol yn y Gymraeg, David Willis o Brifysgol Caergrawnt ar ail-greu cystrawennol ac Atlas Cystrawen Tafodieithol y Gymraeg, Gwen Awbery ar broblemau’n gysylltiedig ag enwau cyfansawdd yn y Gymraeg a Margaret Deucher o Brifysgol Bangor ar gymathu berfau Saesneg i’r Gymraeg.
Bob Morris Jones
Cyflwynwyd papur diddorol iawn gan Bob Morris Jones, gynt o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar ‘Habituality in Informal Welsh’ lle yr archwiliwyd i’r gwahanol ffyrdd o ddangos arferoldeb yn y Gymraeg. Dadleuodd Bob ei bod hi’n bosib nodi bod gweithred yn digwydd yn barhaus ym mhob amser yn y Gymraeg, e.e. ‘ma Siôn yn chware snwcer bob nos’ (presennol); ‘o’dd Sioned yn gweithio i gyngor y dre’ (gorffennol); ‘fydda i’n dysgu’r plant bob dydd o hyn ymlaen’ (dyfodol). Ac eto, er bod dyfodol ‘bod’ yn cael ei ddefnyddio i nodi’r presennol arferiadol mewn sawl tafodiaith (yn enwedig yn y gogledd), ni chaniateir defnyddio ‘arfer’ gydag ef ond pan fydd ystyr dyfodol iddo, e.e. ‘fydda i’n arfer dysgu’r plant bob dydd o hyn ymlaen’. Roedd y papur hwn yn deillio o lyfr newydd Bob ar amserau ac agweddau’r Gymraeg sydd yn y wasg ar hyn o bryd.
Margaret Deucher a Carmen Parafita Cosito
Adroddiad ar ffrwyth ymchwil gan Ganolfan ESCR dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd Prifysgol Bangor i astudiaeth gymharol o godswitsio rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ymhlith siaradwyr Cymraeg gogledd Cymru a rhwng y Gymraeg a’r Sbaeneg ymhlith siaradwyr Cymraeg Patagonia oedd cnewyllyn y papur hwn. Mae’r project hwn yn un arloesol a chyffrous, ond hwyrach ei bod hi’n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau pendant eto. Mae’r data y seilir yr astudiaeth arnynt ar gael ar wefan Prifysgol Bangor (www.dwyieithrwydd.bangor.ac.uk). Manteisiwyd ar y dechnoleg newydd hon gan y siaradwyr wrth iddynt gyflwyno’r papur.
David Willis
Mae David yn Gymrawd a Chyfarwyddwr Astudiaethau mewn Ieithyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Prifysgol Caergrawnt. Ynghyd â Bob Borsely a Maggie Tallerman, mae’n gydawdur ar y gyfrol awdurdodol a swmpus, The Syntax of Welsh. Teitl prif bapur David oedd ‘Reconstructing last week’s weather: syntactic reconstruction and Brythonic free relatives’. Rhaid cyfaddef fod y pwnc yn swnio’n ddiflas iawn i mi ar y dechrau. Yn ffodus, mae David yn ysgolhaig o’r radd flaenaf sy’n teimlo’n angerddol am ei bwnc ac yn gallu trosglwyddo’r angerdd hwnnw i eraill. Yn ei bapur, soniodd am sut y defnyddiwyd y defnydd o’r rhagenw rhydd ‘bynnag’ sy’n ymddangos yn y tair iaith Frythoneg, sef y Gymraeg, y Llydaweg a’r Gernyweg, i geisio darganfod ei darddiad ym mamiaith y tair iaith hyn ynghyd â’i gystrawen waelodol. Mae ieithegwyr yn defnyddio’r dechneg hon i ddarganfod ffurfiau gwreiddiol eitemau geiregol, ond cytunir fod y cyfleoedd i wneud yr un peth ym maes cystrawen yn brin iawn oherwydd natur anhrefnus datblygiad patrymau gramadegol. Hyn sydd tu ôl i deitl ‘secsi’ y papur! Er gwaethaf fy amheuon, cafwyd papur hynod o ddiddorol a dadlennol. Dangoswyd sut y mae ‘bynnag’ yn deillio o gyfuno’r rhagenw gofynnol ‘py’ (pa) â’r nodydd negyddol ‘na(c)’. Mae hyn, yn ei dro, yn awgrymu mai ‘na(c)’ oedd y nodydd negyddol yn y tair iaith Frythoneg yn wreiddiol. Cafodd ei gadw mewn Llydaweg Canol a Chernyweg Canol, ond fe’i collwyd yn y Gymraeg. Ymddengys, felly, mai’r Gymraeg oedd yr iaith Frythoneg arloesol yn y Canol Oesoedd (mwy na thebyg oherwydd ei hynysiad o’i chwaer ieithoedd o ganlyniad i ymosodiadau gan y Llychlynwyr, ac wedyn, y goresgyniad Normanaidd).
Rhoes David ail bapur o’r enw: ‘Update of the Welsh Syntax Dialect Atlas’. Fel rhywun sydd â diddordeb mawr yn nhafodieithoedd y Gymraeg, roedd hyn yn newydd cyffrous iawn i mi. Nod y project yw adnabod dosraniad prif amrywion cystrawennol Cymraeg llafar drwy ddefnyddio methodoleg systematig. Er i’r Welsh Dialect Survey gael ei gyhoeddi yn 2000, dyma’r project mwyaf uchelgeisiol o’i fath ers cyhoeddi Linguistic Geography of Wales Alan R Thomas ym 1977. Mae LGW a WDS yn seiliedig ar amrywio geiregol ac mae ynddynt ychydig iawn, iawn o enghreifftiau o amrywio cystrawennol. Bwriedir cynnal project peilot o’r WSDA mewn chwe lleoliad ledled Cymru. Yn ddelfrydol, caiff chwe hysbysydd eu recriwtio ym mhob lleoliad, gan gynnwys dau ym mhob grŵp oedran: 18-40, 40-60 a 60+. Dylai hysbyswyr gwrdd â’r meini prawf canlynol:
- bod yn siaradwr brodorol/siaradwraig frodorol (h.y. wedi siarad y Gymraeg ers cyn ei bumed/phumed pen-blwydd)
- yn siarad Cymraeg ag o leiaf un o’i rieni/rhieni wrth dyfu
- wedi byw yn yr un lleoliad drwy gydol ei h/oes
- heb gael addysg uwch
Un amcan y project peilot yw ceisio cael gwybod sut i gwrdd â’r meini prawf hyn yn ymarferol.
Caiff y project hwn ei gynnal yng nghyd-destun rhwydwaith o brojectau cyffelyb ledled Ewrop dan Edisyn (European Dialect Syntax Project) sydd wedi ei leoli yn Sefydliad Martens yn Amsterdam (www.dialectsyntax.org).
Mae’r project hwn yn gyffrous iawn, ac roedd yn braf gweld brwdfrydedd David drosto, ond rhaid gofyn y cwestiwn: pam mae’n cael ei gynnal mewn sefydliad addysg uwch tu allan i Gymru, a pham nad oes diddordeb gan brifysgolion Cymru mewn project o’r fath?
Gwen Awbery
Mae Gwen yn ieithydd a thafodiethegydd o fri, sydd fwyaf enwog o bosib am ei llyfrau, The Syntax of Welsh: a transformational study of the passive a Pembrokeshire Welsh: a Phonological Study. Ym 1995, cyhoeddodd hi’r gyfrol, Blodau’r Maes a’r Ardd ar Lafar Gwlad, sef astudiaeth o enwau blodau sir Benfro. Roedd ei phapur, ‘Problems with compounds in Welsh’, yn seiliedig ar yr astudiaeth honno. Fel gramadegydd da, mae wedi sylwi ar yr anghysonddeb yn y defnydd o enwau blodau yn y Gymraeg, sydd yn aml iawn yn ymadroddion genidol, e.e. ‘clychau’r gog’ (bluebells). Er mai ymadrodd genidol sydd yma, nid yw’n ymddwyn fel ymadroddion gramadegol cyffredin. Mae’n bosib rhoi’r fannod o flaen enw’r blodyn, e.e. ‘weles i’r clychau’r gog’; rhywbeth sy’n anramadegol ac a ystyrir yn wallus fel arfer: ‘dringon ni i’r copa’r mynydd’ (û). Yn bennaf oherwydd y treigladau, rwy’n credu fod pawb rywbryd neu’i gilydd yn cael trafferth gyda’r genidol yn y Gymraeg. Rhoes y papur hwn rywbeth inni gnoi cil drosto.
Casgliadau
I grynhoi, cafwyd seminar hynod o gyffrous a diddorol mewn un o leoliadau mwyaf prydferth Cymru. Dim ond megis cyffwrdd â’r hyn a drafodwyd y mae’r papur hwn, a dim ond braslun o’r hyn a drafodwyd yn ystod y seminar a geir yma. Nid oes gofod imi fanylu ar ddadansoddiad Bob Borsley a Ryuchiro Hirata o agweddau ar gytundeb o fewn cymalau perthynol Cymraeg yn seiliedig ar Ddamcaniaeth Egwyddorion a Pharamedrau (Principles and Parameters Theory [PP]) nac ychwaith ar bapur hynod ddiddorol Margaret Deucher ar gymathu berfau Saesneg i’r Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i mi fynychu’r seminar flynyddol hon, ac ni fyddwn yn gwybod am ei bodolaeth oni bai am gydweithiwr imi sy’n teimlo’n gryf iawn dros godi statws academaidd y Gymraeg. Mwynheais y seminar ma’s draw, ac mae wedi f’ysbrydoli i ailgydio yn f’astudiaethau tafodieithol a chystrawennol fy hunan. Ond erys rhai cwestiynau pwysig:
- Pam roedd y digwyddiad mor fyr a phrysur? (Byddai hi’n braf cael mwy o amser i wneud cyfiawnder i’r papurau ac i’r siaradwyr ac i drafod y papurau’n fwy trylwyr.)
- Pam nad oes mwy o sefydliadau addysgol Cymru yn cymryd rhan?
- Pam mae angen i bob cyflwyniad fod yn y Saesneg?
- Pam mae’r cyhoeddusrwydd am y digwyddiad mor brin?
Ar ôl dweud hynny, byddwn yn cymeradwyo’r seminar hwn i unrhywun sydd â gwir ddiddordeb yng ngramadeg y Gymraeg a’i datblygiad.
Phylip Brake
Darlithydd
Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
Gorffennaf 2010