Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

pencil

 

 

 

 

 

 

Dyma sgwrs (ddychmygol) rhwng tiwtor a threfnydd mewn canolfan ddychmygol, yn rhywle yng Nghymru...

 

llinell

Tiwtor:
Beth yw’r holl fusnes achredu ’ma?  Dw i ddim yn gweld pwynt y peth.

Trefnydd:         
Wel, ystyr achredu yw bod y gwaith dysgu sy’n digwydd yn y dosbarth wedi ei gymeradwyo, ac yn arwain at ryw fath o gymhwyster neu rywbeth i ddangos i’r dysgwyr beth maen nhw wedi ei gyflawni.

Tiwtor:           
Oes rhaid? Mae’n swnio fel lot o waith.

Trefnydd:           
Does dim rhaid... ond mae’n rhoi cyfeiriad i’r dysgu, ymdeimlad o gynnydd i’r dysgwyr, ac mae’r ganolfan neu’r coleg sy’n darparu’r cwrs yn gallu cael mwy o gyllid os yw’r cyrsiau a’r dysgu wedi cael eu hachredu.

Tiwtor:           
Ha! Dyna ddod at wraidd pethau! Dim ond er mwyn cael rhagor o arian ’dyn ni’n gorfod gwneud hyn!

Trefnydd:           
Wel, mae arian yn bwysig, ydy. Ond nid dyna’r unig reswm, na’r prif reswm. Dylai tiwtor fod yn asesu ac yn rhoi adborth i ddysgwyr am eu cynnydd yn gyson. Hefyd, dylai’r tiwtor fod yn dysgu pethau sy’n addas i’r lefel, yn batrymau, geirfa, a sgiliau eraill. Os yw’r tiwtor yn gwneud y gwaith a amlinellir yn yr unedau, mae rhyw sicrwydd ei fod yn asesu’n barhaus, ac yn cyflwyno gwaith sy’n addas i’r lefel.  Does dim llawer o gyrsiau’n talu drostyn nhw eu hunain, ac mae hyn yn rhoi rhyw sicrwydd i lywodraeth y cynulliad fod y gwaith a noddir ganddyn nhw’n arwain i rywle.

Tiwtor:           
Ond dw i’n dilyn y llyfr cwrs! Mae hwnnw’n wych, felly pam mae angen dilyn unedau gwaith ychwanegol wedi eu gorfodi arnon ni?

Trefnydd:           
Mae nifer fawr o lyfrau cwrs yn cael eu defnyddio ledled Cymru, nid dim ond eich llyfr cwrs chi.  Mae pob un yn wahanol, ond mae’r rhan fwyaf yn cyflwyno pethau tebyg iawn, o leiaf ar y lefelau dechreuol. Nod llwybr credydau CBAC yw cynnig diffiniad craidd o’r sgiliau a’r wybodaeth ieithyddol ar lefelau gwahanol.  O ganlyniad, bydd rhai pethau’n wahanol - rhai pethau yn y llyfr cwrs nad oes mo’u hangen, a rhai pethau yn y llwybr credydau sydd heb eu cyflwyno yn y llyfr cwrs. Rhaid addasu rhywfaint er mwyn cael cynllun achredu cenedlaethol cyffredin i bawb.  Mae’r llyfrau cwrs mwyaf poblogaidd yn cynnwys gweithgareddau eisoes, sy’n gallu gweithredu fel tasgau asesu. Lle nad oes tasg barod, rhaid paratoi cynllun gwaith a gwau’r tasgau asesu a gynigir i mewn i’r dysgu. Mae angen blaengynllunio!

Tiwtor:
Mae’r unedau’n fach iawn. A fydd hyn yn golygu bod tasg asesu i’w gwneud gyda phob un?

Trefnydd:
Rhaid dangos bod y dysgwyr wedi cyflawni’r gwaith, a bod y canlyniadau dysgu’n gywir, ac mae hynny’n golygu tasg asesu...

Tiwtor:           
Haleliwia!  Dim ond asesu fyddwn ni’n wneud!  Gallwn ni anghofio am ddysgu Cymraeg, mae asesu wedi cymryd drosodd!

Trefnydd:           
Daliwch eich dŵr am eiliad!  Yn un peth, does dim rhaid gwneud y tasgau yr un pryd: gallwch chi gronni’r tasgau a’u gwneud mewn sesiwn adolygu, neu ar ddiwedd y tymor. Yn ail, mae’r tasgau a’r gweithgareddau’n debyg iawn iawn i’r math o dasgau neu weithgareddau y byddwch chi’n eu gwneud yn y dosbarth beth bynnag.  Os nad ydyn nhw, wel mae pethau rhyfedd yn digwydd yn eich dosbarth chi!  Mae’n fater o ddefnyddio gweithgareddau dosbarth fel cerrig milltir i weld a yw’r dysgwyr wedi dysgu go iawn.

Tiwtor:           
Beth os nad ydw i’n hoffi’r tasgau? Beth os ydw i eisiau gwneud y tasgau  mewn trefn wahanol?  Beth os bydd rhai’n absennol tra bydd y tasgau’n digwydd? Beth os bydd pawb yn methu’r tasgau?

Trefnydd:           
Dim problem, dim problem, dim problem. Os nad ydych chi’n hoffi’r tasgau sy’n cael eu darparu (mae dewis ar gael yn y fanyleb), gallwch chi eu haddasu neu lunio’ch tasgau’ch hunan, cyhyd â’u bod yn cwrdd â’r meini prawf ac yn profi’r un canlyniadau dysgu; gallwch chi wneud y tasgau mewn unrhyw drefn, a does dim rhaid i’r dysgwyr wneud y tasgau nes eu bod nhw’n barod. Does neb yn methu, ond gallai fod yn arwydd i’r tiwtor fod angen mynd dros ddarn o waith eto os na fydd y dysgwyr yn barod i gyflawni’r tasgau....

Tiwtor:   
Ond beth am y rhai sy’n absennol?

Trefnydd:           
Allwch chi ddim dweud bod dysgwr wedi cyflawni gofynion uned os nad oes rhyw brawf gyda chi. Dyw hi ddim yn ddigonol dweud bod Mrs Jones yn ddysgwraig dda iawn, ac er ei bod hi wedi colli gwers neu wersi, dych chi’n siŵr ei bod hi’n haeddu’r credyd am gyflawni’r uned...  Mae’n ben tost pan fydd rhai ar goll, ond rhaid ceisio gwneud y dasg rywdro arall gyda’r absenolion; mae’n gyfle i bawb adolygu beth bynnag.

Tiwtor:           
Mae e’n dal i swnio fel lot o waith. Oes rhaid i fi recordio pethau, cadw copïau o’r tasgau? Pwy sy’n mynd i edrych ar y mynydd yma o bapurach a thapiau?

Trefnydd:           
Nac oes. Rhaid i’r tiwtor gadw cofnod o’r tasgau, a phryd cyflawnwyd y tasgau hynny, dyna i gyd.  Mae gofyn i’r dysgwyr gadw copïau o dasgau ysgrifennu, ond mae hynny’n hawdd, ac ychydig o unedau ysgrifennu sydd ’na, beth bynnag.  Unedau llafar yw’r rhan fwyaf, a sicrhau bod y dysgwyr yn  gallu gwneud pethau ar lafar (heb sgript) yw’r nod.

Tiwtor:           
Felly, fydd neb yn gwybod a ydw i wedi gwneud y tasgau ai peidio...

Trefnydd:           
Mae asesu mewnol yn dibynnu ar eich hygrededd chi. Os bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif neu ddatganiad ar ddiwedd y flwyddyn am rywbeth cwbl ddieithr, nhw fydd y cyntaf i ofyn cwestiynau.  Hefyd, mae dilyswyr yn dod i’r dosbarth i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu’n iawn...

Tiwtor:  
Asiffeta! Rhywun arall i’r dosbarth? Dw i wedi cael llond bol ar arolygwyr, swyddogion o’r canolfannau a phob pwysigyn arall yn torri ar draws...

Trefnydd:           
Mae pob tiwtor yn cael ymwelwyr!  Peidiwch â phoeni, bydd rhywun o’ch canolfan yn ymweld yn aml, ond dilysydd allanol yn dod i’r dosbarth unwaith mewn chwe blynedd  (bydd ymwelydd mewnol, o’r ganolfan, yn dod yn amlach na hynny wrth gwrs). Bydd y dilysydd ond yn edrych ar sut dych chi’n asesu, nid ar eich dulliau dysgu. Gallwch chi ddefnyddio’r dilysydd fel Mr neu Mrs X wrth gwrs. Mae cael ymwelwyr i’r dosbarth yn dda i’r tiwtor ac yn hwb i’r dysgwyr.

Tiwtor:           
Atebwch un cwestiwn eto felly. Oes gwerth i’r cynllun achredu ’ma? Ydy e’n gwneud lles i’r dysgwyr?

Trefnydd:           
Mae hynny’n dibynnu ar un peth - y tiwtor. Os yw’n cael ei gyflwyno fel rhywbeth cadarnhaol, rhywbeth i anelu ato a’i gyflawni yn y tymor byr, ydy. Mae’r dysgwyr yn teimlo eu bod yn rhan o gynllun ehangach a bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod. Os yw’n cael ei weld fel rhywbeth ychwanegol ‘sydd ond yn cael ei wneud er mwyn cael arian’, yna mae’n siŵr o syrthio’n fflat.

Tiwtor:           
Wel, diolch am y sgwrs. Dych chi wedi fy argyhoeddi! Mae’n swnio fel cynllun cyffrous a defnyddiol.  Dw i’n edrych ymlaen at ei weithredu y tymor nesa!

Y DIWEDD

[Cyflwynwyd y ddramodig uchod ar gyfer cystadleuaeth goffa Saunders Lewis yn yr Eisteddfod]

llinell