Calendr Achredu
Blwyddyn waith Llwybr Credydau CBAC
gan Janette Jones
Beth yw’r llwybr credydau?
Cyfres o unedau gwaith sy’n cael eu hasesu’n anffurfiol gan y tiwtor dosbarth ydy llwybr credydau CBAC. Mae’n gyfle i ddysgwyr gael cydnabyddiaeth am beth maen nhw wedi ei ddysgu yn eu dosbarthiadau Cymraeg. Mae’n rhoi cerrig milltir i ddysgwyr ar hyd y daith fel eu bod yn gallu gweld eu cynnydd. Byddan nhw’n derbyn credydau am ddangos eu bod wedi cyflawni nodau penodol. Hefyd, mae cynnwys y llwybr yn adlewyrchu gofynion yr arholiad sy’n dod ar ddiwedd y cwrs.
Bydd dilyswyr fel arfer naill ai yn diwtoriaid profiadol neu’n bobl â phrofiad o weithio ym maes asesu neu arolygu. Staff y Canolfannau Iaith ydy’r dilyswyr mewnol a phenodir dilyswyr allanol gan CBAC yn ystod Mehefin a Gorffennaf.
Yn fras, dyma galendr blwyddyn, i roi syniad i diwtoriaid o beth sy’n digwydd, pryd a pham.
Hydref –
Erbyn diwedd mis Hydref bydd y dosbarthiadau wedi dechrau a bydd swyddogion y canolfannau iaith yn gwybod pa ddosbarthiadau sy’n rhedeg. Cynhelir cyfarfod cydlynu ym mhob canolfan iaith i benderfynu ar raglen ymweliadau dilysu. Yn y cyfarfod hwn, penderfynir pa ddilyswyr (mewnol ac allanol) ddylai ymweld â pha diwtoriaid. Ymwelir â phob tiwtor o leiaf unwaith dros gyfnod o dair blynedd, naill ai gan ddilysydd mewnol neu gan ddilysydd allanol.
Yn y cyfarfod cydlynu targedir gwahanol lefelau, mathau o ddarpariaeth, ardaloedd, lleoliadau a thiwtoriaid. Er mwyn sicrhau cysondeb ymhlith dilyswyr, ymwelir â nifer fechan o diwtoriaid (fel arfer 2 neu 3 ym mhob canolfan) gan ddilysydd mewnol a dilysydd allanol o fewn yr un flwyddyn. Bydd cydlynydd y ganolfan yn siarad â’r tiwtoriaid fydd yn cael ymweliad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r broses ddilysu ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Bydd y cyfarfod hwn hefyd yn gyfle i hyfforddi dilyswyr mewnol ac allanol, neu i adolygu gweithdrefnau gyda dilyswyr profiadol.
Rhoddir copi o adroddiadau’r dilyswyr allanol i (i) y sefydliad dyfarnu, (ii) y ganolfan iaith a (iii) y tiwtor. Bydd y ganolfan iaith yn rhoi copi o’r adroddiadau dilysu mewnol i’r sefydliad dyfarnu.
Hydref - Ebrill
Cynhelir yr ymweliadau dilysu rhwng mis Hydref a mis Ebrill.
Bydd y dilyswyr yn cysylltu â’r tiwtoriaid i drefnu’r ymweliad o leiaf bythefnos ymlaen llaw.
Bydd y dilyswyr mewnol ac allanol yn dilyn yr un gweithdrefnau ac yn adrodd yn ôl yn yr un ffordd. Rhoddir adroddiadau dilysu i’r sefydliad dyfarnu perthnasol, y ganolfan iaith a’r tiwtor o fewn 3-4 wythnos ar ôl pob ymweliad.
Pwrpas yr ymweliad ydy sicrhau bod tiwtoriaid â chyfrifoldeb am asesu unedau achrededig yn gwneud hynny’n deg ac yn gyson. Er mwyn gwneud hyn rhaid i’r ymweliad gyd-daro â gweithredu tasg asesu. Yn y cyd-destun hwn, nid cyfrifoldeb y dilysyddydy asesu gwaith y dysgwyr na gwneud sylwadau am ddulliau dysgu ond, yn hytrach, cadarnhau penderfyniadau’r tiwtoriaid ynghylch asesu.
Yn ystod yr ymweliad bydd y dilysydd eisiau gweld:
· Cynlluniau gwaith neu amserlen asesu’r tiwtor ar gyfer y tymor neu’r flwyddyn.
· Os ydy’r dilysydd yn dilysu unedau ysgrifenedig, dylai copïau o’r tasgau fod ar gael iddo/iddi.
· Ffurflenni adborth ymweliadau dilysu mewnol neu allanol blaenorol.
· Taflenni cofnodi cyrhaeddiad
Ebrill - Mehefin
Rhwng mis Ebrill a Mehefin cynhelir cyfarfod gwerthuso ym mhob canolfan iaith i adolygu’r adroddiadau dilysu, amlygu problemau a phenderfynu sut i rannu arfer da. Yn bresennol bydd swyddogion CBAC, swyddogion y canolfannau iaith sydd â chyfrifoldeb am asesu, a dilyswyr mewnol ac allanol.
Mehefin/Gorffennaf
Cynhelir cyfarfod gwerthuso rhyngranbarthol ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf. Pwrpas y cyfarfod hwn ydy sicrhau bod safonau’n cael eu gweithredu’n gyson ar draws y rhanbarthau. Mae’r cyfarfod hwn yn gyfle i fireinio’r llwybr credydau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn bresennol bydd swyddogion CBAC, swyddogion y canolfannau iaith sydd â chyfrifoldeb am asesu, a sampl o ddilyswyr mewnol ac allanol.
Gorffennaf - Awst
Ar ddiwedd y cwrs bydd tiwtoriaid yn anfon y taflenni cofnodi cyrhaeddiad i’r ganolfan iaith ac ym mis Awst bydd y canolfannau iaith yn anfon data electronig o’r unedau a gyflawnwyd i CBAC ynghyd â chopïau o’r taflenni cofnodi cyrhaeddiad.
Caiff datganiadau credydau a gyflawnwyd eu hanfon i’r canolfannau iaith fel arfer o fewn 4 wythnos i dderbyn y data; wedyn bydd y ganolfan iaith yn dosbarthu’r rhain i’r dysgwyr unigol.
Mehefin/Gorffennaf neu Medi/Hydref
Bydd cyfle yn ystod y misoedd hyn i’r canolfannau iaith neu’r sefydliadau dyfarnu ddarparu hyfforddiant ymgyfarwyddo ar gyfer tiwtoriaid ac adolygu gweithdrefnau gyda golwg ar sicrhau ansawdd.