Adnoddau
gan APADGOS
DVD Eclips Cymru a Chymreictod
Mae DVD newydd sbon gan y BBC ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar lefel Uwch i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o gefndir diwylliannol Cymru. Mae'r adnodd yn cynnwys dros 30 o glipiau fideo sy'n cyflwyno ystod eang o bynciau, unigolion a digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad diwylliant Cymru, gan gynnwys sefydlu S4C, streic y glöwyr a Thalwrn y Beirdd. Fel rhan o'r pecyn ceir hefyd nodiadau i diwtoriaid sy'n cynnwys trawsgrifiadau o bob clip, gwybodaeth gefndirol, cwestiynau gwylio a deall ac awgrymiadau am bynciau trafod. Elwyn Hughes sydd wedi dewis y clipiau a pharatoi'r pecyn nodiadau. Mae copïau rhad ac am ddim ar gael drwy'r canolfannau felly cysylltwch â'ch canolfan i holi am gopi. Gallwch hefyd wylio'r clipiau ar-lein drwy ymweld â www.bbc.co.uk/cymru/eclips.
Geiriau Glo
'Geiriau Glo' yw'r adnodd diweddaraf i'w ddefnyddio gan diwtoriaid a'u dysgwyr wrth ymweld ag un o safleoedd Amgueddfa Cymru. Fel parhad o'r pecynnau sydd ar gael eisoes i'w defnyddio yn Sain Ffagan - Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, mae 'Geiriau Glo' wedi ei ddatblygu i'w ddefnyddio yn Big Pit - Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae'r pecyn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefelau Mynediad a Sylfaen ac yn cynnwys gweithgareddau llafar ac ysgrifenedig.
Lansiwyd y pecyn ym Maes D gan Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Fel rhan o'r lansiad, eglurodd awdur y pecyn Cennard Davies pwrpas y pecyn a dylanwad y pyllau glo ar yr iaith Gymraeg. A wyddoch chi mai yn y pyllau glo mae gwreiddiau dywediadau tebyg i 'dim gobaith caneri', 'rhoi'r tŵls ar y bar' a 'talcen caled?’ Mae sawl un o staff yr Amgueddfa wedi cymeryd rhan mewn sesiynau Cymraeg yn y gweithle a drefnwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, felly manteisiwch ar y cyfleusterau drwy drefnu i ymweld â'r Amgueddfa gyda'ch dysgwyr.
Cynhelir sesiwn hyfforddi i diwtoriaid i gyflwyno'r pecyn yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn 9 Hydref rhwng 10yb a 1yh. Am fwy o fanylion am y sesiwn ac i fwcio lle, neu os hoffech chi dderbyn copi o'r pecyn, ffoniwch 01495 790311.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r pecyn o www.amgueddfacymru.ac.uk/geiriauglo.
Cymraeg o’r Crud
Lansiwyd y pecyn hwn ym Maes D eleni hefyd, gyda chymorth Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent a Martin Geraint. Mae'r pecyn 'Cymraeg o'r Crud' yn gwrs blasu wedi ei anelu at deuluoedd newydd sy'n adeiladu ar gyfres o bamffledi a baratowyd gan Twf i gyflwyno'r iaith Gymraeg i rieni newydd. Cwrs o 10 sesiwn yw hwn gyda phob un ar thema neilltuol yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith naturiol i'w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc. Mae'r pecyn yn cynnwys taflenni lliwgar i rieni sy'n cynnwys geirfa, patrymau iaith a chaneuon, deunyddiau atodol ar gyfer y tiwtor, CD-ROM yn cynnwys fersiynau digidol o'r taflenni a CD sain o ganeuon. Bydd copïau rhad ac am ddim o'r pecynnau yn cael eu dosbarthu i'r canolfannau yn fuan felly mynnwch gopi!
Cynhadledd Genedlaethol Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion 2010
Fel rhan o raglen hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal cynhadledd genedlaethol i diwtoriaid Ddydd Gwener, 19 Tachwedd 2010, yng Ngwesty'r Parc Thistle, Caerdydd.
Mae copi o'r rhaglen ddrafft ar gael isod.
Er mwyn cofrestru i fynychu’r gynhadledd a chwblhau ffurflen gofrestru electronig, ewch i http://www.cymraegioedolion.org/tutors/trainingqualifications/conference/?skip=1&lang=cy
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 8 Hydref 2010.