Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun tiwtor

O lygad y ffynnon ...

 

Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Ces i fy ngeni yng Nghaerdydd a’m magu yn Rhandir-mwyn, Sir Gaerfyrddin.

Ble cawsoch chi eich addysg?
Es i i Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri ac yna i Brifysgol Leeds, Prifysgol Helsinki,
Prifysgol Caerdydd ac yna i Brifysgol Harvard.

Beth oedd eich swydd gyntaf?
Darlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Gatholig Lublin, Gwlad Pwyl.

Beth yw eich diddordebau?
Cerddoriaeth, ffotograffiaeth, llenyddiaeth, bwyd, ieithoedd, theori lenyddol.

Ble ydych chi’n byw nawr?
Rwy’n byw yn Cambridge, Massachusetts.

Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?
Rwy’n gwneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard. Y testun yw “Canu Darogan y llawysgrifau Cymraeg cynharaf.”

Pryd dechreuoch chi fod yn diwtor Cymraeg i oedolion?
1998 siŵr o fod; ond dechreuais gynnal gwersi rhad ac am ddim gyda’r nos yma yn yr Unol Daleithiau ddwy flynedd yn ôl.

Soniwch am rai profiadau cofiadwy wrth diwtora.
Roedd treulio pum mlynedd yng Ngwlad Pwyl yn dysgu Cymraeg ymhlith yr uchafbwyntiau heb os – roedd brwdfrydedd y myfyrwyr yn anhygoel, heb sôn am y wefr o gael clywed y Gymraeg yn cael ei siarad dafliad carreg o wledydd fel Iwcrain a Belarws! Erbyn hyn mae nifer o’m cyn-fyfyrwyr wedi dod yn rhugl, a rhai wedi dod i fyw i Gymru hyd yn oed, heb sôn am fy nghyfaill da, Alek, sydd erbyn hyn yn llywio ochr Gymraeg yr Adran Geltaidd yn Lublin, ac yn dysgu’r iaith i genhedlaeth newydd o ddysgwyr.

Mae sylweddoli cymaint o ddiddordeb sydd yn y Gymraeg mewn gwahanol wledydd yn rhyfeddol bob tro. Yma yn yr Unol Daleithiau mae’r iaith yn rhan o’r maes llafur mewn colegau a phrifysgolion ledled y wlad, gyda chymdeithasau Cymreig o Maine i Galiffornia yn cynnal gwersi a digwyddiadau diwylliannol o bob math.

Rydyn ni’r Cymry yn tueddu i ddiystyrru pwysigrwydd a gwerth ein hiaith fel rhan o gynhysgaeth fyd-eang, ond yn hytrach yn syllu arni o berspectif eithaf plwyfol neu – yn waeth – yn ein gweld ein hunain yn nrych Lloegr a’r Saesneg. Rhaid meddwl yn rhyngwladol (ie, a gweithredu’n lleol, yn ôl y slogan!).

Pa fath o gyrsiau rydych yn eu dysgu ar hyn o bryd?
Gwersi nos wythnosol i bobl ardal Boston (i grwpiau sy’n cynnwys nifer o Gymry’r ardal, a hefyd bobl eraill sydd â diddordeb).

Oes gennych chi gyngor arbennig i rywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch amdani! Ffeindiwch lyfrau neu diwtor sy’n addas i chi (ni fydd pob un) a gofynnwch gwestiynau. Mae ‘pam?’ yn gwestiwn ardderchog, hyd yn oed os mai’r ateb a gewch chi yw ‘mi gewch chi wybod yr wythnos nesaf.’ Nid yw’r Gymraeg yn iaith ‘anodd’ fel y cyfryw, ac mae’r rheolau (yn groes i farn llawer) yn gallu bod yn reit ddealladwy. Gall unrhyw un ddod yn gymharol rhugl o fewn blwyddyn neu ddwy gydag ond ychydig o oriau o waith pwrpasol bob wythnos (ie, rhaid doncio’n ddyfal!). Yn bwysicach i gyd, efallai: gwnewch gamgymeriadau, (Gwell Cymraeg Crap na Saesneg Slic!) ond gwnewch eich gorau i beidio â gwneud yr un camgymeriadau’r tro nesaf!

Beth yw eich hoff fwyd?
Sgewyll

Pa berson (sy’n fyw neu’n farw) rydych chi’n ei edmygu fwyaf? 
Fel arfer, y sawl rwy’n darllen ei lyfr(au) ar y pryd; heddiw, felly, Jacques Derrida, y llenor Ffrangeg anhygoel fu farw ychydig flynyddoedd yn ôl. Ddoe, yn ddiau, Daniel Huws, yr arbenigwr ar lawysgrifau Cymraeg. Yfory, mae’n siŵr, awdur y Mabinogi neu ysgrifwr Llyfr Coch Hergest, pobl a oedd yn gyfrifol am lunio rhai o ryfeddodau mwyaf anhygoel diwylliant Ewrop.

llinell