Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cystadeuaeth

Siop y Trysordy, Aberaeron oedd wedi noddi’r gystadleuaeth yn y rhifyn diwethaf a mawr yw ein diolch i Jenny Hicks, perchennog y siop. Y wobr oedd tocyn anrheg gwerth £20 i’w wario yn y siop emwaith hyfryd hon.

Gan fod y siop wedi ei lleoli o fewn tafliad carreg i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010, y cwestiwn oedd:

Ble cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 ei chynnal?

Yr ateb wrth gwrs yw Llanerchaeron ger Aberaeron, a’r enillydd yw Iwan Roberts o Bontneddfechan, Castell-nedd.

Llongyfarchiadau mawr!

teitl cystadleuaeth 13
Mae llawer o sôn yn y rhifyn hwn am lansio adnoddau adeg yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent – o adnoddau CBAC a’r cwrs Cymraeg o’r Crud, i adnoddau’r iphone.

Mae’n berthnasol felly mai’r wobr y tro hwn yw pecyn o adnoddau Cymraeg i Oedolion yn rhoddedig gan Adran Cymraeg i Oedolion, CBAC.

Mae’r pecyn yn cynnwys copi o’r Ffeil Hyfedredd newydd sbon a hefyd yr adnodd Dysgu Trwy Lenyddiaeth (disgwylir i’r adnodd hwn fod ar gael erbyn mis Tachwedd.)

llu hyfedredd2Am gyfle i ennill y pecyn adnoddau, atebwch y cwestiwn hwn:

Pa gwrs Cymraeg i Oedolion sydd wedi ei addasu ar gyfer yr iphone?

Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu a’r dyddiad cau yw 15 Tachwedd, 2010. Felly brysiwch!

Pob lwc!

 

llinell