Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cerddi’r Galon

gan Susan May

Cyfres o gerddi i ddysgwyr gan ddysgwraig.
Adferiad y Gymraeg a byd natur yn y Cymoedd yn sbarduno bardd.

llun Cerddi'r GalonYn ddiweddar cyhoeddwyd cyfrol o gerddi newydd gan ddysgwraig o Faesteg. Mae Cerddi’r Galon gan Susan May yn gasgliad sy’n mynd â’r darllenydd i hen gymoedd diwydiannol y De, lle mae’r gweithfeydd bellach yn segur a byd natur i’w weld eto yn ei holl ogoniant.

Dechreuodd Susan ddysgu Cymraeg yn y nawdegau er mwyn siarad â’i mam pan oedd yn sâl.
Esboniodd, ‘roedd fy mam yn gaeth i’r gwely a doedd neb o’r hen deulu yn fyw i allu siarad Cymraeg â hi felly penderfynais ddysgu gyda hi ym 1994. Pan fu farw fy mam addewais i mi fy hun y busawn yn dal ati i ddysgu sut i siarad ac ysgrifennu’r iaith.’

Yn 2001 cipiodd Gadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’r gerdd Yfory ac mae’r casgliad yma yn cynnwys y gerdd honno yn ogystal â nifer o delynegion teimladwy a gonest eraill sy’n trafod ei magwraeth, ei bywyd a phynciau llosg fel glo brig. Mae’r cerddi yn edrych ar y creithiau sydd wedi eu gadael gan y diwydiannau trwm yn ei hardal.

‘Roedd tair glofa yn cyflogi 3,000 o löwyr ym mro Maesteg ac mae rhai o’r cerddi yn edrych ar yr harddwch sy’n dychwelyd i’r cymoedd hyn.’

Mae’n amlwg bod ei thiwtor Cymraeg, Morgan D Jones, wedi creu cryn argraff arni ac mae wedi ysgrifennu cerdd yn arbennig ar ei gyfer, ac ef sydd wedi ysgrifennu’r rhagair i’r gyfrol. Roedd Susan May yn ddarlithydd bydwreigiaeth tan iddi ymddeol. Er mwyn i ddysgwyr allu mwynhau’r cerddi mae wedi cynnwys geirfa ar ochr dde pob cerdd. Bydd Cerddi’r Galon yn sicr o gyfoethogi’r profiad o ddysgu’r iaith, gan apelio at ddysgwyr o bob safon a Chymry Cymraeg.

Mae’r gyfrol hon yn rhan o gyfres Golau Gwyrdd Y Lolfa.

llinell