Yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, rydym ni wedi bod wrthi’n cynhyrchu cyfres o bodlediadau sain ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad a Sylfaen. Ar hyn o bryd mae 17 yn y gyfres (sy’n tyfu’n wythnosol) – 13 ar gyfer lefel Mynediad a 4 ar gyfer Sylfaen. Rydym yn rhagweld y byddwn ni, yn y pen draw, yn ychwanegu 4 arall at nifer y podlediadau Sylfaen. Fe fyddwn ni hefyd yn cynhyrchu cyfres ar gyfer lefel Canolradd y flwyddyn nesa.
Podlediadau ymarfer yw’r rhain, nid gwersi – cyfle i’r dysgwyr ymarfer y patrymau a ddysgwyd ar y Cwrs Wlpan neu ar y cyrsiau Mynediad a Sylfaen. Dydyn nhw ddim yn dilyn unedau penodol y cyrsiau.
Gyda deunyddiau o’r fath, un o’r problemau mwya yw dod o hyd i ffordd hwylus o’u dosbarthu i’r dysgwyr. Wrth lwc, ym mis Mawrth fe lansiodd Prifysgol Morgannwg ei phresenoldeb ar iTunes U ac, o ganlyniad, mae’r podlediadau hyn yn awr ar gael ar iTunes ac mae modd i unrhyw un eu lawr lwytho, yn rhad ac am ddim, a’u cadw ar eu cyfrifiaduron. Gellir, wedyn, eu trosglwyddo i ffonau symudol neu i declynnau MP3 personol megis iPod neu debyg. Dywed y dysgwyr fod cael defnyddio’r podlediadau ar declynnau symudol fel hyn yn eu galluogi i ymarfer eu Cymraeg heb fod ynghlwm wrth gyfrifiadur neu stereo. Braf yw cael mynd am dro neu i siopa gyda’r Gymraeg yn atseinio yn eich clustffonau!
Dyma’r tro cynta inni wneud unrhyw beth o’r fath yma ac, felly, dw i’n siŵr bod llawer o le i wella. Roedd rhaid gwneud sawl penderfyniad ynglŷn â chywair iaith y podlediadau ac, wrth gwrs, eu cynnwys. Os cewch chi gyfle i wrando arnyn nhw, baswn i’n ddiolchgar iawn am unrhyw adborth neu gyngor ar sut i’w gwella.
Yn y cyfamser, croeso i chi neu’ch dysgwyr eu lawr lwytho. Ewch at http://itunes.glam.ac.uk Yna, troellwch lawr hyd at adran Subjects at Glam, yna Languages ac fe welwch chi ‘Dialogues for Welsh Beginners’. Bydd angen i chi gael fersiwn 9 meddalwedd iTunes ar eich cyfrifiadur ond mae hynny ar gael yn rhad ac am ddim hefyd!
Isod fe welwch restr o’r podlediadau hyd yn hyn.
Dr Maldwyn Pate (mkpate@glam.ac.uk)