Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun clawrcroeso i rifyn 11

Mewn ymateb i’r ceisiadau a gafwyd yn gofyn am fwy o wybodaeth yn dilyn cyhoeddi’r rhifyn diwethaf, mae’r pwyslais ar Gymraeg yn y Gweithle yn parhau yn y rhifyn hwn. Ceir mwy o astudiaethau achos yn yr erthygl Mwy o lwyddiannau Cymraeg yn y Gweithle a chynigir safbwynt diddorol gan Glenda Brown yn yr erthygl Mwy o arfau i greu Cymru ddwyieithog yn dilyn ei thaith i Gaergrawnt.

Cawn wybod sut mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog ac edrychwn yn ôl ar un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd ganddynt, sef y Seminar Cyfieithu a Drafftio Dwyieithog.

 

Hefyd ...

Bu Janette Jones hefyd ar daith, a hynny i Harrogate ym mis Ebrill ar gyfer Cynhadledd IATEFL. Edrychwn ninnau ymlaen at deithio i ardal Blaenau Gwent yr haf hwn a cheir manylion pellach yn yr erthygl Gweithgareddau’r Dysgwyr – Eisteddfod 2010. Yn yr adran Cystadleuaeth mae cyfle i chi ennill pâr o docynnau maes ar gyfer yr Eisteddfod.

Hoffech chi wybod mwy am yr Adnoddau newydd sydd ar gael? Estynnir gwahoddiad i chi gynnig sylwadau am adnoddau sydd wedi'u cyhoeddi neu syniadau am brojectau newydd.

Mae’r amser wedi dod unwaith yn rhagor i gasglu enwebiadau ar gyfer Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas a hefyd ar gyfer Tlws Coffa Robina Elis-Gruffydd.
Edrychwn ymlaen at y cyfle i anrhydeddu unigolion a grwpiau sy’n gweithio’n ddiwyd yn y maes Cymraeg i Oedolion.

O’r canolfannau ...

Mae Canolfan Morgannwg wedi creu podlediadau ac mae Canolfan Gwent wedi penodi Swyddogion newydd.  Cawn wybod pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn y Canolbarth a phwy o’r de sydd wedi cael Hwyl yng Nglanyfferi.

llun blodauDeunydd Dysgu ...

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel, o weithgareddau sgyrsio ar lefel Mynediad a Sylfaen i’r enghreifftiau o dasgau o Gwylio’n Graff ar gyfer lefel Uwch a Hyfedredd. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

 

Pob hwyl ar y darllen.

 

llinell