Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl seminar cyfieithu

Yn y ddogfen ‘Iaith Pawb,’ sef cynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog, nodir y dylid:

‘datblygu ar y cyd â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, strategaeth gyfieithu genedlaethol, a phrosiect i ddatblygu’r Gymdeithas, dan arolygiaeth y Bwrdd, yn gorff rheoleiddio ar gyfer y proffesiwn.’ 

Yn dilyn hynny, lansiwyd y strategaeth honno a phwysleisir yn y strategaeth fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn edrych ar ddulliau o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle fel rhan o normaleiddio dwyieithrwydd ac mae’n gweithredu prosiectau penodol i’r perwyl hwn.

logo bwrdd yr iaith

Seminar

Yn rhan o’r broses hon, cynhaliodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg seminar yn y maes cyfieithu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddiwedd mis Chwefror 2010. Bwriad y seminar oedd tynnu sylw at weithgareddau y mae'r Bwrdd, ac eraill, yn ymwneud â hwy yn y maes cyfieithu a chynhyrchu dogfennaeth ddwyieithog. Trafodwyd cyfieithu a'r defnydd a wneir o dechnoleg gwybodaeth a thynnwyd sylw at fanteision meddalwedd cof cyfieithu sy'n hwyluso a chyflymu gwaith cyfieithwyr. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Tegau Andrews o Brifysgol Bangor ynghylch pwysigrwydd lleoleiddio gwefannau a’r dull gorau o wneud hynny.

Cyflwynwyd dull newydd ac arloesol o ddatblygu holiaduron Cymraeg Cyfrifiad 2011 gan Jayne Mathias o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyfrifiad 2011 fydd yr un ar-lein cyntaf a bydd yr holl holiaduron perthnasol a’r cyfleuster cymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr holiaduron yn cynnwys cwestiwn ar hunaniaeth genedlaethol a bydd y cwestiwn hwnnw yn cynnwys blwch ticio i’r Cymry. Felly, am y tro cyntaf erioed, bydd gan bawb yr hawl i ddatgan mai Cymro / Cymraes ydynt.

Cafwyd blas hefyd ar waith ymchwil doethuriaethol Robat Trefor ym Mhrifysgol Bangor, sy’n edrych ar batrymau iaith ysgrifenedig gyda nawdd gan y Bwrdd. Cafwyd cyflwyniad ynghylch y maes cyfieithu llenyddol gan Sioned Rowlands o Lenyddiaeth Cymru Dramor a rhoddwyd sylw hefyd i bwysigrwydd cyfieithu ar y pryd fel arf i hybu defnyddio’r Gymraeg yn gymunedol gan Judith Kauffmann, bellach o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. I goroni’r cyfan, cynigiodd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru cynnig eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y proffesiwn cyfieithu Cymraeg / Saesneg yng Nghymru.

Cysylltwch â Lowri W. Williams lowri.williams@byig-wlb.org.uk os ydych yn dymuno derbyn rhagor o wybodaeth am y seminar neu am waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y maes cyfieithu, terminoleg ac enwau lleoedd.

llinell